Yn fy mlog diwethaf, soniais am sut mae'r Setliad Llywodraeth Leol Dros Dro ar gyfer 2020–21 yn cynrychioli'r trefniant cyllido gorau ers deuddeg mlynedd – gan alluogi Llywodraeth Leol i fuddsoddi yn ein Gwasanaethau Rheng Flaen allweddol ac amrywiaeth o feysydd blaenoriaeth yn dilyn bron i ddegawd o doriadau parhaus gan Lywodraeth San Steffan.
Yn ystod cyfarfod Cabinet y Cyngor yr wythnos yma, byddaf i'n cynnig buddsoddiadau sylweddol mewn amrywiaeth o feysydd, gan gynnwys hwb gwerth £200,000 ar gyfer y gwasanaethau ieuenctid gyda dyraniad ychwanegol gwerth £50,000 ar gyfer troseddau'r ifainc; yn ogystal ag £12.7miliwn ar gyfer ysgolion, sy'n cyfateb i gynnydd o 8.5%. Mae hyn yn gynnydd sylweddol ar yr ymrwymiad a wnaethon ni i ddarparu cymorth i'n hysgolion yn ystod bob blwyddyn ariannol. Yn ogystal â hyn, byddaf i'n cynnig dyrannu £9.3miliwn i'r Gwasanaethau Cymuned a Gwasanaethau i Blant, sy'n cynnwys gofal cymdeithasol. Dyma wasanaeth allweddol dan bwysau dwys o ganlyniad i gostau chwyddiannol ar draws Cymru. Byddaf i hefyd yn gofyn bod y Cabinet yn cytuno i ddyrannu cyllid i gefnogi ymdrech sylweddol i fynd i'r afael â thlodi yn ardaloedd targed y Fwrdeistref Sirol.
Er y setliad cadarnhaol a'r cyllid ychwanegol y mae modd i ni ei ddyrannu, mae dal bwlch yn y gyllideb y mae gofyn cyfreithiol i ni fynd i'r afael ag ef. Yn rhan o'r strategaeth i gau'r bwlch yma, rydyn ni'n cynnig bod Treth y Cyngor yn cynyddu 2.85% ar gyfer blwyddyn ariannol 2020–21. Bydd hyn ymhlith y cynnydd isaf yng Nghymru unwaith eto, ac yn golygu y bydd preswylwyr RhCTwedi gweld y cynnydd lleiaf yn Nhreth y Cyngor o'i gymharu ag awdurdodau lleol eraill Cymru ers dechrau tymor y Cyngor cyfredol.
Mae ein gwaith rheoli gofalus mewn perthynas â'n cyllid wedi ein galluogi ni i fod mewn sefyllfa gymharol gryf lle dydyn ni ddim yn cynnig unrhyw doriadau i wasanaethau ac yn osgoi'r cynnydd uchel mewn Treth y Cyngor y mae rhai Awdurdodau Lleol cyfagos wedi'i weld.
Wedi ei bostio ar 23/01/20