Roeddwn i'n falch o weld yr ymateb cefnogol yn yr ymgynghoriad i gynlluniau'r Cyngor ar gyfer cynllun Ffordd Osgoi Llanharan. Roedd 95% o'r ymatebion ysgrifenedig yn cefnogi'r cynllun mawr.
Mae'r weinyddiaeth yma wedi gwneud ymrwymiad clir i fuddsoddi mewn nifer o gynlluniau trafnidiaeth strategol a'u cyflawni yn ystod tymor y Cyngor yma. Mae'r rhain yn cynnwys Ffordd Osgoi Llanharan a deuoli rhan o'r A4119 rhwng Coed Elái ac Ynysmaerdy. Mae cwblhau Ffordd Osgoi Llanharan yn dibynnu ar gynnydd y datblygiad tai yn yr ardal. Bydd rhan ganol y Ffordd Osgoi yn cael ei hadeiladu gan y datblygwr cyn meddiannu'r 801 fed tŷ. Bydd y Cyngor wedyn yn adeiladu gweddill y rhan ddwyreiniol.
Serch hynny, rydyn ni'n parhau i weithredu mewn ffordd ragweithiol o ran llunio cynlluniau ac ymgynghori â phreswylwyr ar y cynllun cyfan cyn hyn. Mae dau opsiwn bob ochr i'r Orsaf Wasanaeth yn cael eu rhoi i drigolion cyfagos o ran cysylltu'r ffordd osgoi i'r A473 .
Gan aros gyda phrosiectau buddsoddi mawr, bydd disgyblion yn Nhonyrefail yn dychwelyd yn fuan i gyfleusterau modern o'r radd flaenaf ar gyfer yr 21ain Ganrif pan fydden nhw'n dychwelyd o wyliau'r Pasg. Mae'r datblygiad ar gyfer Ysgol Gymuned Tonyrefail wedi'i hadeiladu a'i dodrefnu'n llawn. Mae'n rhaid i mi ddweud bod yr ysgol yn edrych yn wych. Mae'r adeilad newydd sbon wedi cael ei gysylltu i'r adeilad Fictoraidd Rhestredig Gradd II sydd wedi'i adnewyddu'n helaeth drwy ddefnyddio llwybrau gwydr. Mae'r datblygiad 3-19 yn rhan o'r buddsoddiad ehangach mewn addysg gwerth £85 miliwn ar draws Cwm Rhondda a Thonyrefail, sydd wedi'i ariannu ar y cyd â Llywodraeth Cymru, i ddarparu amgylcheddau dysgu modern a gwell i'n pobl ifainc.
O ran buddsoddiad mewn hamdden, bydd y gwelliannau olaf i Ganolfan Chwaraeon Abercynon yn cael eu cwblhau ddiwedd mis Ebrill. Bydd angen cau'r ganolfan yn gyfan gwbl rhwng 20 Ebrill a 7 Mai er mwyn cwblhau'r gwaith. Mae llawer o welliannau eisoes wedi'u cwblhau i'r pwll nofio. Roedd y gwaith yma'n cynnwys ail-leinio'r pwll yn llawn a gwella'r systemau awyru, goleuo a hidlo. Bydd y cam nesaf yn y cynllun o waith yn sicrhau bod y pwll yn dal i fod yn hygyrch ar gyfer pob cwsmer.
Efallai eich bod chi wedi gweld yn y cyfryngau bod dau o drigolion Cwm Rhondda wedi cael eu herlyn a'u dedfrydu yn ddiweddar am adael gwastraff yn anghyfreithlon yn y Fwrdeistref Sirol. Dyma un o'r achosion mwyaf erioed i gael ei ymchwilio yn y Fwrdeistref Sirol. Roedd yn cynnwys 150 o fagiau o wastraff masnachol a domestig oedd wedi'u gadael ar dir coedwigaeth rhwng Graigwen a Llanwynno, yn ogystal â thomenni gwastraff eraill. Er y byddem ni wedi hoffi gweld y troseddwyr yn cael dedfryd fwy llym fyth, byddwn ni'n parhau i gymryd ymagwedd ddi-lol wrth ymchwilio pob achos o adael gwastraff yn anghyfreithlon. Lle bo hynny'n bosibl, byddwn ni'n dod ag achos cyfreithiol yn erbyn y rhai sy'n gyfrifol.
Hoffwn hefyd ddymuno Pasg hapus iawn i'n holl drigolion ar gyfer y penwythnos nesaf. Rydw i'n siwr bydd llawer ohonoch chi'n ymweld â rhai o'n hatyniadau gwych dros y dyddiau nesaf. Ail-agorodd Lido Ponty yn ddiweddar ar gyfer tymor 2019 ac rydw i'n siŵr y bydd unwaith eto'n boblogaidd gyda thrigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd. Aeth 91,000 o bobl drwy ei drysau yn 2018. Rydw i'n gobeithio bydd y record yma'n cael ei thorri unwaith eto yn 2019. Mae Ŵy-a-sbri y Pasg yn cael ei gynnal yn atyniad Taith Pyllau Glo Cymru ar ddydd Gwener 19 a dydd Sadwrn 20 Ebrill. Bydd yr achlysur yn cynnwys helfa wyau Pasg ac amrywiaeth o weithgareddau celf a chrefft ar thema'r Pasg. Bydd helfa wyau Pasg hefyd yn digwydd ym Mharc Gwledig Cwm Dâr ddydd Sadwrn 20 a dydd Sul 21 Ebrill. Mae'n amlwg felly bod digon i'w wneud ar gyfer teuluoedd ar draws RhCT dros gyfnod y Pasg.
Wedi ei bostio ar 18/04/2019