Roeddwn yn falch o weld bod dros 37,000 o ymwelwyr wedi galw heibio i Ganolfan Pennar ers iddi hi agor ym mis Mehefin. Rydw i wedi ysgrifennu o'r blaen am bwysigrwydd yr angen i ddatblygu hybiau cymunedol, a'i weld yn ffordd o ddod â gwasanaethau ynghyd, a thaclo materion fel unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol ar draws Rhondda Cynon Taf. Rwy'n gobeithio wir bod y ffigyrau yna'n adlewyrchiad da o'r llwyddiannau allwn ni eu disgwyl o ddatblygiadau tebyg yn y dyfodol.
Mae'r hwb wedi bod yn brysur iawn bob tro rydw i wedi galw yno, ac mae'n wych gweld canolbwynt arbennig i'r gymuned mewn lle mor hygyrch ac amlwg yng nghanol y dref. Mae datblygiad tebyg hefyd wedi'i gwblhau yng Nglynrhedynog, ac mae cynlluniau pellach ar y gweill ar gyfer y Porth ac adeilad y Cyngor, Llys Cadwyn ym Mhontypridd. Weithiau, rhaid gwneud penderfyniadau dewr a chyflawni'r gwelliannau angenrheidiol er mwyn ymateb i heriau a gofynion cyfoes.
Dyma sut rydyn ni hefyd wedi mynd ati i foderneiddio a gwella'r ystod o opsiynau gofal preswyl sydd ar gael i'n trigolion hŷn ni. Efallai eich bod chi'n gwybod bod y Cabinet wedi cytuno'n ddiweddar i gynnal ymgynghoriad 12 wythnos pellach i drafod dyfodol ein cartrefi, a fydd dim penderfyniad yn cael ei wneud tan fod canlyniadau'r ymgynghoriad wedi'u hystyried ac wedi'u cyflwyno'n swyddogol gan Swyddogion.
Mae RhCT yn rhedeg 11 cyfleuster gofal preswyl ar hyd y Sir. Mae'n rhif sylweddol i gymharu ag Awdurdodau Lleol eraill yng Nghymru. Er bod y galw am wasanaethau gofal cymdeithasol yn tyfu o hyd, dyw hyn ddim yn ffordd o arbed costau. I'r gwrthwyneb, rydyn ni wedi ymrwymo'n llwyr i wella'r ystod o opsiynau sydd ar gael. Yn rhan o hyn, rydyn ni'n bwriadu buddsoddi oddeutu £50 miliwn i greu cyfleusterau Gofal Ychwanegol ledled RhCT er mwyn ein galluogi i gynnig darpariaeth ar gyfer amrywiaeth o anghenion a chan hefyd gynnig mwy o annibynniaeth i breswylwyr hŷn.
Mae mwy a mwy o'n trigolion hŷn ni'n dewis derbyn eu gofal a chefnogaeth yn eu cartrefi eu hunain ac mae'r model Gofal Ychwanegol yn ein galluogi i gynnal hynny. Er enghraifft, bydd y cyfleusterau yn galluogi partneriaid i fyw gyda'i gilydd, ac, yn ychwanegol, bydd pob uned yn cynnwys technoleg gynorthwyol a'u hystafelloedd ymolchi eu hunain.
Yn ogystal â darparu 300 gwely ychwanegol, mae modd darparu gofal arbenigol ar gyfer anghenion penodol drwy'r fenter Gofal Ychwanegol. Mae hynny'n cynnwys unedau dementia, a fydd yn cynnwys ystod well o wasanaethau i bobl ag anghenion cymhleth. Mae'r model gofal yma'n ein galluogi i deilwra lefel y gefnogaeth ar gyfer anghenion penodol yr unigolyn. Bydd modd cynyddu neu leihau'r gofal fel bo angen.
Rydyn ni wedi nodi’n gwbl glir bod y Cyngor yn dymuno chwarae rhan flaenllaw yn y farchnad gofal. Yr opsiwn delfrydol sy'n cael ei drafod yw cadw saith o'r cyfleusterau preswyl presennol. Os yw'r cynigion yn symud ymlaen, rydyn ni wedi ymrwymo i osgoi diswyddiadau gorfodol, gan gydnabod y gofal gwych mae ein staff ni’n ei ddarparu. Yn amlwg, mae hyn yn fater sensitif, a petai'r cynigion yn parhau, byddwn yn sicrhau bod unrhyw waith dadgomisiynu yn cael ei wneud fesul cam, yn dibynnu ar amgylchiadau unigolion a gan sicrhau bydd llety arall neu newydd ar gael. Mae modd dod o hyd i ragor o wybodaeth am y newidiadau arfaethedig yma.
Efallai bydd preswylwyr hefyd yn gwybod bod Trafnidiaeth Cymru yn y broses o adnewyddu tocynnau teithio cyfredol gan eu bod nhw'n dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn calendr yma, er y bydd y tocynnau cyfredol yn parhau i weithio tan 31 Rhagfyr 2019. Y ffordd fwyaf cyflym a hawdd o adnewyddu'ch tocyn bws yw cwblhau'r broses ar-lein trwy fynd i https://tfw.gov.wales/cy/cerdynteithio. Fel arall mae modd lawrlwytho ffurflenni papur yma https://tfw.gov.wales/cy/cerdynteithio neu ofyn i Drafnidiaeth Cymru am ffurflen. Bydd y cardiau teithio newydd yn cynnig yr un buddion â'r cardiau cyfredol, a bydd gyda nhw ddyddiad dod i ben wedi'i seilio ar ben-blwydd deiliad y cerdyn er mwyn osgoi adnewyddu cardiau mewn niferoedd mawr yn y dyfodol.
Yn olaf, mae trefniadau ar waith ar gyfer Rasys Nos Galan eleni, gyda galw mawr am bob un o gategorïau’r ras unwaith eto. Bydd modd cofrestru am y trydydd tro o 6pm ddydd Llun 23 Medi, gyda llefydd ychwanegol ar gael ar gyfer pob un o'r pedwar categori (ras hwyl i oedolion, ras elît i ddynion, ras elît i fenywod a rasys i blant). Cofiwch, os oes lleoedd ar gael, mae modd cofrestru unrhyw bryd.
Wedi ei bostio ar 23/09/2019