Nawr bod pethau wedi tawelu ar ôl cyhoeddi'r Gyllideb yr wythnos yma, mae'n amlwg bod cyni cyllidol yn bell o orffen, a'n bod yn wynebu rhagolygon ariannol ansicr a heriol yma yng Nghymru.

Mae'r Resolution Foundation wedi dod i'r casgliad heddiw y byddai'r mwyafrif o bobl £1000 yn waeth eu byd, ar gyfartaledd, yn dilyn penderfyniad yr wythnos yma i israddio rhagolygon twf a chynhyrchiant. Dangosodd hefyd ein bod ni i gyd yn dioddef y cyfnod hiraf heb dwf mewn safonau byw ers chwe deg mlynedd, pan ddechreuodd y cofnodion.  I ychwanegu at y broblem yma, mae Sefydliad Astudiaethau Cyllidol wedi rhagweld y bydd enillion yn is mewn termau real erbyn 2022 nag oedden nhw yn 2008.

Felly, yn ogystal â'r effeithiau personol arwyddocaol y mae pawb yn eu gweld, mae'r rhagolygon a'r ystadegau yma'n creu darlun o bwysau cynyddol a dibyniaeth ar wasanaethau cyhoeddus. Chafodd y gwasanaethau cyhoeddus fawr o hwb yr wythnos yma, os o gwbl.

Roedd yna gyhoeddiad o £1.2 Biliwn ychwanegol i Gymru. Ond o'i gymharu â'r gostyngiadau dros y saith mlynedd ddiwethaf, fydd y cyllid yma ddim yn gwneud llawer i leihau'r baich ariannol sydd ar y sector cyhoeddus yng Nghymru.  Mae'r cyfanswm yn cynnwys £215m ar gyfer refeniw, neu wariant beunyddiol; a £1 biliwn arall o gyllid cyfalaf i gyflawni prosiectau seilwaith hir dymor.  Yn anffodus, bydd angen ad-dalu dros hanner y cyllid cyfalaf i Drysorlys y DU dros y pedair blynedd nesaf. Mae hyn yn golygu y bydd y ffigur gwirioneddol yn cyfateb i lawer llai na'r pennawd o £1.2 biliwn.

Er bod croeso i'r cynnydd bach yma yn yr adnoddau sydd ar gael i Gymru, dim ond cyfanswm o 2% yw hyn. Fydd y cyllid ychwanegol yma ddim yn gwneud llawer i leddfu'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus rheng flaen allweddol. Mae'r gwasanaethau yma wedi bod yn ymdrechu i ymdopi o ganlyniad i doriadau olynol i arian Cymru ers 2010-11.

Credaf ei bod yn deg dweud bod elfen o Gymru gael oedd bargen pan ddaw'n cyhoeddiadau Llywodraeth y DU – gadawyd llawer o gwestiynau pwysig nas atebwyd arbennig ynglyn â dyfodol prosiectau mawr megis datblygu morlyn llanw ym neu drydaneiddio'r llinell reilffordd Bae Abertawe.

Roeddwn i'n siomedig iawn i weld bod dim cymorth i godi 'r cap cyflog o 1% oddi ar weithwyr yn y sector cyhoeddus. Rydyn ni wedi trafod y mater yma yn ddwys yn y cyngor er mwyn cefnogi ein gweithlu, ac rydyn ni wedi hyrwyddo'r achos dros gynnwys hyn yn y Gyllideb.  Rhondda Cynon Taf sydd â'r gyfran uchaf o weithwyr sector cyhoeddus yng Nghymru (32%) ac rydyn ni'n gwbl effro i'r rôl hanfodol y mae ein gweithwyr yn eu chwarae wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau.

Felly, mae realiti llym y gyllideb ddarbodus yn mynd i barhau, a byddwn ni fel Cyngor yn parhau i gynllunio yn unol â hyn er mwyn sicrhau y gallwn ni ymateb i heriau pellach yn y modd rhagweithiol rydyn ni wedi'i fabwysiadu hyd yn hyn.  Mae hyn wedi ein galluogi ni i leihau'r effaith ar wasanaethau rheng flaen a chreu cyfleoedd i fuddsoddi'n strategol ar gyfer y dyfodol. Dywedodd Arweinwyr Llywodraeth Leol Cymru o bob cysylltiad gwleidyddol yn glir cyn cyhoeddi'r Gyllideb, fod y cyfleoedd i wneud pethau'n wahanol i liniaru effaith y toriadau yn mynd yn brin. Mae'n anochel, felly, y bydd angen parhau i wneud penderfyniadau anodd yn y dyfodol o ganlyniad i'r Gyllideb yma.

Unwaith y bydd Llywodraeth Cymru wedi cael cyfle i ddadansoddi'r ffigurau a'u dyrannu yn unol â'u meysydd blaenoriaeth, mae'n sicr y byddwn ni'n gallu gwerthfawrogi'n llawn beth mae Cyllideb ddoe yn ei olygu ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru.

Wedi ei bostio ar 24/11/2017