Ychydig dros wythnos yn ôl, achosodd y glaw eithriadol ym mhennau uchaf Cwm Cynon a Chwm Rhondda broblemau mawr ar gyfer ein rhwydwaith trafnidiaeth wrth i storm Callum ddod â'r llifogydd gwaethaf mewn 30 o flynyddoedd. Ac yntau wedi cyrraedd 180mm neu dros 7 modfedd ym mhen uchaf Cwm Cynon dros y dydd Gwener a'r dydd Sadwrn, achosodd y glaw i nifer o gwteri orlifo. Oherwydd hynny, roedd llawer o gartrefi a busnesau o dan ddŵr a bu rhaid i rai trigolion adael eu cartrefi.
Er i'r Cyngor ymdrechu'n galed i baratoi ar gyfer y tywydd garw drwy, er enghraifft, lenwi dros 2,500 o fagiau tywod a threfnu bod gweithwyr a pheiriannau ychwanegol ar gael, bu rhaid cau nifer o ffyrdd oherwydd y glaw trwm. Er hynny, yn ein hardaloedd risg uchel, roedd yr amddiffyniadau llifogydd newydd a'r mesurau lliniaru rydyn ni wedi buddsoddi ynddyn nhw yn ystod y blynyddoedd diwethaf, yn gweithio'n dda.
Mae'r gwaith glanhau helaeth wedi bod yn mynd rhagddo ers y llifogydd, ac yn ôl ein hamcangyfrifon, y gost fydd dros £100,000, a hynny am yr ymateb a'r gwaith glanhau yn unig. Mae'r Cabinet hefyd wedi cytuno i ryddhau £100,000 pellach i gynnal gwaith ymchwilio ac arolygon teledu cylch cyfyng o'r tu mewn i'r cwteri.
Hoffwn i fanteisio ar y cyfle yma i ddiolch i staff rheng flaen y Cyngor a fu'n gweithio drwy gydol y penwythnos i fynd i'r afael â'r llifogydd – derbyniwyd bron i 200 o alwadau rhwng y dydd Gwener a'r dydd Sadwrn.
Yn gynharach y mis yma, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru fod £119miliwn o Gronfa Ewrop ar gael i ddatblygu Metro De Cymru. Bydd hyn yn dod â gwelliannau sylweddol i'r system cludiant cyhoeddus yn yr ardal. Y disgwyl yw y bydd y gwaith yma'n cael ei orffen erbyn 2023.
O'r cyllid yma, bydd £78.4miliwn yn cael ei neilltuo i wella'r rhwydwaith yn Rhondda Cynon Taf. O'r swm yma, bydd £51.1miliwn yn mynd tuag at wella llinellau rheilffordd i Dreherbert ac Aberdâr. Bydd y cyllid sy'n weddill, sef £23.7miliwn, yn cael ei ddefnyddio i symud gwaith ar ddepo rheilffordd newydd Fynnon Taf yn ei flaen a fydd yn ychwanegu at y £43miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i neilltuo ar gyfer y prosiect drwy setliad Cyllideb dros dro y mis yma.
Mae'r cyllid sylweddol yma'n golygu bod modd erbyn hyn ddechrau cyflawni'r dyhead o ddarparu gwasanaeth cludiant cyhoeddus llawer gwell ar gyfer trigolion RhCT a'r cymoedd cyfagos, a fflyd o drenau newydd eisoes ar fin cael eu cyflwyno rhwng 2021 a 2023.
Er bod y fasnachfraint ar gyfer Cymru a'r Gororau wedi cael ei throsglwyddo o Drenau Arriva Cymru i sefydliad Trafnidiaeth Cymru, mae'n amlwg na fydd y newid yn digwydd dros nos. Bydd llawer o'r newidiadau cychwynnol yn fach iawn, er enghraifft y brandio fydd yn ymddangos ar wisgoedd gweithwyr ac ar y tu allan i drenau, a bydd sawl blwyddyn wedi mynd heibio cyn i'r manteision llawn ddod i'r amlwg mewn gwirionedd. Erbyn 2023 er enghraifft, bydd 95% o'r teithiau yn digwydd ar drenau sydd â chapasiti uwch, ac rwy'n hyderus y caiff trigolion y cymoedd wedyn fanteisio ar system cludiant cyhoeddus fwy dibynadwy a phwrpasol a fydd yn hyrwyddo cysylltedd gwell oherwydd y teithiau mwy effeithlon.
Wedi ei bostio ar 24/10/18