Pan gefais fy ethol yn 2004, doeddwn i ddim yn meddwl, ddeng mlynedd yn ddiweddarach, y byddwn i wrth y llyw fel Arweinydd y Cyngor. Rydych yn sylwi'n gyflym ar ôl cael eich ethol fel cynghorydd lleol nad oes modd ichi newid y byd dros nos, a bod meddwl yn strategol am yr hyn rydych chi eisiau'i gyflawni ar ran eich cymuned yn rhan o gyfrifoldeb y swydd, boed hynny'n fan chwarae newydd neu ddatrys problemau o ran tagfeydd traffig.

Nid yw hyn wedi newid ers i mi gael fy ethol yn Arweinydd. O hyd, mae yno faterion yr hoffwn i eu datrys, fel cyflenwi mannau chwarae newydd, fodd bynnag, rhaid ystyried y mater o safbwynt y sir ehangach. Byddwch hefyd yn ystyried datrysiadau i faterion fel trafnidiaeth o safbwynt y sir yn ogystal â safbwynt y rhanbarth, ac yn edrych ar sut bydd y newidiadau yn cyfrannu at dwf yr economi ehangach a ffyniant yn y dyfodol. Dechreuais werthfawrogi'r angen i flaenoriaethu 13 mlynedd yn ôl ac nid yw hyn wedi newid ers i mi gael fy ethol yn Arweinydd.

Wrth bennu'r cyllid ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, roedd gofyn am yr un agwedd. Un o hanfodion RhCT yw sicrhau sylfeini cadarn er mwyn bwrw ymlaen â'n huchelgeisiau a blaenoriaethau. Bydd targedu blaenoriaethau, sy'n cynnwys cyfleusterau fel Mannau Chwarae sydd o bwys i gymunedau, yn ogystal â chynlluniau a fydd yn hybu twf economaidd ac adfywiad. Mae blaenoriaethu yn hanfodol, gan nad yw'n bosib gwneud cynnydd ar restr hirfaith o addewidion. Fodd bynnag, rydych chi'n gwneud y gwahaniaeth mwyaf a chael yr effaith fwyaf drwy feddwl yn strategol am y blaenoriaethau. Ar yr un pryd rydych chi'n sicrhau'r meini i gynnal y momentwm er mwyn cyflawni'r newid rydyn ni i gyd eisiau'i weld.

Mae ein trefnau rheoli arian cryf yn golygu ein bod ni'n gallu cyflawni'n blaenoriaethau drwy gyflwyno'r cynllun buddsoddi mwyaf erioed yn RhCT er mwyn symud ein Bwrdeistref Sirol yn ei blaen, hyd yn oed yn yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. O dan gynllun BuddsoddiadRhCT, mae dros £200miliwn yn cael ei wario ar gynlluniau allweddol ar draws y Sir.

Mae'r cynllun wedi golygu bod 53 o fannau chwarae newydd wedi cael eu hadeiladu ar draws y Fwrdeistref Sirol gyda 34 man chwarae pellach i gael eu cwblhau yn y flwyddyn i ddod. Mae'r cynllun hefyd wedi golygu ein bod ni wedi darparu cynlluniau Trafnidiaeth a Seilwaith, fel y Ffordd Gyswllt ar Draws y Cwm, datblygu cynlluniau i ddeuoli'r A4119 i'r de o Donyrefail, a datblygu ail ran o gynllun Ffordd Osgoi Llanharan. Bydd y cynlluniau olaf yn sicrhau bod ein Bwrdeistref Sirol yn parhau i symud yn ogystal â chefnogi ein hamcanion ehangach i greu swyddi a chyfleoedd gwaith yn rhan o gynllun adfywio ehangach Rhondda Cynon Taf.

Mae'r hyn rydyn ni'n ceisio ei gyflawni gyda safle hen Ganolfan Siopa Dyffryn Taf/Taff Vale yn enghraifft arall o sut rydw i wedi ceisio gwneud yn siwr bod ein Bwrdeistref Sirol yn cyrraedd ei llawn botensial yn ystod fy nghyfnod fel Arweinydd. Pam na ddylai Pontypridd, Cwm Rhondda neu Aberdâr fod yn gartref i gyflogwyr mawr fel y rheiny sydd wedi'u lleoli yng Nghaerdydd? Dyma pam rydw i'n hynod frwd dros ddatblygu'r safle strategol yma a gallu'r Fargen Ddinesig i sicrhau bod ardal De Ddwyrain Cymru yn cyrraedd ei llawn botensial yn economaidd.

Rydyn ni'n gwneud cynnydd ar draws RhCT. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi £100miliwn mewn Ysgolion yr 21ain Ganrif, adnewyddu Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, a gwelliannau enfawr mewn cyfleusterau hamdden y Cyngor dros y ddwy flynedd diwethaf. Rydyn ni o hyd yn ceisio datblygu ein Bwrdeistref Sirol.

Mae'r gwelliannau yn bosibl diolch i'n harweiniad cryf yn ystod yr hinsawdd economaidd sydd ohoni. Mae hyn wedi gosod y sylfeini fel bod modd inni symud ymlaen gyda'n blaenoriaethau ar gyfer RhCT.

 Rydyn ni'n gwneud cynnydd enfawr o ran cyflawni ein hamcanion a'n blaenoriaethau ar ran y Fwrdeistref Sirol, a chredaf fod gan ein pwyllgorau ddyfodol disglair iawn o ganlyniad i hyn, er gwaetha'r heriau mawr sy'n wynebu'r economi yn y dyfodol. Er gwaethaf yr ansicrwydd economaidd, credaf yn gryf ein bod ni yn y safle gorau posibl i gynnal y momentwm hwn a wynebu'r heriau.

Dyma fy mlog Arweinydd olaf cyn etholiadau'r llywodraeth leol ym mis Mai. Hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddweud diolch i holl staff a swyddogion y Cyngor sydd wedi fy nghefnogi i, a'r holl Gynghorwyr eraill, dros y pum mlynedd diwethaf i wella'r cymunedau rydyn ni'n eu cynrychioli a'r gwasanaethau hollbwysig rydyn ni'n eu darparu.

Wedi ei bostio ar 17/03/2017