Ar ddiwedd y mis diwethaf, bu aelodau o'r Cyngor yn ystyried a chymeradwyo cynigion ar gyfer cyllideb sy'n gytbwys yn gyfreithiol ar gyfer y flwyddyn ariannol 2018/19.
Er gwaethaf y caledi sy'n parhau i bwyso ar Awdurdodau Lleol, rydyn ni wedi cynnal ein hymagwedd ddisgybledig a gofalus tuag at reoli ein cyllidebau. Drwy hyn, rydyn ni wedi cytuno i fuddsoddi £180 miliwn o'r gwariant cyfalaf yn ein cymunedau dros y tair blynedd nesaf.
Bydd hyn yn ein galluogi ni i ychwanegu at y llwyddiant enfawr a gafodd ei ddarparu gan raglen y Cyngor sydd gwerth £200 miliwn, #buddsoddiadRhCT. Yn ogystal â hyn, bydd y cynllun cyfalaf yma'n cael ei gefnogi gan y buddsoddiad ychwanegol hollbwysig gwerth £300 miliwn a gyhoeddon ni yn gynharach eleni. Bydd hyn yn golygu bod y Cyngor yn gallu parhau i fuddsoddi yn y gwasanaethau a'r meysydd pwysicaf i'n trigolion. Bydd hefyd yn caniatáu inni barhau i adeiladu ysgolion gwell, teithio ar ffyrdd a phriffyrdd gwell, a pharhau i fuddsoddi yn ein cyfleusterau hamdden.
Y llynedd, rhoddais fraslun o sut roedden ni wedi gosod targed uchelgeisiol i arbed £6 miliwn drwy effeithlonrwydd. Rwy'n falch iawn i ddweud ein bod ni wedi rhagori ar y targed yma drwy arbed dros £7 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Mae'r dull yma wedi galluogi'r Cyngor i gynyddu'r gyllideb ysgolion £2 filiwn ar gyfer 2018/19, sef dwywaith y swm a gafodd ei nodi'n flaenorol. Drwy barhau i herio'n hunain yn y modd yma, rydyn ni wedi llwyddo i osgoi trosglwyddo rhan fwyaf o faich y caledi i'r Gwasanaethau Rheng Flaen a'n trigolion. Mae hyn wedi'i adlewyrchu yn y ffaith mai Rhondda Cynon Taf sydd a'r cynydd Treth y Cyngor isaf yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn i ddod, sef 3.3%. Rydyn ni'n cydnabod y pwysau sydd ar gyllid personol pawb, ac felly mae'r Cyngor yn benderfynol o wneud popeth o fewn ei allu i sicrhau fod trigolion ddim yn dwyn pwysau'r hinsawdd economaidd wael sydd ohoni.
Hoffwn i ddweud diolch i'r sawl sydd wedi cymryd rhan ym mhroses ymgynghori helaeth y Cyngor i bennu'r gyllideb. Drwy roi eich barn chi, a rhoi gwybod am eich blaenoriaethau chi, rydych chi wedi helpu i lywio dyfodol Rhondda Cynon Taf.
Hoffwn i hefyd ddiolch i'r holl aelodau o staff y Cyngor a weithiodd yn ddi-baid yn ystod cyfnod y storm "Beast from the East" yn gynharach y mis yma. Dyma oedd yr ymgyrch tywydd gaeafol fwyaf yn hanes Rhondda Cynon Taf. Felly, rhaid rhoi clod i'r carfanau am yr hyn a wnaethon nhw i frwydro yn erbyn yr eira trwm a oedd yn bygwth tarfu difrifol ar ein rhwydwaith priffyrdd.
Wedi ei bostio ar 15/03/18