Roedd canfyddiadau diweddar y panel adolygu annibynnol ar wasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dangos, er bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud o ran unioni methiannau gwasanaethau, bod rhaid gwneud llawer iawn yn fwy er mwyn mynd i'r afael â'r problemau yn ey cyfanrwydd.
Dydy'r newid rydyn ni eisiau ei weld ddim yn mynd i ddigwydd yn syth, ond mae'n galonogol gweld bod camau'n cael eu cymryd i lywio'r gwasanaethau tuag at y cyfeiriad cywir, gyda'r panel yn canfod bod 8 o'r 11 o argymhellion brys wedi'u cwblhau hyd yn hyn. Mae'n gwbl hanfodol bod y cynnydd yn parhau er mwyn cyflymu'r broses o gyflawni'r gwelliannau yma fel bo'r modd i breswylwyr gael mynediad at wasanaethau iechyd swyddogaethol a chael hyder ynddyn nhw. Yn rhan o hyn, bydda i'n parhau i gynnal cyfarfodydd rheolaidd ag uwch reolwyr y Bwrdd Iechyd a chael trafodaethau gonest gyda nhw fydd yn angenrheidiol i sicrhau bod y gwasanaethau a'r broses o newid yn cael eu cyflawni'n effeithiol.
Yng nghyfarfod nesaf y Cyngor Llawn, ddydd Mercher, 23 Hydref, bydd uwch gynrychiolwyr o Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn dychwelyd i annerch yr Aelodau unwaith eto, yn dilyn eu hymweliad cychwynol ar ddydd Mercher, 19 Mehefin, lle cymerodd Gynghorwyr y Siambr ran mewn sesiwn heriol a chadarn â'r Bwrdd Iechyd. Rwy'n siŵr y bydd y cyfarfod yma yr un mor ddefnyddiol a bydd yr Aelodau'n awyddus i glywed barn uwch reolwyr y Bwrdd Iechyd ar y camau nesaf i wella gwasanaethau.
Bydd Cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020/2021 yn cael ei chyhoeddi ymhen ychydig wythnosau ac mae'n gyfnod o ansicrwydd i Awdurdodau Lleol wrth i ni ddisgwyl i glywed beth fydd lefel y gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Rydw i, ynghyd ag Arweinwyr Cynghorau eraill o bob rhan o Gymru, wedi bod yn lobïo Llywodraethau’r DU a Chymru am gyllid ychwanegol trwy gydol y flwyddyn, gan obeithio y byddan nhw'n darparu’r adnoddau angenrheidiol i Awdurdodau Lleol, er mwyn i ni amddiffyn a gwella ein gwasanaethau rheng flaen. Er ei bod yn ymddangos bod caledwch cyllidebau blaenorol wedi lleddfu, does dim amheuaeth bod bron i ddegawd o lymder wedi rhoi straen aruthrol ar ein gwasanaethau statudol mawr fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol, sy'n parhau i wynebu galw cynyddol o achos chwyddiant a phoblogaeth sy'n heneiddio.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) wedi nodi'n glir ers cryn amser oni bai bod Awdurdodau Lleol yn derbyn y cyllid o'r Grant Bloc ac adnoddau ychwanegol a basiwyd i lawr o San Steffan, yna bydd yn anodd iawn i Gynghorau gymryd baich ychwanegol ar faterion fel cynnydd i bensiynau a phryderon eraill.
Yn olaf, roeddwn i'n falch o weld bod menter y Cyngor o ddarparu gwasanaeth Di-Wifr am ddim yn Nghanol Trefi yn RhCT, bellach wedi'i threialu yn Aberdâr. Mae hyn yn golygu ein bod ni nawr yn gwneud cynnydd rhagorol wrth gyflawni ein holl ymrwymiadau i breswylwyr o ddechrau tymor y Cyngor cyfredol yn 2017. Rwy'n siŵr y bydd hyn yn gymhelliant ychwanegol i ddenu ymwelwyr a thrigolion i ddod i ganol ein trefi a siopa'n lleol. Mae'r cynllun yn cael ei gyflawni yn sgil gwelliannau i'n rhwydwaith teledu cylch cyfyng yng nghanol ein trefi ac rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno'r cynllun yma yn yn y chwe thref sy'n weddill, gydag Aberpennar yn elwa ohono nesaf.
Wedi ei bostio ar 21/10/2019