Yn gynharach y mis yma, cyhoeddais y byddai cynlluniau manwl yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet a fyddai'n amlinellu cyfleoedd buddsoddi ar gyfer £300 miliwn ychwanegol i'w dyrannu i brosiectau mawr, yn ychwanegol at ein Rhaglen Gyfalaf arferol.  Os byddan nhw'n cael eu cymeradwyo, byddai'r cynlluniau hyn yn gweld y Cyngor yn cyflawni'r rhaglen fuddsoddi fwyaf mewn un genhedlaeth o leiaf, ac yn hanes y Sir mae'n debyg. Felly, rydyn ni'n parhau i chwilio am ffyrdd o drawsnewid RhCT a gwella ein gwasanaethau i fodloni gofynion yr 21ain ganrif.

Rydyn ni eisoes wedi buddsoddi mwy nag unrhyw Sir arall yng Nghymru er mwyn gwella ein cyfleusterau addysg trwy raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Gallai cyfran o'r cyllid arfaethedig yma hefyd gael ei ddefnyddio i roi hwb i'r agenda uchelgeisiol yma drwy adeiladu ar y swm o tua £200m sydd eisoes wedi ei ddyrannu.  Mae cyfleusterau newydd megis Ysgol Y Pant ac Ysgol Gymunedol Aberdâr wedi dwyn ffrwyth i'r plant sy'n dysgu yno. Yn ogystal â hyn, byddwn ni'n edrych i foderneiddio a gwella ein hysgolion, lle'n bosib er mwyn darparu amgylchedd dysgu gwell ac adeiladu ar y cynnydd positif yn lefelau cyrhaeddiad ein hysgolion dros y blynyddoedd diwethaf.

Bydd yr arian yma hefyd yn sicrhau ein bod ni'n parhau i foderneiddio meysydd blaenoriaeth allweddol, megis isadeiledd ar draws y Sir. Bydd hyn yn sicrhau y gall ein rhwydwaith priffyrdd a chludiant ymdopi â'r galw cynyddol sydd arnyn nhw. Mae hefyd yn gefn i'r potensial economaidd y mae Rhondda Cynon Taf yn ei gynnig i ardal De Cymru trwy ein rhan o Fargen Ddinesig Rhanbarth Cyfalaf Caerdydd o £1.2bn

Credaf yn gryf bod buddsoddi yn yr ardaloedd cywir yn hanfodol i'n hymdrechion i adfywio'r Fwrdeistref Sirol, ac mae ein hymagwedd at hyn eisoes yn dangos manteision allweddol i'n cymunedau.  Mae rhaglen #buddsoddiadRhCT, gwerth £200 miliwn, eisoes wedi gweld lefelau digynsail o wariant cyfalaf ar wella ein priffyrdd, cyfleusterau chwarae a hamdden, ac ysgolion ar draws RhCT. Mae'n hollbwysig ein bod ni'n gafael mewn unrhyw gyfleoedd sy'n ein galluogi i barhau ā'r gwaith yma a manteisio ar y momentwm y mae hyn eisoes wedi'i gynhyrchu.  Mae prosiect Dyffryn Taf ym Mhontypridd yn enghraifft wych o hyn, gyda llawer yn meddwl yn naturiol fyddai hyn ddim erioed yn dwyn ffrwyth.  Er hynny, bydd gwaith tir yn cychwyn ar y prosiect hynod uchelgeisiol a hanfodol yn ystod Ionawr 2018 sydd â'r nod o drawsnewid yr ardal. Credaf ei bod hi'n glir does dim modd adfywio a ffynnu heb fuddsoddiadau strategol wedi'u targedu.

Mae'n deg i ddweud bod y gaeaf wedi cyrraedd erbyn hyn, yn dilyn y gostyngiad sylweddol yn y tymheredd dros yr wythnos ddiwethaf, sydd wedi arwain at lawer iawn o eira a rhew gan achosi tarfu ar ein cysylltiadau trafnidiaeth a'n rhwydweithiau ffyrdd.  Er mwyn lleihauar yr anghyfleustra, mae staff y Cyngor wedi bod yn gweithio'n ddi-dor i glirio'r prif lwybrau  trwy'r Sir a'n ffyrdd dros y mynyddoedd.  Dros gyfnod o ychydig llai nag wythnos, cafodd dros 1,250 tunell o halen ei wasgaru gan y carfannau. Maen nhw wedi teithio dros 3,000 o filltiroedd - sy'n cyfateb i daith o Bontypridd i John O'Groats ac yn ôl; ddwywaith! Mae'n amhosib i mi bwysleisio cymaint y mae'r carfannau yma wedi ymroddi er mwyn cadw'r Sir i symud. Felly, diolch enfawr i bob un ohonoch chi ar ran pawb yn Rhondda Cynon Taf.

Hoffwn i hefyd cymryd cyfle i ddymuno Nadolig Llawen iawn a Blwyddyn Newydd Dda i holl drigolion Rhondda Cynon Taf.

Wedi ei bostio ar 18/12/17