Hoffwn i, yn gyntaf, ddymuno Nadolig Llawen hwyr a Blwyddyn Newydd Dda i chi!
Hoffwn i hefyd dalu teyrnged i'r cannoedd o staff rheng-flaen y Cyngor a fu'n gweithio dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd i ofalu am yr hen bobl, sicrhau bod ein ffyrdd yn cael eu graeanu yn ôl yr angen, ac i ateb y galwadau brys 24/7, i nodi ond ychydig o bethau. Mae'r Cyngor yn sefydliad 365 diwrnod sy'n darparu nifer o wasanaethau hanfodol i drigolion sy'n dibynnu arnyn nhw.
Mae'r gwasanaeth gwych y mae'r staff yma'n eu darparu'n ddyddiol yn osgoi sylw'r rhan fwyaf ohonon ni - oni bai'ch bod chi'n un o'r rheiny sy'n manteisio ar y cymorth neu'r gofal.
Mae cryn nifer o weithgareddau'r Ŵyl wedi cael eu cynnal ledled y Sir, a dweud y lleiaf. Mae'n edrych yn go debygol y bydd yr achlysur Nofio Gŵyl San Steffan yn Lido Ponty yn hoelio'i le yn achlysur blynyddol adeg y Nadolig, ar sail llwyddiant gwerthu pob lle unwaith eto am yr ail flwyddyn. Mae hyn yn rhoi Pontypridd ar y map; mae proffil Pontypridd a RhCT yn ei chyfanrwydd, diolch i'r Lido, yn un o brif lwyddiannau'r cyfleuster yma.
Mae Nos Galan yn cyflawni'r un peth ar gyfer Aberpennar ac ein Sir. Eleni, Chris Coleman, Rheolwr Tîm Pêl-droed Cymru, oedd ein Rhedwr Dirgel.
Roedd 2016 yn flwyddyn i'w chofio i'n tîm pêl-droed ni, gyda miloedd o gefnogwyr yn gwylio'i hynt yn y gystadleuaeth Ewropeaidd yn Ffrainc. Fe ddaeth miloedd eraill nad oedden nhw'n gallu mynd i Ffrainc i'n Hardal i Gefnogwyr a sefydlon ni ym Mharc Ynysangharad Pontypridd.
Roedd cefnogaeth i dîm pêl-droed Cymru trwy gydol 2016 yn anhygoel. Da, felly, oedd cydnabod y llwyddiant wrth i'r flwyddyn ddirwyn i'w phen ac roedden ni wrth ein bodd pan gytunodd Chris Coleman i ddod â'r flwyddyn gofiadwy i ben ar strydoedd Aberpennar yng nghwmni 1,600 o redwyr a miloedd o'r gwylwyr yn achlysur Nos Galan.
Serch hynny, mae 2017 wedi dechrau gyda thristwch o glywed newyddion am farwolaeth ein sylfaenydd Nos Galan, Mr Bernard Baldwin MBE, yn 91 oed. Mae fy meddyliau gyda'i deulu yn ei alar
Yn 2016, dechreuodd Cyngor RhCT ar ei raglen fwyaf o fuddsoddi ers iddo gael ei sefydlu ym 1996. Mae hyn yn golygu dros £200miliwn yn cael ei fuddsoddi yn ein cymunedau ar draws 3 ardal ein Sir.
Daw'r Flwyddyn Newydd â'r angen i'r Cyngor bennu'i gyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Rydyn ni'n gwybod y bydd rhaid i ni reoli'r Cyngor gyda llai o arian yn y dyfodol, oherwydd y cyni ariannol o du Llywodraeth San Steffan. Serch hynny, rwy'n bendant fy marn mai buddsoddi mewn gwasanaethau ac yn ein cymunedau ac adfywio ein Sir yw'r ffordd iawn i leddfu effaith y toriadau ar ein gwasanaethau cyhoeddus o gyfeiriad cenedlaethol.
Dim ond trwy'r dull yma o fynd ati y gallwn ni leddfu effaith y llymder yn lleol, drwy adeiladu tuag at y dyfodol a buddsoddi ynddo. Ac rydyn ni mewn sefyllfa dda i allu gwneud y math yma o fuddsoddi oherwydd trefnau rheoli arian cadarn y Cyngor a gafodd gydnabyddiaeth Swyddfa Archwilio Cymru. Rydw i'n awyddus gweld hyn yn parhau wrth inni drafod cynlluniau ar gyfer cyllideb 2017/18 yn gynnar yn y Flwyddyn Newydd.
Rwy'n edrych ymlaen at weld dechrau'r gwaith adeiladu ar safle'r Hen Ganolfan Siopa Dyffryn Taf/Taff Vale ym Mhontypridd; mae gan y prosiect botensial enfawr i drawsnewid y dref ac i newid pethau ar raddfa fawr er gwell o ran datblygu economi ehangach cymoedd y De.
Wrth wraidd y newid mewn cyfeiriad a'n llwyddiannau economaidd wrth gwrs fydd ein Cytundeb Dinas, a bydd eisiau i bob un o'r deg awdurdod lleol sy'n rhan o'r prosiect gymryd y penderfyniad ffurfiol i gefnogi hwn ym mis Ionawr.
Dim ond tuag at ddinasoedd Ewrop, ac yn fwy diweddar wledydd y DG, mae eisiau edrych, lle mae dull rhanbarthol o weithredu er mwyn manteisio'n llawn ar gyfoeth economi ddinas, wedi trawsnewid yr ardaloedd hynny a'u cymunedau. Fe ddylai'r Cytundeb Dinas, yn fy marn i, fod yn llwyfan ar gyfer adfywio yn y dyfodol rydyn ni i gyd eisiau'i weld yn y cymoedd a'r cyffiniau.
Wedi ei bostio ar 04/01/17