Mae'r flwyddyn newydd bob amser yn rhoi cyfle i ni fyfyrio ar y cynnydd rydyn ni wedi'i wneud a'r heriau a ddaeth i'r amlwg dros y deuddeng mis diwethaf. Rydw i'n credu ei bod hi'n deg dweud ei bod wedi bod yn flwyddyn eithaf llwyddiannus i'r Cyngor gan ein bod wedi parhau i gyflawni gwelliannau ar draws ein holl feysydd blaenoriaeth a gwnaed cynnydd da ar nifer o brosiectau seilwaith allweddol.
Serch hynny, gan bydd cynni cyllidol yn parhau i effeithio ar ein cyllidebau ymhell i'r dyfodol, rydyn ni'n effro i'r ffaith fod rhaid i ni barhau i gymryd ymagwedd ofalus wrth reoli cyllid. Mae'r ymagwedd yma, ynghyd ag ymagwedd at bennu cyllideb ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod sy'n newid yn barhaus wedi bod yn fanteisiol i ni. Dros gyfnod yr ŵyl yn ddiweddar, roedd modd i ni ddarparu cefnogaeth ar gyfer achlysuron Nadoligaidd yng nghanol ein saith tref. Cafodd pob achlysur adborth cadarnhaol gan y gymuned leol. Roedd modd i ni hefyd roi arian i bob prif dref i sicrhau bod ganddyn nhw oleuadau ac addurniadau'r Nadolig i'w harddangos. Er bod y rhain yn ymddangos yn bethau bach sy'n aml yn cael eu cymryd yn ganiataol, mae'n werth nodi mai RhCT oedd un o'r ychydig Awdurdodau Lleol oedd yn gallu darparu'r gefnogaeth yma. Rydyn ni'n cydnabod pa mor bwysig yw hi fod trigolion, a phlant yn arbennig, yn cael y cyfle i fwynhau'r awyrgylch Nadoligaidd yn eu cymunedau.
Ar Nos Galan, fe wnaeth rhwng deg a deuddeg mil o wylwyr heidio i Aberpennar i ddathlu pen-blwydd Rasys Nos Galan yn 60 oed, a chawsom ni'r Rasys mwyaf llwyddiannus erioed. Fe wnaeth 1,750 o gystadleuwyr o bob oedran a gallu gofrestru i gymryd rhan yn y Rasys. Gwnaeth y tri Rhedwr Dirgel - David Bedford OBE, Sam Warburton OBE a Rhys Jones - yr achlysur yn noson arbennig oedd yn deilwng i ddathlu'r pen-blwydd pwysig. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y gwaith o baratoi a threfnu ar gyfer yr achlysur, yn enwedig i Heddlu De Cymru am sicrhau bod modd i bawb oedd wedi mynychu'r achlysur fwynhau'r noson yn ddiogel.
Rydyn ni'n rhagweld bydd gyda ni'r ffigyrau ailgylchu uchaf erioed ar gyfer cyfnod y Nadolig. Hoffwn ddiolch i drigolion am gymryd rhan weithredol gan sicrhau bod cymaint o ddeunydd â phosibl yn cael ei ailgylchu er mwyn amddiffyn ein hamgylchedd. Yn olaf, hoffwn ddymuno Blwyddyn Newydd hapus a ffyniannus i holl drigolion RhCT a gweithwyr Cyngor RhCT.
Wedi ei bostio ar 09/01/2019