Yn ystod cyfarfod o'r Cyngor Llawn yr wythnos ddiwethaf, cafodd Cynghorwyr y newyddion diweddaraf am Gynllun Ariannol Tymor Canolig y Cyngor ar gyfer 2018/19 hyd at 2021/22 yn rhan o broses gosod cyllideb flynyddol y Cyngor.

Mae pob un ohonon ni wedi cael llond bol o gyni. Ond wrth i gyllidebau Awdurdodau Lleol barhau i fod dan gysgod,  mae'n hollbwysig bod pob Cynghorydd yn cael y diweddaraf ynghylch strategaeth y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, ac yn manteisio ar y cyfle i ddweud eu dweud. Byddwn ni'n wynebu heriau heb os, ac yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, mae gwaith modelu wedi cael ei gynnal  wrth inni aros am Setliad Dros Dro'r Llywodraeth fis Hydref.

Mae'r 'sefyllfa sylfaenol' yn golygu bydd gostyngiad o 1% yn  ein cyllid ac mae bob 1% gyfwerth â £3.6 miliwn. Mae hyn yn cael effaith sylweddol ar ein gallu i ddarparu'r ystod o wasanaethau rydyn ni'n eu cynnig yn effeithiol mewn cyfnod lle mae costau a'r galw am wasanaethau yn cynyddu, yn enwedig o ran gofal cymdeithasol. Ac eto, yn yr un modd â blynyddoedd blaenorol, bydd y Cyngor yn ceisio ymgysylltu â'i drigolion drwy gynifer o ffyrdd ag y bo modd cyn gynted i'r broses gychwyn. Bydd rhagor o fanylion yn cael eu cyhoeddi yn fuan.

Mae cynghorau ar draws y DU yn wynebu problem gyffredin, sef y galw blynyddol cynyddol ar wasanaethau allweddol fel gwasanaethau cymdeithasol ac addysg, wrth i doriadau gael eu gwneud i gyllid craidd ar yr un pryd. Mae'n bwysig felly fod unrhyw gyllid ychwanegol trwy fformiwla ganlyniadol Barnett yn cael ei glustnodi i gefnogi'r meysydd allweddol hyn a lleddfu'r pwysau cynyddol ar Awdurdodau Lleol.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ei gorau glas i amddiffyn Llywodraeth Leol trwy liniaru effaith cyni. Mae'n hawdd gweld sut mae Awdurdodau Lleol yr ochr arall i Glawdd Offa, megis Swydd Northampton a Gwlad yr Haf, yn dechrau torri o dan straen toriadau i gyllid. Trwy gydol fy nghyfnod yn Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf, rydyn ni bob amser wedi ymrwymo i ymdrin â'n cyllid mewn modd disgybledig. Rydyn ni wedi herio ein hunain yn gyson i fod yn rhagweithiol wrth fynd i'r afael â'r anawsterau sy wedi'u cyflwyno trwy wneud arbedion mewnol sydd, lle bo'n bosibl, yn osgoi trosglwyddo toriadau i'n gwasanaethau rheng flaen.

Rwy'n credu'n gryf y dylai'r broses o osod cyllideb gael ei thrin fel cylch parhaus sy'n dechrau unwaith i'r flwyddyn ariannol newydd ddechrau. Nid proses flynyddol sydd yn mynnu ychydig fisoedd o sylw yn unig ydy hon. Trwy fabwysiadu'r dull yma, rydyn ni wedi medru parhau i  gynnal rhaglen sylweddol o fuddsoddi trwy #buddsoddiadRhCT sydd wedi arwain at fuddsoddiad sylweddol yn ein priffyrdd, cyfleusterau hamdden, meysydd chwarae a'n hysgolion. Mae'r dull yma wedi ein galluogi ni i symud prosiectau uchelgeisiol mawr yn eu blaenau megis cynllun ailddatblygu hen safle Dyffryn Taf, cynllun Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yn Aberpennar, yn ogystal ag eraill. Byddwn ni'n parhau i wrtho'r ffiniau o ran symud Rhondda Cynon Taf yn ei flaen.

Wedi ei bostio ar 30/07/18