Fel Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, roeddwn i wedi syfrdanu ar haelioni staff y cyngor tuag at Apêl Basged Nadolig Adref a gafodd ei drefnu drwy Swyddfa'r Cabinet. Llifodd y rhoddion o fwyd i swyddfeydd y Cyngor yng Nghwm Clydach, ac roeddwn i'n falch iawn i allu eu rhoi i gynrychiolwyr Adref.
Mae'r Nadolig yn gyfnod i ni ystyried pa mor ddiolchgar yr ydyn ni am ein teulu, ein ffrindiau, ein hiechyd a'n cartrefi. Ond, mae hefyd yn gyfnod i ni gofio a helpu'r rheini sy'n llai ffodus. Bydd yr holl roddion a wnaed gan y staff yn mynd i bobl sy'n ddigartref a theuluoedd mewn sefyllfaoedd argyfwng yn RhCT a Merthyr Tudful dros gyfnod y Nadolig. Diolch mawr iawn i bob aelod o staff a roddodd eitemau.
Mae digartrefedd ac amddifadedd yn parhau i fod yn faterion pwysig i ni, sefydliadau partner ac i Lywodraeth Cymru. Rydyn ni fel cyngor yn parhau i ddarparu cymorth drwy wasanaethau a rhoi arian tuag at elusennau megis Llamau, sydd yn ceisio helpu pobl ifainc sy'n ddigartref. Rydyn ni yn cydnabod effaith llymder ar ein cymunedau, a hefyd y nifer uchel o bobl sy'n dibynnu ar fanciau bwyd. Felly, dros y flwyddyn ddiwethaf, rydyn ni wedi bod yn falch i allu cefnogi pedwar banc bwyd lleol drwy roddi cerbyd ac ariannu’r swydd Cydlynydd y Banciau Bwyd drwy'r Trussell Trust.
Wrth gwrs, mae yna gyfrifoldeb ehangach arnom ni i helpu'r rheini sy'n dioddef o dlodi a chynorthwyo pobl i gael cartrefi. Bydd hyn yn parhau i fod yn flaenoriaeth ar gyfer 2017. Bydd y cyngor yn parhau i ddarparu'r gwasanaethau angenrheidiol a buddsoddiadau sydd wedi'u targedu i feysydd allweddol megis cyfleoedd cyflogaeth, adfywio ac ysgolion, drwy raglen #buddsoddiadRhCT.
Drwy fuddsoddiadau ac uchelgeisiau fel hyn, gallen ni gynorthwyo trigolion i ddatblygu'r sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw er mwyn dod o hyd i waith, er mwyn creu ragor o swyddi ac er mwyn i bobl allu cael mynediad iddyn nhw.
Hoffwn gloi'r blog diweddaraf trwy ddweud diolch mawr i bawb sydd wedi cyfrannu at Apêl Siôn Corn unwaith eto eleni. Mae'r apêl yn sicrhau bod plant sy'n llai ffodus nag eraill yn derbyn o leiaf un anrheg ar Ddydd Nadolig. Llynedd fe gasglwyd dros 3,000 o anrhegion. Eleni, o ganlyniad i haelioni'r trigolion a busnesau, rydyn ni wedi casglu dros 4,200! Diolch yn fawr!
Wedi ei bostio ar 21/12/2016