Roedd yn wych mynychu agoriad swyddogol canolfan cymuned newydd (Canolfan Pennar) yng nghanol tref Aberpennar, lle'r oeddem yn gallu croesawu Roy Noble OBE fel un o'n siaradwyr. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud bod Canolfan Pennar wedi bod yn hynod boblogaidd ymhlith y gymuned leol ers iddi agor ddydd Llun, 3 Mehefin ac roedd yn wych gweld cynifer o bobl yn ymuno â ni ar gyfer achlysur agor y ganolfan yn swyddogol.
Dros yr ychydig flynyddoedd nesaf, byddwn ni'n cynyddu nifer y canolfannau cymuned ar draws y Fwrdeistref Sirol, gyda'r gobaith o agor 10 canolfan newydd. Bydd pob un o'r rhain yn darparu amrywiaeth o wasanaethau sydd wedi'u teilwra i anghenion penodol y gymuned leol. Rydyn ni eisoes wedi darparu cyfleuster Linc Cwm Cynon Linc mewn partneriaeth ag Age Connects Morgannwg yn hen Ganolfan Oriau Dydd y Santes Fair yn Aberdâr trwy fuddsoddiad o dros £1 filiwn. Bydd datblygiad canolfan Glynrhedynog hefyd yn gweld y Cyngor yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliad 3ydd sector. Fodd bynnag, bydd datblygiad Canolfan Pennar, a'r canolfannau yn y dyfodol yn Sgwâr y Porth a Llys Cadwyn, ar ôl eu cwblhau – yn cael eu rhedeg gan y Cyngor.
Bydd canolfannau cymuned yn ceisio cyfuno nifer o wasanaethau allweddol o dan un to mewn lleoliadau canolog sy'n amlwg ac yn cael eu gwasanaethu'n dda gan gysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus. Bydd hyn yn sicrhau ein bod ni nid yn unig yn gwneud y gorau o'n hadnoddau yn ystod cyfnod o galedi ariannol, ond yn gwarantu cynaliadwyedd hirdymor ein gwasanaethau ni. Drwy leoli nifer o wasanaethau yn y gymuned mewn un man, mae modd i fodel y Ganolfan helpu i fynd i'r afael â phrif faterion unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol trwy hyrwyddo ymgysylltiad ac integreiddio cymunedol ar draws pob cenhedlaeth a chefndir.
Mae Canolfan Pennar, er enghraifft, yn cynnig ystafell gyfrifiaduron bwrpasol i hyrwyddo dysgu gydol oes ac mae'n darparu cyfleoedd hanfodol i gael gwaith. Mae hefyd ganddi ddwy ystafell gymunedol i ddarparu ar gyfer amrywiaeth o weithgareddau. Mae bellach yn gartref i Lyfrgell Aberpennar.
Yn yr achlysur, fe wnes i hefyd ddadorchuddio paneli coffa i gofio dau o'r ffigyrau mwyaf dylanwadol oedd â chysylltiad ag Aberpennar, Bernard Baldwin MBE a Dr Elaine Morgan OBE. Bernard, wrth gwrs, oedd sylfaenydd Rasys Ffyrdd blynyddol Nos Galan; tra'r oedd Elaine yn wyddonydd, awdur a sgriptiwr arloesol. Ei phanel coffa yw'r ail yn y gyfres o Arwresau Cudd ar ôl panel Boneddiges Cwm Rhondda sydd i'w weld yn Llyfrgell Tonypandy. Bydd trydydd panel hefyd yn cael ei ddadorchuddio yn 3 Llys Cadwyn unwaith y bydd y datblygiad wedi'i gwblhau yn 2020 a bydd hwnnw er anrhydedd i Morfydd Owen.
Yn sicr, dydy'r haf ddim wedi dilyn yr un trywydd o ran tywydd fel y llynedd hyd yn hyn, ond mae'r rhagolygon ar gyfer y penwythnos yn edrych yn addawol iawn. Beth am gymryd mantais o'r tywydd braf dros y penwythnos ac ymweld ag un o atyniadau mwyaf poblogaidd Rhondda Cynon Taf? Mae Lido Cenedlaethol Cymru, Lido Ponty, sydd wedi ennill sawl gwobr, bellach ar agor ar gyfer tymor yr haf ac mae bob amser yn boblogaidd, felly gwnewch yn siŵr eich bod chi'n cadw lle ymlaen llaw.
Os ydych chi'n chwilio am rywbeth ychydig yn fwy diwylliannol, dewch i Barc Treftadaeth Cwm Rhondda er mwyn cael cipolwg ar fywyd hen löwyr Cymreig ar Deithiau Aur Du ac ar Brofiad Sinematig 'Dram'. I'r rhai sydd am fanteisio ar y golygfeydd hardd a'r cefn gwlad, mae gan Rondda Cynon Taf arlwy eang o atyniadau awyr agored – o Barc Aberdâr, lle mae'r cychod ar y llyn ar gael i'w llogi; i Barc Gwledig godidog Barry Sidings, mae digon o leoliadau prydferth i chi dreulio'ch penwythnos yn yr haul.
Wrth i Ŵyl Gelf Cwm Rhondda (RAFT) 2019 ddirwyn i ben, mae'n braf cael cyffroi am arlwy arbennig penllanw'r Ŵyl yn Nhreorci a'r cyffiniau. Y penwythnos yma yn Theatr y Parc a'r Dâr bydd dau enw mawr yn perfformio, sef seren Wicked a Les Miserables, Kerry Ellis ddydd Gwener 28Mehefin, a'r comedïwr a'r actor gwych Omid Djalili yn diddanu ddydd Sadwrn 29 Mehefin.
Wedi ei bostio ar 28/06/19