Yr wythnos ddiwethaf cytunodd Cynghorwyr RhCT yn unfrydol i ymrwymo i Fargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. 

Mae hyn yn hynod arwyddocaol i'r rhanbarth ac i ninnau'n lleol yn Rhondda Cynon Taf, oherwydd bod gan y Fargen Ddinesig y potensial i greu 25,000 o swyddi ychwanegol. Gallai hefyd wella seilwaith trafnidiaeth drwy gynllun Metro De Cymru gwerth £734 miliwn, a gallai ddenu mwy na £4 biliwn o fuddsoddiad ychwanegol o du'r sector preifat.

Rwy'n croesawu'r gefnogaeth gan Gynghorwyr o bob plaid wleidyddol i'r fargen yma oherwydd ei bod yn rhoi cyfle enfawr i weddnewid ein heconomi leol. Mae llawer o bobl wedi gofyn i mi pam y mae mor bwysig i Rondda Cynon Taf. Yn gyntaf, nid ein bwriad yma yn RhCT yw rhoi arian i Gaerdydd; ein bwriad yw gweithio ar y cyd â gweddill De Ddwyrain Cymru i fuddsoddi £1.2 biliwn, a byddwn ni'n sicr ar ein hennill – caiff rhan fawr o gyllid y cynllun Metro gwerth £734 miliwn ei gwario ar gledrau'r Cymoedd. Yn ogystal â hynny, ein bwriad yw manteisio ar y gweithgarwch economaidd sydd eisoes yn digwydd yng Nghaerdydd a'r cylch a lledaenu'r ffyniant hwnnw o'r bae i'r Cymoedd. Sut y byddwn ni'n gwneud hynny? – drwy annog busnesau i fuddsoddi yn y rhanbarth, drwy weddnewid y ffordd rydyn ni'n teithio drwy Dde Ddwyrain Cymru, a thrwy greu cyfleoedd swyddi. Dyma sut y datblygodd economïau pob dinas sylweddol arall yn y DU ac Ewrop. 

Mewn ymateb uniongyrchol i'r safbwyntiau a fynegwyd gan fasnachwyr, ac i'r barnau rydyn ni wedi'u cael drwy ein hymgynghoriad diweddar, cytunodd y Cabinet yn ddiweddar i leihau costau parcio'n sylweddol er mwyn rhoi cymorth i economi ein strydoedd mawr lleol. Bu cytundeb ar leihau costau'n sylweddol yn ein canol trefi allweddol (Aberdâr a Phontypridd), ac ar ddileu costau o 1 Ebrill yn Aberpennar, Tonypandy a'r Porth. Yn ogystal â hynny, bu cytundeb ar gynnig parcio'n ddi-dâl yn Aberdâr a Phontypridd yn ystod mis Rhagfyr ar gyfer y Nadolig, a hefyd, bydd modd talu £1 i barcio drwy'r dydd yn y ddau ganol tref yma.  Rydyn ni'n cydnabod yn llwyr bod yr amgylchedd masnachol i siopau a busnesau lleol yn fwy heriol nag erioed. Roedd y rhesymeg dros y penderfyniad yma'n syml – i annog rhagor o breswylwyr i ddewis siopa'n lleol yn ein canol trefi, i wella masnach ac i roi hwb i'r economi leol. Byddwn ni'n parhau i ategu'r penderfyniad yma drwy barhau i roi cymorth, er enghraifft drwy gynnal achlysuron canol tref, drwy roi grantiau i fusnesau bach a thrwy gynllun rhyddhad ardrethi Llywodraeth Cymru. 

Cyn bo hir, byddwn ni hefyd yn ystyried y rhaglen gyfalaf 2017/18, a nod honno fydd adeiladu ar lwyddiant #buddsoddiadRhCT. Byddwn ni'n parhau i ddangos ein huchelgais i symud ein cymunedau lleol a'r gwasanaethau rydyn ni'n eu darparu yn eu blaenau.

Rydyn ni'n parhau i roi cymorth i'n canol trefi ac i symud RhCT yn ei blaen. serch hynny, roedd yn siom fawr cael gwybod yr wythnos yma fod Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU wedi penderfynu cau Canolfan Byd Gwaith Aberpennar a'r garfan swyddogaeth cefn swyddfa yn y Porth, lle y mae bron i 100 o bobl yn gweithio ar hyn o bryd.

Mae'r penderfyniad yn afresymegol oherwydd o ganlyniad iddo, bydd un lleoliad yn unig yng Nghwm Cynon lle y gall preswylwyr di-waith gael cefnogaeth a chymorth. Yn sgil hyn, bydd preswylwyr sydd eisoes yn ei chael yn anodd cadw deupen llinyn ynghyd yn dlotach byth oherwydd eu hamgylchiadau – bellach, bydd raid iddyn nhw deithio i Aberdâr i fynd i ganolfan byd gwaith. Byddaf i, ynghyd â'n Haelod Cynulliad a'n Haelod Seneddol, yn cyflwyno'r achos o blaid cadw'r cyfleuster ar agor i Weinidog Llywodraeth y DU.

 

Wedi ei bostio ar 01/02/17