Mae'r gyllideb wedi'i chyhoeddi gan Ganghellor y Trysorlys wedi profi'n ddiau nad yw cyni wedi dod i ben, er gwaethaf y cyhoeddiadau. Er gwaethaf y ffaith i'r Llywodraeth gyhoeddi £650 miliwn ychwanegol ar gyfer gofal cymdeithasol, methodd ihi sôn am doriadau o £1.3 biliwn i gyllideb Llywodraeth Lleol yn Lloegr, sy'n golygu y bydd £65 miliwn yn llai yng nghyllideb Cymru.
Roedd cyhoeddiad y Gyllideb ddydd Llun diwethaf yn gwneud dim i godi'r tywyllwch sydd uwchben byd llywodraethau lleol ac, wrth ystyried y cyllid a gafodd ei neilltuo ar gyfer y GIG o'r blaen, dim ond ychydig o gyllid sydd ar gael ar gyfer Llywodraeth Cymru trwy'r fformiwla ganlyniadol Barnett. Mae hyn yn dyrannu arian, wedi'i gyhoeddi ar gyfer gwasanaethau yn Lloegr, ar sail fformiwla i'r sefydliadau datganoledig, megis y Cynulliad. Ochr yn ochr â'm Cyd-arweinwyr Awdurdodau Lleol yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, rydw i wedi pwysleisio'r achos i Awdurdodau Cymru dderbyn cyfran o'r cyllid yma – fel y cafodd ei ymrwymo gan Lywodraeth Cymru yn y gorffennol. Mae'n gwbl hanfodol bod cynghorau ledled Cymru yn cael y cyllid sydd ei angen arnyn nhw i helpu i gynnal ein gwasanaethau craidd. Dyma'r gwasanaethau yma sydd wedi dwyn baich y toriadau dros yr wyth mlynedd diwethaf.
Mae Cabinet y Cyngor wedi cytuno ar gynlluniau uchelgeisiol yn ddiweddar i adnewyddu canol tref y Porth. Bydd y cynlluniau yma yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Mae modd i'r cynigion drawsffurfio'r dref trwy fanteisio ar ei lleoliad a chyflawni cynllun Metro De Cymru. Bydd y Metro yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus yn sylweddol yn y Cymoedd erbyn 2022, pan fydd yr ail gyfnod i fod i gael ei gwblhau.
Mae gyda ni weledigaeth glir o ran trawsffurfio'r Porth yn dref ffynniannus a bywiog, a chynnig trafnidiaeth gwell fel ei chanolbwynt. Bydd modd gwneud hyn trwy ddatblygu canolfan drafnidiaeth fodern ac ardal yr orsaf sy'n darparu cyfleoedd hanfodol ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus integredig. Rydyn ni hefyd yn effro i'r ffaith ei bod hi'n hanfodol i'r buddsoddiad yma ddod â gwelliannau at sylw'r cyhoedd i annog rhagor o bobl i'r dref. Yn rhan o hyn, rydyn ni'n bwriadu ehangu Grant Cynnal Canol y Dref i'r Porth i ganiatáu i fasnachwyr a landlordiaid ymgeisio am gyllid i gynnal gwelliannau ar flaenau eu heiddo. Mae'n hollbwysig felly fod y seilwaith angenrheidiol yn ei le i gefnogi datblygiad o'r fath. Rhan allweddol o hyn fydd sicrhau bod cyfleusterau parcio hirdymor a thymor byr yn cael eu creu, yn ogystal ag ehangu'r ddarpariaeth parcio a theithio bresennol i greu 72 o leoedd parcio ychwanegol.
Bydd gwaith yn dechrau cyn bo hir i gynyddu nifer y lleoedd parcio yng nghyfleuster parcio a theithio Abercynon, tra bod gwaith ymchwilio wrthi'n cael ei gynnal i ehangu'r cyfleuster presennol ym Mhont-y-clun.
Dydy ein huchelgeisiau ddim yn gyfyngedig i'r Porth chwaith – mae gwaith ailddatblygu ar safle Dyffryn Taf ym Mhontypridd yn mynd rhagddo'n dda iawn, ac mae gwaith i agor canol tref Tonypandy i gerbydau wedi cael ei gwblhau'n gynt na'r disgwyl. Rydyn ni'n parhau i weithio ar gynlluniau tebyg ar gyfer canol trefi ledled y Fwrdeistref Sirol.
Wedi ei bostio ar 05/11/2018