Y drafferth wedi'i hachosi gan Faw Cŵn yw un o'r prif bryderon a godwyd gan drigolion gyda'u Cynghorydd lleol. Dyma'r rheswm i'r Cabinet newydd, fel un o'i benderfyniadau cyntaf ar ôl etholiadau llywodraeth leol ym mis Mai, gyflwyno Gorchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus i fynd i'r afael â'r mater yma yng nghymunedau ledled RhCT. A minnau'n berchennog ci, mae'n anodd deall perchnogion anghyfrifol nad ydyn nhw'n codi baw cŵn. Mae peidio â chodi baw cŵn yn gwneud ein strydoedd a mannau cyhoeddus yn frwnt ac yn peryglu ein hiechyd.
Mae modd i'r ymddygiad anghyfrifol yma gael effaith ddifrifol ar drigolion fel yn achos Collin Smith sy'n cefnogi ymgyrch y Cyngor sy'n mynd i'r afael â pherchnogion cŵn anghyfrifol. Cafodd coes Collin ei thrychu o ganlyniad i haint o faw cŵn ar gae rygbi 38 mlynedd yn ôl.
Roedd Collin, sy'n dod o Donyrefail yn wreiddiol ond sy bellach yn byw ym Meisgyn, Pont-y-clun, yn 15 oed ym mis Tachwedd 1979, lle roedd e'n chwarae mewn gêm rygbi'r ysgol yn y Rhondda. Yn ystod y gêm, torrodd esgyrn yn ei goes a drodd yn anaf newid bywyd o ganlyniad i haint o faw cŵn ar y cae. Yn sgil y digwyddiad fyddai Collin, oedd yn gapten y tîm ifanc ac wedi derbyn cap o dîm o dan 15 oed Cymru, byth yn chwarae rygbi eto.
Mae Collin sy'n 53 oed yn cefnogi ymgyrch Cyngor Rhondda Cynon Taf Ewch â'r C*chu 'da chi sy'n hyrwyddo'r mesurau newydd ynghylch baw cŵn fydd yn dod i rym o 1 Hydref 2017 drwy Orchymyn Diogelu Mannau Cyhoeddus. Yn ystod mis Awst a Medi, mae'r Cyngor yn cynnal achlysuron codi ymwybyddiaeth ledled y Fwrdeistref Sirol er mwyn i aelodau o'r cyhoedd dderbyn rhagor o wybodaeth am y mesurau newydd. Nod yr achlysuron yw pwysleisio bod rhaid i berchnogion cŵn gario bagiau neu ryw ddull addas arall er mwyn cael gwared â'r baw o 1 Hydref. Caiff cŵn hefyd eu gwahardd o HOLL ysgolion, mannau chwarae, a chaeau chwaraeon sy wedi'u marcio y mae'r Cyngor yn eu cynnal a'u cadw. Bydd rhagor o swyddogion gorfodi yn crwydro'r strydoedd a bydd raid i berchnogion roi'u cŵn ar dennyn os yw'r swyddogion yn gofyn iddyn nhw wneud. Bydd perchnogion cŵn anghyfrifol yn wynebu dirwy o £100 o dan y mesurau newydd.
Nod ein hymgyrch Ewch â'r C*chu 'da chi yw rhoi neges glir bod gan bob un ohonyn ni sy'n berchnogion cŵn ddyletswydd i fod yn gyfrifol. Dyma'r rheswm bod y Cyngor yn dangos agwedd llym tuag at roi'r neges yma i'n trigolion.
Yn anffodus, mae'r tywydd wedi troi ar ôl i wyliau'r ysgol ddechrau. Dyw hyn ddim wedi atal trigolion rhag mwynhau'r amrywiaeth o weithgareddau sy'n cael eu cynnal yn Rhondda Cynon Taf dros wyliau'r ysgol. Mae nifer wedi manteisio ar y cyfle i fwynhau profiad ar lan y môr ym Mharc Treftadaeth Cwm Rhondda, diolch i draeth trefol y Porth ac mae parc mwyaf y Cyngor bellach yn paratoi ar gyfer achlysur Cegaid o Fwyd Cymru - gŵyl fwyd amaethyddol sy'n cael ei chynnal ym Mhontypridd y penwythnos yma. Beth bynnag yw'r tywydd, bydd yr ŵyl yn benwythnos i'w gofio ac yn rhoi hwb i'r economi leol.
Wedi ei bostio ar 04/08/17