Mae cyfarfodydd arferol y Cyngor wedi ail gychwyn yn dilyn yr etholiadau lleol ym mis Mai. Bydd y Pwyllgor Craffu yn cwrdd yr wythnos nesaf, a bydd y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu yn cynnal ei gyfarfod cyntaf. Mae craffu yn chwarae rôl hanfodol ym mhrosesau gwneud penderfyniadau'r Cyngor. Dros y tair blynedd diwethaf, rydw i wedi ceisio sicrhau bod y Pwyllgor Craffu wedi cael cyfle i weithredu'n effeithiol fel cyfaill allweddol i'r Cyngor mewn modd corfforaethol.
Er mai fi a'r Cabinet sydd dan sylw yn bennaf pan fydd y Cyngor yn gwneud penderfyniad, mae gan bob aelod rôl i'w chwarae yn y broses yma, yn enwedig yn ystod y cyfnod o bennu'r gyllideb. Rydyn ni i gyd yn gyfrifol am sicrhau bod y Cyngor yn pennu cyllideb sy'n gytbwys a chyfreithiol. Bydd Setliad Llywodraeth Leol, gaiff ei bennu gan Lywodraeth Cymru ac sy'n cyfrif am tua 80% o'n cyllideb, yn cael ei gyhoeddi yn yr hydref. Afraid dweud, felly, ein bod ni nawr yn meddwl am y flwyddyn ariannol o'n blaenau. Mae yna gryn sôn am ddyfodol caledi yn y cyfryngau. Serch hynny, rydw i wedi bod yn rhan o drafodaethau gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (WLGA) sy'n rhagweld byddwn ni'n derbyn llai o gyllid gan Lywodraeth San Steffan. Bydd hyn parhau i fod yn un o heriau mwyaf y Cyngor dros y pum mlynedd nesaf.
Fel rydw i wedi ceisio gwneud dros y blynyddoedd diwethaf, bydd y Cabinet yn derbyn gwerthusiad manwl o setliad y gyllideb arfaethedig ym mis Gorffennaf. Bydd y swyddogion modelu yn rhagfynegi'r effaith ariannol ar Rondda Cynon Taf. Mae sicrhau cyllideb gytbwys yn gyfrifoldeb pob Aelod o'r Cyngor, felly, rydyn ni wedi estyn gwahoddiad i bob Cynghorydd i'r Cabinet yma. Mae hyn yn golygu bydd gan bob un ohonyn nhw gyfle i gyfrannu at broses y Cyngor o ddatblygu strategaeth ar gyfer y gyllideb a darparu cyllideb gyfreithlon o fewn y terfynau amser statudol. Yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, bydd y Cyngor yn ceisio ymgysylltu â phreswylwyr drwy gynifer o ffyrdd a chyfleoedd wyneb i wyneb ag sy'n bosib ar ôl i'r broses gychwyn. Rydw i'n awyddus iawn i ddatblygu'r elfen yma dros y misoedd nesaf.
Bydd angen i ni barhau i ysgwyddo'r un lefel o gyfrifoldeb ariannol er mwyn rheoli ein hadnoddau mewn modd effeithlon yn wyneb toriadau sylweddol i'n cyllid. Serch hynny, mae'n bwysig ein bod ni'n ceisio gwneud y gorau o'r cyfleoedd sydd ar gael o hyd er mwyn buddsoddi mewn cymunedau ar draws y Fwrdeistref Sirol.
Mae trefnau rheoli ariannol cryf y Cyngor yn golygu bod modd i'r Cyngor fwrw ati â chynlluniau megis Canolfan Siopa Dyffryn Taf/Taff Vale neu Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm yn Aberpennar yn ogystal â gallu ymateb i ddigwyddiadau does dim modd eu rhagweld, megis y tirlithriad ar Fynydd y Maerdy. Yn ystod cyfnodau traffig tawelach ym mis Gorffennaf a mis Awst, bydd y Cyngor yn buddsoddi mwy na £1.7miliwn yn nyfodol y ffordd gyswllt bwysig yma rhwng Cwm Cynon a Chwm Rhondda. Mae'r Cyngor yn gwerthfawrogi bod hyn yn anghyfleus i breswylwyr a busnesau lleol a dyma pam rydyn ni wedi dewis gwneud y gwaith pwysig yma dros wyliau'r haf pan mae'r ffordd yn fwy tawel. Ar ben arall y Fwrdeistref Sirol, bydd gwaith gwella mawr i'r A4119 yn Nhonysguboriau yn dod i ben cyn bo hir ar ôl 12 mis o waith caled. Byddwn ni'n cyflawni gwelliannau ar briffyrdd eraill yn ne'r Sir. Rydyn ni, a ninnau'n Gyngor, yn parhau i flaenoriaethu isadeiledd priffyrdd a thrafnidiaeth a chefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer adfywio economi Rhondda Cynon Taf. Bydd y Cytundeb Dinas hefyd yn chwarae rôl bwysig iawn o ran hynny. Am hynny, roeddwn i'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Gadeirydd yn ystod cyfarfod cyntaf y Cabinet Rhanbarthol yr wythnos ddiwethaf.
Wedi ei bostio ar 12/07/17