Yr wythnos diwethaf, cafodd y tir ei dorri ar safle Dyffryn Taf, Pontypridd. Mae'r garreg filltir yma'n nodi dechrau'r cam nesaf y gwaith adeiladu hollbwysig.  Ers cymryd cyfrifoldeb dros y safle yn 2015, rydyn ni wedi gwneud cynnydd mawr o ran symud ymlaen gyda'r cynllun sylweddol yma. Rydyn ni'n sicr y bydd Pontypridd yn elwa'n sylweddol o'r cynllun yma ar ôl i'r gwaith gael ei gwblhau.

Dros y ddwy flynedd nesaf, byddwn ni'n gweld y cynllun yn cyrraedd sawl carreg filltir arall. Rydyn ni'n rhagweld y bydd craeniau ar y safle erbyn y Gwanwyn eleni, a bydd y gwaith i adeiladu pont droed yn dechrau'r flwyddyn ganlynol.  Rydw i'n edrych ymlaen at weithio gyda'r contractwyr, Wilmot Dixon, hyd at gwblhau'r cynllun yn 2020.

Cyhoeddwyd bod cyllid pellach ar gael i gefnogi cynllun Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm Aberpennar dros gyfnod y flwyddyn newydd ac roedd hyn yn hwb mawr i'r cynllun.  Yn debyg iawn i gynllun Dyffryn Taf, mae llawer o sôn wedi bod am gynllun Ffordd Gyswllt ar draws y Cwm yn y gymuned leol ac mae amcanion y cynllun bellach yn cael eu gwireddu o ganlyniad i uchelgais y Cyngor yma.  Daw'r cyllid diweddaraf, cyfanswm o £500,000, o Lywodraeth Cymru drwy'r Gronfa Cludiant Lleol. Mae'r cynllun bellach wedi derbyn cyfanswm o £9.001miliwn.  Hyd yn hyn, mae'r Cyngor wedi cyfrannu £5miliwn o'r cyllid yma. Mae gweddill y cyllid yn dod o Lywodraeth Cymru, sy'n adlewyrchu pwysigrwydd y cynllun yma o ran lliniaru tagfeydd traffig ar hyd coridor yr A4059.

Gan aros yn Aberpennar, roeddwn i'n falch iawn bod Gwobrau Rhedeg y DU 2018 wedi cyhoeddi mai Rasys Nos Galan yw Ras 5km Orau Cymru.  Mae'r achlysur wedi mynd o nerth i nerth dros y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r wobr yma'n cydnabod yr holl waith caled sy'n cyfrannu at lwyddiant yr achlysur yma, sy'n rhan arbennig o galendr y Fwrdeistref Sirol bob blwyddyn.  Mae'r achlysur unwaith eto wedi cyrraedd y rhestr fer yng nghategori Ras Orau'r DU a'r Ras Hwyl Orau eleni. Rydyn ni'n gobeithio ennill gwobr Ras Orau'r DU unwaith eto ar ôl llwyddo i'w hennill yn 2014. Rydyn ni angen eich cymorth chi er mwyn sicrhau ein bod ni'n ennill. Mae modd i chi bleidleisio ar wefan Gwobrau Rhedeg y DU.

Yn olaf, hoffwn i ddiolch i'n preswylwyr am eu hymrwymiad at ailgylchu dros gyfnod y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd. Diolch, hefyd, i holl staff Gofal y Strydoedd a oedd yn gweithio ar hyd a lled y Sir dros y Nadolig.  Mae swm y gwastraff a gafodd ei ailgylchu eleni yn uwch na ffigyrau'r llynedd. Cafodd dros 2,000 tunnell o wastraff sych a 547 o wastraff bwyd eu casglu dros gyfnod yr ŵyl. Mae hyn yn uwch na'r 1,655 tunnell o wastraff sych a'r 506 tunnell o wastraff bwyd a gafodd eu casglu yn ystod yr un cyfnod y llynedd.

Wedi ei bostio ar 15/01/2018