Yn ystod fy amser fel Arweinydd y Cyngor, rydw i wedi ceisio rhoi mwy o bwyslais ar sgiliau a chyflogaeth fel sail i adeiladu economi leol gref a ffyniannus.
Dangosa ffigyrau cyflogaeth cyfredol Crynodeb Blynyddol y Farchnad Lafur Cymru welliant yn y gyfradd gyflogaeth leol o bobl 16-64 oed rhwng mis Rhagfyr 2016 a mis Rhagfyr 2017. Cafodd 1,800 o bobl yn ychwanegol eu hystyried â chyflogaeth yn ystod y cyfnod yma. Mae'n hanfodol ein bod ni'n cynllunio sefyllfa gref i ni ein hunain i fanteisio ar y cyfleoedd enfawr sydd wedi'u cynnig i ranbarth De Ddwyrain Cymru drwy Gytundeb Dinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd gwerth £1.229 biliwn. Ar wahân i ddenu tua £4 biliwn o fuddsoddiad y sector preifat dros yr 20 mlynedd diwethaf, disgwylir i'r prosiect greu oddeutu 25,000 o swyddi ar draws y rhanbarth. Rydyn ni eisoes wedi gweld peth o'r gwaith yma'n datblygu trwy'r buddsoddiad a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mai y llynedd i gefnogi sefydlu cyfleuster mawr sy'n cynhyrchu technoleg lled-ddargludo cyfansawdd ansawdd uchel. Rhaid hefyd fanteisio ar gyfleoedd pellach sy'n canolbwyntio'n benodol ar gymunedau'r Cymoedd trwy Dasglu'r Cymoedd. Bydd gwaith y fenter yma'n helpu i gefnogi cyflogaeth yn yr ardaloedd hynny o'n Bwrdeistref Sirol sydd angen mwy o gymorth wedi'i dargedu.
Rydyn ni'n parhau i gynnig ein cynlluniau prentisiaeth a graddedigion hynod lwyddiannus. Rydyn ni wedi creu 22 swydd arall ar gyfer eleni. Mae modd cyflwyno cais am y swyddi drwy'r tudalennau swyddi ar wefan y Cyngor. Y dyddiad cau yw 1 Mehefin. Mae yna 15 prentisiaeth a 7 swydd raddedig ar gael ar draws adrannau'r Cyngor. Rydyn ni hefyd yn agosáu at y marc hanner ffordd o ran cyflawni'r ymrwymiad uchelgeisiol o greu o leiaf 150 o'r cyfleoedd yma cyn diwedd tymor y Cyngor yma, lle darparon ni 45 o gyfleoedd llynedd.
Yr hyn sy'n wraidd i sicrhau economi ffyniannus dros y tymor hwy yw ein buddsoddiad sylweddol mewn cyfleusterau addysgol. Mae ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif wedi ymroi i fod ymhlith yr uchaf yng Nghymru. Bydd y rhaglen yn gweld buddsoddiad o £320 miliwn yn cael ei fuddsoddi (cyfuniad o Fand A £160 miliwn a Band B £160 miliwn). Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i wella ysgolion ledled y Fwrdeistref Sirol erbyn 2026, gan wneud gwahaniaeth pendant i amgylcheddau dysgu ein plant. Yn ddiweddar, es i safleoedd yn y Rhondda a Thonyrefail er mwyn archwilio'r gwaith sy'n cael ei gyflawni. Roeddwn i'n falch iawn i weld sut roedd y cyfleusterau o'r radd flaenaf yn datblygu. Mae gwaith hefyd yn parhau ar wella cyfleusterau ysgol drwy'r rhaglen gyfalaf, gwerth £6.876 miliwn ar gyfer 2018/19. Mae hyn wedi cyfrannu at duedd gadarnhaol o ganlyniadau cyrhaeddiad gwell dros y blynyddoedd diwethaf. Rhaid i'n hymagwedd fod yn gynhwysfawr, ac mae agor canolfan ategol newydd ar gyfer Ysgol Arbennig Maesgwyn yng Nghampws Coleg y Cymoedd yn Aberdâr, gwerth £20 miliwn, yn arwyddluniol o'n hymagwedd tuag at greu system addysg drylwyr a chydlynol.
Wedi ei bostio ar 11/05/2018