Yr wythnos ddiwethaf, roeddwn i yng Nghynhadledd Flynyddol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn Llandudno, lle roedd Alun Davies AC, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus wedi fy annerch i ac Arweinwyr Cynghorau eraill ynghylch cynigion Llywodraeth Cymru i Ddiwygio Llywodraeth Leol.
Does neb yn gwadu bydd angen gwneud newidiadau yn y dyfodol, oherwydd dydy'r model presennol o ddarparu gwasanaethau ddim yn gynaliadwy yn hirdymor, ond rwy'n falch bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cadarnhau fyddai'r cynigion ddim yn cael eu datblygu ymhellach. Rwy'n gwybod bod llawer o'm cydweithwyr yn teimlo bod cynigion Llywodraeth Cymru ddim yn ystyried y pwysau ariannol fyddai wedi cael eu rhoi ar Awdurdodau trwy gyfuno, na'r effaith o golli swyddi. Mae'n hollbwysig bod trafodaethau yn y dyfodol yn ymgysylltu'n llawn ag Awdurdodau Lleol i lunio'r glasbrint gorau ar gyfer darparu gwasanaethau effeithlon ac o ansawdd uchel.
Mae tywydd braf yr haf yn sicr wedi codi calonnau yn Rhondda Cynon Taf, ac mae digon wedi bod yn mynd ymlaen ar draws y Fwrdeistref Sirol dros y pythefnos diwethaf.
Yn Nhreorci yn ddiweddar, mae Gŵyl Gelf Cwm Rhondda Treorci (neu RAFT) gyntaf wedi gweld 3 diwrnod o berfformiadau gwych ar draws ystod o wahanol feysydd celfyddydol. Roeddwn i'n ddigon lwcus i weld perfformiad Only Men Aloud nos Sadwrn, a rhaid dweud fy mod wedi ei fwynhau yn fawr. Rydyn ni'n hynod o falch o'n hanes diwylliannol, ac mae Cymoedd De Cymru yn enwog am feithrin perfformwyr o'r radd flaenaf ar draws ystod o feysydd, a chredaf ei bod yn deg dweud bod Gŵyl Gelf Cwm Rhondda Treorci yn deyrnged addas i'r dreftadaeth yma. Rwy'n siŵr fy mod yn siarad ar ran nifer trwy ddweud ei bod hi'n wych gweld y gymuned gyfan yn dod at ei gilydd ac rwy'n edrych ymlaen at yr Ŵyl nesaf, ac rwy'n siŵr y bydd hi hyd yn oed yn fwy a hyd yn oed yn well.
Mae Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty hefyd wedi elwa o'r heulwen, gyda'r niferoedd uchaf erioed yn defnyddio'r unig gyfleuster Lido awyr agored wedi'i dwymo yng Nghymru. Mae bron i 8,000 o bobl wedi cadw lle ar sesiwn dros yr wythnos ddiwethaf, a chredaf fod hyn yn brawf cadarn ein bod ni wedi gwneud y penderfyniad cywir wrth fuddsoddi i ailagor y cyfleuster poblogaidd ychydig dros 3 blynedd yn ôl. Rwy'n siŵr y bydd y Lido yn parhau'n boblogaidd iawn gan fod disgwyl i'r tywydd braf barhau tan yr wythnos nesaf, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu'ch tocynnau ar-lein ymlaen llaw. Mae gyda ni hefyd 200 o docynnau wrth y drws o 9am bob dydd, ar sail y cyntaf i'r felin.
Mae Gorffennaf hefyd yn arwydd fod Rasys Beiciau Modur Parc Aberdâr ar y gorwel. Mae'r achlysur blynyddol yma yn un o uchafbwyntiau calendr Cwm Cynon, a bydd rasys eleni yn cael eu cynnal ar lwybr rasio gwell ar ôl i'r Cyngor gefnogi Clwb Beiciau Modur Aberaman i ennill arian grant sylweddol i roi wyneb newydd i lwybrau'r Parc.
Wedi ei bostio ar 03/07/18