Dyma'r tro cyntaf i mi gyhoeddi Blog yr Arweinydd ers Etholiadau Llywodraeth Leol, a'r cyfle cyntaf i mi gael dweud ar ddu a gwyn ei bod hi'n fraint cael gwasanaethu fy nghymuned leol, Gorllewin Aberpennar, unwaith eto, a hefyd i wasanaethu'r Cyngor fel Arweinydd.
Braint ac anrhydedd enfawr oedd cael fy mhenodi, unwaith eto, yn Arweinydd y Cyngor. Rydw i wedi ymrwymo i fynd i'r afael â'r heriau sydd o'n blaenau ni trwy baratoi llwybr uchelgeisiol ar gyfer ein Bwrdeistref Sirol.
Yn sgil Etholiad Cyffredinol Senedd y Deyrnas Unedig, mae'n amlwg bydd cyni ariannol yn parhau'n her fawr i'r Cyngor ac i'n cymunedau lleol am y tro, o leiaf. Yn yr amgylchiadau hyn, byddai wedi bod angen i unrhyw Arweinydd llwyddiannus, yn dilyn yr etholiadau, reoli adnoddau ariannol gostyngol yn effeithiol.
Rydw i wedi ymrwymo i gadw at y dull rydyn ni wedi ei ddefnyddio o'r blaen i sicrhau bod gwasanaethau rheng flaen allweddol yn cael eu diogelu rhag toriadau tebygol i gyllid y sector cyhoeddus yn y dyfodol. Er enghraifft, i gefnogi'r dull yma rydw i wedi gofyn am baratoi cynigion i'w trafod gan y Cyngor yn y dyfodol o ran lleihau costau rheoli corfforaethol yr Awdurdod. Yn ein gweinyddiaeth ddiwethaf, cafodd arbedion uwch reoli o £2 filiwn a mwy eu sicrhau i ddiogelu gwasanaethau rheng flaen. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau rhagor o arbedion corfforaethol yn ystod y misoedd nesaf i gyfrannu at sicrhau cyllideb y flwyddyn nesaf.
Yn ystod y pum mlynedd ddiwethaf mae'r Cyngor wedi dangos, trwy reolaeth ariannol gadarn, fod modd buddsoddi mewn meysydd allweddol a gwneud gwahaniaeth gweladwy, er gwaethaf gostyngiadau cyllido parhaus. Roedd hi'n braf cael cydnabyddiaeth annibynnol yr wythnos ddiwethaf gan Swyddfa Archwilio Cymru ar ffurf Adroddiad Gwella Blynyddol cadarnhaol iawn ynglŷn â chyflawniad y Cyngor, a'i ddull rheoli corfforaethol.
Mae'r Cabinet newydd, trwy weithio ar y cyd â Swyddogion y Cyngor, eisoes wedi dechrau ar waith gwireddu'r uchelgeisiau a'r gwelliannau a gafodd eu cefnogi gan y cyhoedd a thrigolion yn yr etholiadau lleol. Trwy sicrhau rhagor o gyfleoedd buddsoddi rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i ddatblygu Rhondda Cynon Taf. Rydw i'n ffyddiog bod modd i ni gymryd camau mawr tuag at wireddu ein huchelgeisiau yn ystod y misoedd nesaf.
Fel man cychwyn, yn ystod cyfarfod cyntaf y Cabinet newydd yr wythnos yma, byddwn ni'n trafod canfyddiadau'r ymgynghoriad ar gŵn sy'n baeddu, ynghyd â barn trigolion lleol ar y mater, i benderfynu'r ffordd orau o fynd i'r afael â'r mater pwysig yma. Mae'n bosibl eich bod chi hefyd wedi cael gwybod trwy'r cyfryngau y byddwn ni, yn ystod yr wythnosau nesaf, yn blaenoriaethu mesurau a fydd yn cefnogi economi'r stryd fawr leol ymhellach, gan gynnwys buddsoddiad sylweddol a gwelliannau ar gyfer canol tref Tonypandy.
Bydda i'n rhannu rhagor o wybodaeth am sut rydyn ni'n bwriadu gwireddu ein huchelgais ar gyfer datblygu Rhondda Cynon Taf yn fy mlog yn yr wythnosau nesaf.
Wedi ei bostio ar 23/06/17