Roeddwn i'n falch o weld y newyddion diweddar fod diweithdra yng Nghymru wedi gostwng rhwng Ebrill a Mehefin, sy'n golygu bod mwy o bobl bellach mewn cyflogaeth yng Nghymru nag ar unrhyw adeg ers 1975, ac yn hollbwysig, mae 31,000 yn rhagor o bobl mewn gwaith o gymharu â'r llynedd. Mae hyn, wrth gwrs, yn newyddion hynod bositif i economi Cymru ac mae'n galonogol gweld ffigurau llafur yn cynnyddu'n gyson. Fodd bynnag, doedd y newyddion ddim yn fêl i gyd wrth i ymchwil gan sefydlaid Resolution Foundations ddangos bod aelwydydd ar y cyfan yn cael eu gwasgu trwy gyfuniad o dwf araf mewn cyflogau a chostau byw sy'n codi, sy'n cael effaith niweidiol ar deuluoedd sy'n gweithio.
Amcan Llywodraeth San Steffan ydy cyflwyno Credyd Cynhwysol yn llawn yn Rhondda Cynon Taf fis Tachwedd ac rwy'n bryderus iawn am ei effaith posibl ar drigolion a theuluoedd ar draws y Fwrdeistref Sirol. O'r herwydd, rydw i'n trefnu achlysur ym mis Medi a fydd yn dod ag ystod o sefydliadau lleol allweddol ynghyd, megis darparwyr tai cymdeithasol, Cyngor ar Bopeth, Teuluoedd Cydnerth, banciau bwyd a sefydliadau digartrefedd, yn ogystal â chynghorwyr lleol a melinau trafod megis Sefydliad Bevan. Nod yr achlysur yw sicrhau ein bod ni'n paratoi yn drwyadl a'n bod ni'n effro i'r heriau mawr rydyn ni'n debygol o ddod ar eu traws, yn enwedig yn ystod y cyfnod cychwynnol. Er mwyn ein helpu ni i lywio ein dull gweithredu, rydyn ni wedi gwahodd cydweithwyr o CBS Castell-nedd Port Talbot i rannu eu profiadau ynghylch cyflwyno'r drefn newydd.
Mae pob un ohonon ni'n gyfarwydd â'r heriau sy'n codi yn sgil Credyd Cynhwysol - yn enwedig o ran yr oedi - gyda dros 25% yn aros dros 6 wythnos i dderbyn taliadau oherwydd gwallau, yn ogystal â'r 33% sydd wedi wynebu oedi yn sgil materion cyflwyno tystiolaeth. Mae hyn yn amlwg yn annerbyniol ac mae'n atgyfnerthu fy mhryderon. Rydw i o'r farn y dylwn ni fynd i'r afael â'r materion sylfaenol a'u cywiro cyn i'r Llywodraeth fynd â'r maen i'r wal a chyflwyno'r broses gyflawn. Rydyn ni'n effro i'r heriau wynebodd ardaloedd eraill wrth gyflwyno'r drefn newydd a bydd y Cyngor yn gwneud ei orau glas i gefnogi unrhyw drigolion sy'n cael anawsterau gyda'u hawliadau.
Wedi ei bostio ar 17/08/18