Wrth i'r nosweithiau droi'n dywyllach, mae ein meddyliau ni'n troi tuag at ffurfioli'r paratoadau ar gyfer y flwyddyn ariannol sydd i ddod. Unwaith eto, mae disgwyl i gyllidebau Llywodraeth Leol gael eu heffeithio gan gyni barhaus Llywodraeth Y Deyrnas Unedig. Mae'r cyni yma wedi arwain at doriadau mawr i wariant cyhoeddus ac mae'r disgwyl i sicrhau effeithlonrwydd wedi cynyddu yn ystod y degawd diwethaf. Mae Cynghorau ar draws y ffin yn dechrau dioddef o ganlyniad i'r straen cynyddol yma. Hoffwn i annog y Llywodraeth yn San Steffan i ddod â'r polisi cyni yma i ben. Mae'r polisi yma wedi methu ac wedi cael effaith enfawr ar Awdurdodau Lleol, yn ogystal â chymunedau ac unigolion ar hyd a lled y DU.
Mae'n bwysig iawn bod ein gwaith paratoi mewn perthynas â chyllidebau'r dyfodol yn parhau rhwng y gwanwyn a'r haf. Mae hyn yn golygu ein bod ni'n paratoi cyn belled ag sy'n bosibl ar gyfer pwysau'r cyllideb yn y dyfodol. Bydd hyn yn ein galluogi ni i bennu arbedion effeithlonrwydd yn gynnar. Gan ddweud hynny, rydyn ni'n rhagweld y bydd toriadau pellach ar gyfer 2019/20 o ganlyniad i'r galw cynyddol am ofal cymdeithasol a'r angen i ddarparu cyllid teg i'n hysgolion. Mae hyn i gyd yn golygu y bydd y broses o bennu cyllideb yn heriol unwaith eto.
Sicrhau cyllid ar gyfer gwasanaethau gofal cymdeithasol (gwasanaethau i oedolion a gwasanaethau i blant) a gwasanaethau addysg yw dau o flaenoriaethau craidd yr weinyddiaeth yma. Mae'r buddsoddiad gwerth £2miliwn a gafodd ei ddyrannu er mwyn gwella ysgolion yn 2018/19 yn dyst i hyn. Mae'r ffigwr yma ddwywaith ein hymrwymiad gwreiddiol. Rydw i'n cydnabod nad oedd y ffigwr yma'n ddigon i sicrhau ein bod ni'n fantoli cyfrifon ysgolion ac mae hynny o ganlyniad i gostau cynyddol. Fodd bynnag, dyma'r swm mwyaf yr oedd modd i ni ei ddyrannu heb achosi toriadau mawr i wasanaethau hanfodol sy'n cael eu darparu gan y Cyngor.
Byddwn ni'n parhau i gyflawni gwaith sy'n ymwneud â'r ymrwymiad yma yn 2019/20 trwy gynyddu'r cyllid gan o leiaf £1miliwn, yn ogystal â chymeradwyo'r cyllid gan y Llywodraeth ar gyfer y dyfarniad cyflog i athrawon. Rydyn ni'n cydnabod bod dim ond modd i ni wneud hyn trwy wneud y gorau o'r effeithlonrwydd mewn meysydd eraill o fewn y Cyngor a thrwy leihau costau. Bydd hyn yn ein caniatáu ni i ddyrannu'r arbedion yma i'n meysydd o flaenoriaeth.
Mae rhaglen #buddsoddiadRhCT wedi cyflawni sawl gwelliant sylweddol yn ein meysydd o flaenoriaeth dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r gwaith yma'n cynnwys gwelliannau i'n cyfleusterau hamdden dan do ac awyr agored, gwella cyfleusterau chwarae i blant, creu amgylchedd addysg sy'n addas ar gyfer y 21ain ganrif ar gyfer ein plant, a'r buddsoddiad sylweddol i gynlluniau isadeiledd ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae'r buddsoddiad yma hefyd wedi ein galluogi ni i wneud gwelliannau mawr i rwydwaith y priffyrdd a thrafnidiaeth. Mae gyda ni ragor o gynlluniau ar y gweill a fydd yn arwain at y rhaglen waith mwyaf erioed yn RhCT o ran gwaith trwsio a gwaith adnewyddu. Er ein bod ni'n gorfod dioddef pwysau'r caledi ariannol yma, mae gweld ein gwaith caled o ran paratoi yn talu ar ei ganfed yn galonogol, wrth i ni gyflawni ymrwymiadau a wnaeth y Cyngor i breswylwyr RhCT y llynedd.
Wedi ei bostio ar 24/09/18