Wrth i ddechrau gwyliau'r haf agosáu, mae'r Cyngor yn paratoi ar gyfer cyfnod prysur wrth ddarparu ystod o brosiectau ar draws y Fwrdeistref Sirol. Gobeithio cawn ni dywydd gwych fel llynedd. Bydd hyn yn ein galluogi ni i wneud cynnydd da ar ein prosiectau ac yn galluogi trigolion i ddefnyddio'r atyniadau a'r cyfleusterau awyr agored ardderchog sydd eisoes ar gael ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Rhan annatod o'n hymgyrch i greu RhCT iach a bywiog yw ein buddsoddiad parhaus mewn cyfleusterau chwaraeon awyr agored. Trigolion ardal y Beddau yw'r rhai diweddaraf i allu elwa o hyn wedi i gyfleuster chwaraeon pob tywydd newydd yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog gael ei drosglwyddo i'r ysgol. Bydd datblygiad Bryncelynnog, fel ein caeau 3G eraill, ar gael i'w defnyddio gan y gymuned ehangach yn fuan.
Hwn yw'r 13eg cyfleuster i gael ei gwblhau fel rhan o #buddsoddiadRhCT ac mae'n dilyn y cae chwarae 3G yn Ysgol Gyfun Rhydywaun. Rydyn ni wedi cyhoeddi cynlluniau i adeiladu cae ychwanegol yn Nhreorci. Unwaith bydd y ddau gae yma yn y Beddau ac yn Nhreorci wedi cael eu cwblhau, byddwn ni wedi cyrraedd ein targed uchelgeisiol o sicrhau bod gan bob un o drigolion y Fwrdeistref Sirol fynediad at gae chwaraeon 3G o fewn 3 milltir o'u cartref.
Mae gan y cyfleuster ym Mryncelynnog hefyd drac athletau o gwmpas ymyl y cae chwarae 3G. Rydyn ni'n disgwyl bydd hyn yn cael ei gwblhau yr wythnos nesaf wedi i'r marciau gael eu gosod. Bydd hyn yn golygu ein bod ni bellach wedi cwblhau gwaith ar ddarparu dau gyfleuster athletau awyr agored yma yn RhCT, ar ôl agor Stadiwm Ron Jones yn Aberdâr ym mis Medi 2018. Er mwyn adeiladu ar hyn, mae gwaith wedi dechrau'n ddiweddar ar gyflawni gwelliannau sylweddol i drac Brenin Siôr V yn Nhonypandy trwy fuddsoddiad o £500,000 i sicrhau bod gan bob un o'n tair prif ardal ei chyfleusterau athletau awyr agored ei hun. Rydw i'n siŵr y bydd llawer o Awdurdodau Lleol eraill yn eiddigeddus o'r cyflawniad yma.
I ategu at hyn, rydyn ni hefyd yn buddsoddi £1.8 miliwn yn ein parciau, mannau chwarae, tiroedd hamdden a mannau gwyrdd yn ystod y flwyddyn ariannol yma. Mae buddsoddiad o £1 miliwn ar gyfer parciau a mannau gwyrdd yn fuddsoddiad heb ei debyg o'r blaen yn y maes yma a byddwn ni'n edrych i adeiladu ar hyn yn ystod blynyddoedd ariannol i ddod. Mae rhai o'r cynlluniau mwy sydd i'w cwblhau yn ystod y flwyddyn ariannol yma ym Mharc Pentre, Parc Bronwydd, Maes Hamdden Hirwaun, Maes Hamdden Y Ddraenen Wen, a Pharc Aberdâr - lle rydyn ni eisoes wedi cyflawni gwelliannau sylweddol trwy raglen fuddsoddi gyda'r nod o wella'r cynnig i ymwelwyr ac adfer llawer o nodweddion gwreiddiol y Parc. Dathlodd y Parc poblogaidd ei ben-blwydd yn 150 oed yn ystod y penwythnos, ac roedd yn wych gweld cynifer yn ymuno â'r dathliadau.
Wedi ei bostio ar 17/07/19