Yr wythnos yma, fe gymerodd y Cyngor un o'i benderfyniadau blynyddol pwysicaf, hynny yw pennu ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Diolch i drefnau rheoli arian cadarn drwy gydol y cyfnod economaidd anodd yma, bu modd creu rhagor o gyfleoedd i fuddsoddi yn ein bwrdeistref sirol.
Heb os nac onibai, mae'r cyfnod hwn o galedi o ran cyllid cyhoeddus wedi cyflwyno heriau sylweddol dros y blynyddoedd ariannol diwethaf, ond trwy'i gydol rydym ni wedi ceisio bod yn rhagweithiol yn ein ffordd o fynd ati. Mae hyn wedi golygu, yn wahanol i unrhyw Gyngor arall yng Nghymru, mae modd inni weithredu un o Raglenni Cyfalaf mwyaf y Cyngor hwn, sef #buddsoddiadRhCT. Oherwydd y sylfeini cadarn hyn, bu modd inni bennu cyllideb ar gyfer 2017/18 a fydd yn golygu buddsoddiad ychwanegol o £7.5miliwn ar ben ein cyllideb graidd arferol mewn seilwaith allweddol, o barciau a mannau chwarae i gynlluniau mawr y priffyrdd.
A chyda setliad gwell na'r disgwyl oddi wrth Lywodraeth Cymru, bu modd inni roi £2.173M yn ychwanegol i gyllidebau ysgolion yn Rhondda Cynon Taf. Yn ogystal â hynny, bydd £2filiwn arall ar gyfer atgyweirio adeiladau ysgolion ynghyd â gosod cynnydd isaf o ran canran yn Nhreth y Cyngor yn hanes y Cyngor hwn a'r cynnydd isaf ond un yng Nghymru benbaladr.
Mae ein cyllideb yn cefnogi ein huchelgais ar gyfer RhCT yn y dyfodol, gan gynnwys gwireddu'n hymrwymiad i gael gwared a thaliadau meysydd parcio yn Nhonypandy, Y Porth ac Aberpennar a chyflwyno prisiau gostyngol sylweddol ym Mhontypridd ac Aberdâr.
Mae'n darparu cyfle i gyflwyno gwelliannau i 34 o fannau chwarae ychwanegol yn rhan o raglen #buddsoddiadRhCT, tri chae 3G newydd yn Abercynon, Y Maerdy a Phentre'r Eglwys. Byddwn ni hefyd yn edrych ar y posibilrwydd o roi cae 3G dan do yng Nghanolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach.
Yn rhan o'r gyllideb yma, bydd Buddsoddiad mawr o ran darparu cyfleusterau parcio a theithio ar draws RhCT, gyda gwaith adeiladu ym Mhont-y-clun a Cham 2 y Porth yn yr arfaeth yn y flwyddyn i ddod, a bydd y gwaith o ddatblygu dau gynllun pwysig y priffyrdd hefyd yn cael eu cefnogi - sef y A4119 yn Nhonyrefail a Ffordd Osgoi Llanharan. Bydd £ 1.1M yn mynd tuag at y Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm, sydd wedi gwneud cynnydd sylweddol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Er, o bosibl, nad yw ein buddsoddiad sylweddol mewn seilwaith trafnidiaeth yn dal sylw llawer o benawdau, mae'n hynod bwysig, gan ei fod yn diogelu agweddau hanfodol hyn ar ein rhwydwaith priffyrdd yn y dyfodol.
Byddwn ni'n cyflwyno'r cyflog byw llawn yn unol â chyfraddau'r Sefydliad o 1af Ebrill fel rhan o'r gyllideb hon, a fydd o fudd i'r staff hynny sy'n darparu gwasanaethau hanfodol yn uniongyrchol i drigolion, ac yn ei dro, bydd hynny'n cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol ehangach.
Bu angen i'r Cyngor arbed dros £100M dros y pum mlynedd diwethaf; felly'r ffaith bod modd inni wneud y buddsoddiad sylweddol hwn yn lleol yn rhywbeth nodedig, yn ogystal â'r ffiath na fydd unrhyw doriadau i wasanaethau rheng flaen yn rhan o'r gyllideb hon. Eto, rydyn ni wedi gosod targed heriol o arbedion effeithlonrwydd, gwerth £6M ar gyfer y flwyddyn nesaf i'n hunain, ond rwy'n hyderus y gallwn ni wireddu hynny, yn seiliedig ar ein hanes cadarn hyd yn hyn, ynghyd â pharhau i amddiffyn y gwasanaethau rheng-flaen drwy'r dull gochelgar yma.
Wrth wraidd ein blaenoriaeth i symud RhCT yn ei blaen, bydd yr arian rydyn ni wedi'i glustnodi yn rhan o'n cyfraniad ni ar gyfer mynd â’r maen i’r wal o ran y Fargen Ddinesig. Bydd hon yn hanfodol wrth lunio ffyniant economaidd ehangach Rhondda Cynon Taf a'r Cymoedd.
Rwy'n gobeithio bod y gyllideb hon yn dangos yr uchelgais sydd gan y Cyngor hwn ar gyfer RhCT ac er gwaethaf y toriadau sylweddol i arian y mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru wedi'i gael, rydym ni wedi ceisio ymateb drwy fuddsoddi yn yr ystod o wasanaethau a chyfleusterau rydyn ni'n eu darparu, er mwyn sicrhau ein bod ni'n parhau i fynd â RhCT yn ei blaen.
Hoffwn i nodi fy niolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y broses o osod y gyllideb, gan wneud eich barn a chyflwyno dewisiadau eraill drwy ein proses ymgynghori helaeth. Mae'ch cyfraniad wedi chwarae rhan allweddol wrth osod cyfeiriad dyfodol Rhondda Cynon Taf, gan y bydd y blociau adeiladu a osodwyd drwy'r gyllideb eleni yn hanfodol er mwyn ymateb i'r heriau ariannol y byddwn ni'n eu hwynebu yn y blynyddoedd i ddod.
Wedi ei bostio ar 08/03/17