Mae'r Prif Weinidog newydd wedi cyhoeddi dau gyllun sylweddol yn ddiweddar. Y cyntaf oedd y bwriad i recriwtio 20,000 o heddweision ychwanegol. Yr ail oedd cyllid newydd gwerth £1.8bn i'r GIG yn Lloegr, gyda £110m o'r arian yna yn dod i Gymru o dan Fformiwla Barnett. Er bod y ddau gyhoeddiad yn galonogol, mae'n werth cofio yn gyntaf y bydd recriwtio swyddogion heddlu ychwanegol ond yn cynyddu cyfanswm y swyddogion i'r lefelau a oedd eisoes yn bodoli cyn 2010. Yn ail, er y bydd cyllid ychwanegol ar gyfer gofal iechyd, fydd dim arian ychwanegol yn cael ei ddyrannu i ofal cymdeithasol.
Gyda phoblogaeth sy'n gynyddol heneiddio yn arwain at alw cynyddol am ofal cymdeithasol bob blwyddyn, rydyn ni ar fin cyrraedd sefyllfa argyfyngus ledled y DU. Felly, mae'n hanfodol bod Llywodraeth y DU yn cydnabod hyn trwy ddarparu cyllid ychwanegol. Mae bron i ddegawd o fesurau cyni cyllidol a thoriadau yn y sector cyhoeddus wedi cael effaith anhygoel ar allu Awdurdodau Lleol ledled y DU i ddarparu gwasanaethau. Er bod y caledi yna wedi gwella rhywfaint yn ystod y ddwy flynedd ariannol ddiwethaf, fydd y cyllid ychwanegol yma ddim yn mynd i'r afael â'r diffygion enfawr go iawn sydd gyda ni, ac sy'n parhau i gynyddu.
Rydw i wedi ysgrifennu o'r blaen am ba mor bwysig yw hi bod Llywodraeth San Steffan yn cynnal Adolygiad eglur o Wariant dros dair blynedd, ond mae'n debyg fydd hyn ddim yn digwydd bellach, a hynny o ganlyniad i'r ansicrwydd parhaus ynghylch Brexit ac ynghylch gwleidyddiaeth ar y cyfan. Byddai adolygiad cynhwysfawr wedi caniatáu i awdurdodau lleol gynllunio mewn modd strategol ar gyfer y blynyddoedd ariannol sydd i ddod a'n galluogi ni i roi cyfrif am y pwysau chwyddiant cynyddol ar ein gwasanaethau craidd, fel gofal cymdeithasol ac addysg. Mae hwn yn faes arall sy wedi wynebu pwysau sylweddol yn seiliedig ar alw, gan gynyddu'r straen ymhellach ar Lywodraeth Leol.
Er mwyn gwneud iawn am y pwysau yma, bu raid i lawer o awdurdodau godi treth y cyngor gymaint â 10% dros y blynyddoedd diwethaf, gan roi baich ar breswylwyr. Rydyn ni wedi llwyddo osgoi hyn yn Rhondda Cynon Taf. Ar gyfer y flwyddyn ariannol yma, rydyn ni wedi pennu'r cynnydd lleiaf yng Nghymru. Daw hyn yn sgîl y cynnydd cenedlaethol isaf heblaw am un awdurdod arall yn 2018/19 a'r cynnydd lleol isaf erioed yn ystod y ddwy flwyddyn ariannol flaenorol. Ein bwriad bob amser yw diogelu preswylwyr rhag cyni cyllidol ble bynnag y bo'n bosibl. Ein nod wrth bennu lefelau Treth y Cyngor fydd parhau ar lefel o 3% gan ein bod o'r farn bod trosglwyddo baich uwch i'r sawl sy'n talu Treth y Cyngor yn annheg ac yn anghynaliadwy.
Felly, gobeithiaf fod modd inni ddisgwyl cyhoeddiadau pellach ynglŷn â chyllid gan Lywodraeth San Steffan a fydd yn dangos ei bod yn barod i weithredu ar ei honiad bod y cyfnod cyni, o'r diwedd, ar ben. Gobeithiaf hefyd bydd yn cydnabod yr alw gan arweinwyr llywodraeth leol o bob cwr o'r DU i roi rhyddhad i'r gwasanaethau hollbwysig rydyn ni'n eu cynnig, y mae wir angen adnoddau ychwanegol arnyn nhw.
Wedi ei bostio ar 16/08/19