Wrth i flwyddyn yr ysgol ddod i ben, a disgyblion Rhondda Cynon Taf yn edrych ymlaen at wyliau'r haf, bydd ein gwaith ni i wireddu gwelliannau uchelgeisiol ym myd addysg yn parhau.
Mae'r buddsoddiad sylweddol yn parhau ar draws Rhondda Cynon Taf, lle mae cynnydd cryf yn cael ei wneud ym mhob un o'n buddsoddiadau uchelgeisiol ni yng Nghwm Rhondda, Tonyrefail, a'r ysgol newydd yng Nghwmaman – sydd i gyd yn rhan o'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif. Wrth ddatblygu'r ysgolion newydd hyn, mae'r cyfleusterau modern y byddan nhw'n eu darparu ar gyfer pobl ifainc i'w gweld yn barod. Yn ogystal â'r rhaglen yma, bydd bron £8 miliwn yn cael eu gwario ar ysgolion ar draws Rhondda Cynon Taf yn ystod gwyliau'r haf. Bydd yr arian yma'n sicrhau bod ein holl gyfleusterau addysgol yn parhau i fod yn addas i'r pwrpas a bod mewn cyflwr sy'n gallu darparu'r amgylchedd addysgol gorau posibl ar gyfer ein pobl ifainc ni.
Erbyn 2019, yn rhan o'r rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, byddwn ni wedi sicrhau buddsoddi £160 miliwn mewn adeiladau ysgolion a thros £30 miliwn yn rhagor ar wella ein hysgolion ni – dyma'r buddsoddiad mwyaf o'i fath yng Nghymru o bell ffordd. Serch hynny, mae ein huchelgais ni ar gyfer addysg yn Rhondda Cynon Taf yn mynd y tu hwnt i hyn.
Yn yr etholiadau lleol ym mis Mai, fe ymrwymais i – a'r Cynghorwyr eraill – i barhau i fuddsoddi mewn cyfleusterau ysgolion ar gyfer y ganrif yma. Yn rhan o waith gwireddu'r ymrwymiad yma, cafodd cynigion amlinellol eu trafod gan y Cabinet yr wythnos ddiwethaf (cyn eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru) ar gyfer buddsoddi £160 miliwn yn rhagor mewn ysgolion ar draws Rhondda Cynon Taf.
Galli'r cynlluniau hyn gynnwys: sefydlu dwy ysgol newydd ar gyfer disgyblion o bob oed; codi tri estyniad sylweddol i gynyddu nifer y lleoedd sydd ar gael ym myd addysg Gymraeg mewn un ysgol gynradd a dwy ysgol uwchradd; codi dau adeilad newydd ar gyfer ysgolion cynradd Cymraeg; a hefyd gyfrannu at y posibilrwydd o godi deg adeilad newydd ar gyfer ysgolion cynradd ac estyniadau i ddarparu rhagor o leoedd mewn dwy ysgol gynradd arall.
Yn ogystal â'r buddsoddiad sylweddol yma mewn cyfleusterau ysgolion, rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i ddiogelu cyllideb ysgolion trwy ddarparu o leiaf £1 miliwn yn rhagor bob blwyddyn am y pum mlynedd nesaf. Bydd hyn yn sicrhau'r cyfle gorau posibl i bob plentyn yn Rhondda Cynon Taf gael gyflawni ei botensial. Rydyn ni – fel pob rhiant, disgybl ac athro/athrawes yn Rhondda Cynon Taf – yn disgwyl canlyniadau Safon Uwch, TGAU a chymwysterau galwedigaethol ein pobl ifainc tua diwedd mis Awst. Ar ran y Cyngor, hoffwn i fanteisio ar y cyfle cynnar yma i ddymuno pob lwc iddyn nhw.
Rydw i'n siŵr bod llawer ohonoch chi wedi sylwi ar y buddsoddiad sylweddol sy'n cael ei wireddu ar y ffyrdd yn Rhondda Cynon Taf yr haf yma. Does byth adeg gyfleus i wneud y gwaith yma, ond, gwyliau'r haf yw'r cyfle gorau oherwydd bod llai o draffig ar y ffyrdd. Mae'r buddsoddiad yma'n golygu sicrhau dyfodol y briffordd – er enghraifft, y gwaith sylweddol ar ffordd fynydd y Maerdy a gosod wyneb newydd ar y ffordd rhwng Treorci a'r Pentre. Rydyn ni'n cydnabod bod y gwaith yma'n gallu achosi trafferth, a diolch i bawb am fod yn amyneddgar wrth i'r gwaith allweddol yma fynd yn ei flaen.
Wedi ei bostio ar 27/07/17