Dros y blynyddoedd diwethaf, rwy wedi cyflwyno nifer o sylwadau i gwmni Trenau Arriva Cymru. Rwy wedi nodi pryderon ynglŷn ag ansawdd gwael y gwasanaethau a gormod o bobl yn teithio ar drefnau o'r Cymoedd, ac yn ôl eto.
Ym mis Chwefror, ysgrifennais unwaith eto at gwmni Trenau Arriva Cymru a Ken Skates AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Seilwaith a Sgiliau.Rwy'n falch o gadarnhau bod Trenau Arriva Cymru wedi ymrwymo i sawl peth a fydd yn helpu i ddatrys y problemau i raddau. Mae'r cwmni wedi gwneud hyn er gwaethaf y ffaith ei fod yn tynnu at ddiwedd ei gontract masnachfraint.
Un o'r ymrwymiadau yma, rwy'n siwr y byddwch chi wedi clywed amdano yn gynharach yr wythnos yma, yw cadarnhad y bydd dau wasanaeth ychwanegol ar ddydd Sul o Aberdâr i Gaerdydd, ac i Aberdâr o Gaerdydd. Mae hyn yn dilyn cynllun peilot llwyddiannus. O 6 Mai, bydd trigolion sy'n defnyddio gwasanaeth trenau Treherbert yn cael budd o dderbyn gwasanaethau gwell. Bydd y trên am 05:47 i Gaerdydd Canolog ddwywaith yn fwy, gan y bydd 2 gerbyd ychwanegol. Bydd, felly, 4 cerbyd ar y trên. Ym misoedd olaf y flwyddyn, y disgwyl yw bydd 5 trên ychwanegol sydd â 4 cerbyd yr un yn cael eu defnyddio ar drenau'r Cymoedd. Bydd 300 sedd ar bob un o'r trenau yma. Ers sawl blwyddyn, rwy wedi pwysleisio'r angen am gerbydau ychwanegol ar rwydwaith y Cymoedd. Mae wir angen y capasiti ychwanegol yma.
Byddai'r capasiti ychwanegol, rwy'n gobeithio, yn lleihau'r problemau o ran gormod o bobl yn teithio ar drefnau. Byddai hefyd yn annog rhagor o'r trigolion i deithio ar drenau, a fyddai'n lleihau traffig ar ein ffyrdd. Yn ôl adroddiad diweddar gan Inrix, sy'n dadansoddi traffig, coridor allweddol yr A470 yw'r ffordd fwyaf gwael o ran traffig yng Nghymru. Mewn rhai ardaloedd, mae cerbydau yn teithio 7 mya, ar gyfartaledd, yn ystod y cyfnodau mwyaf prysur. Mae'n hollbwysig ein bod ni'n sicrhau bod ein seilwaith rheilffordd yn addas i'r diben yn genedlaethol, o ystyried y nifer uchel o drigolion sy'n teithio i mewn i'n sir, ac allan ohoni, bob dydd.
Yn Rhondda Cynon Taf, rydyn ni wedi cymryd camau rhagweithiol i baratoi tuag at y Metro, a hynny drwy fuddsoddi yn ein cyfleusterau parcio a theithio. Fis diwethaf, dyrannodd ein Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd ar gyfer 2018/19, sy werth £23.6m, £1.4mtuag at fwrw ymlaen â Cham 2 y cynlluniau parcio a theithio yn Abercynon, Y Porth a Phont-y-clun, drwy gynyddu nifer y lleoedd ynddyn nhw. Mae rhagor o ddatblygiadau yn mynd rhagddyn nhw ar nifer o safleoedd eraill ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol, yn rhan o becyn cyllid gwerth £1ma gafodd ei gyhoeddi y llynedd.
Cafodd cynlluniau diweddar mewn perthynas â buddsoddi £180m yng Ngorsaf Caerdydd Canolog eu cyhoeddi. Bydd £40m yn dod o gynllun Metro De Cymru gwerth £734m. Byddai'r buddsoddiad arwyddocaol yma, gyda chefnogaeth cyllid y Fargen Ddinesig, yn cynyddu capasiti a gallu'r safle yn fawr i fynd i'r afael â'r cynnydd rydyn ni'n ei ddisgwyl yn nifer y trenau a theithwyr o dan gynlluniau'r Metro. Y disgwyl yw bydd nifer y teithwyr yn cyrraedd 32 miliwn erbyn 2043. Fydd dim modd cyflawni cynlluniau Metro De Cymru heb sicrhau'r buddsoddiad craidd yma. Bydd datblygu Gorsaf Caerdydd Canolog yn sail i gynlluniau gwella cysylltiadau i'r Cymoedd a'r ardal Prifddinas-Ranbarth ehangach. Os ydyn ni'n dymuno datblygu a thyfu'r economi, rhaid trawsnewid darpariaeth trafnidiaeth gyhoeddus yn y Cymoedd.
Wedi ei bostio ar 26/04/18