Yn y cyfarfod o'r Cyngor Llawn ddydd Mercher, 6 Mawrth, roeddwn i'n falch o weld Aelodau'n cytuno ar gyllideb refeniw Rhondda Cynon Taf am y flwyddyn sydd i ddod ac ar y cynigion ar gyfer y rhaglen gyfalaf tair blynedd.

Gan edrych ar Awdurdodau eraill ledled Cymru, mae ein rheolaeth ofalus barhaus o arian y Cyngor yn golygu bod y sefyllfa'n well yma yn RhCT gan ein bod ni, unwaith eto, wedi gallu gosod y cynnydd cenedlaethol lleiaf mewn treth y cyngor, sef 3.6%. Bydd hyn yn ein galluogi ni i amddiffyn a gwella ein gwasanaethau rheng flaen allweddol ac rydyn ni heb gynllunio unrhyw doriadau i wasanaethau.  Serch hynny, ac mae hyn yn hollbwysig, mae'n ein galluogi ni i ddyrannu rhagor o gyllid i'r meysydd sydd bwysicaf i drigolion. Mae £5.2 miliwn yn ychwanegol yng nghyllideb yr adran Addysg; £6.4 miliwn ar gyfer Gwasanaeth Cymuned a Gwasanaethau i Blant, gan gynnwys gwasanaethau gofal cymdeithasol; a £1.474 miliwn ar gyfer cymorth i bobl ddigartref ac ar gyfer atal pobl rhag mynd yn ddigartref.

Rydyn ni'n cydnabod yn gryf bod ein trigolion yn wynebu'r un heriau â'r Cyngor yn y cyfnod yma o gyni ariannol parhaus. Unwaith eto, rydyn ni wedi ceisio cael cydbwysedd rhwng sicrhau bod modd i ni redeg cymaint o wasanaethau â phosibl yn effeithiol wrth osgoi rhoi'r baich ar ein trigolion.  Mae hyn yn cael ei adlewyrchu yn y ffaith bod y cynnydd o 3.6% sydd wedi cael ei gytuno yn is o lawer na'r 4.54% y dywedodd trigolion y bydden nhw'n fodlon talu yn yr ymgynghoriad diweddar am y gyllideb. Ymatebodd bron i 4,000 o drigolion i'r ymgynghoriad, sef yr ymateb mwyaf erioed. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i roi eu barn a llunio ein blaenoriaethau am y flwyddyn sydd i ddod.

Unwaith eto, mae ein gwaith diwyd trwy gydol y flwyddyn wedi ein galluogi ni i wneud yn well na'n targed o £6 miliwn ar gyfer dod o hyd i arbedion - rydyn ni wedi dod o hyd i arbedion pellach o £121,000.  Mae hyn yn adeiladu ar y £7 miliwn y gwnaethom ni ei arbed y flwyddyn ariannol ddiwethaf ac mae'n dangos, er ei bod hi'n gynyddol anodd i wneud y math yma o arbedion, ein bod ni'n edrych ar y ffordd rydyn ni'n gweithredu'n fewnol a sut rydyn ni'n cynnal ein busnes er mwyn gwneud arbedion, lle mae hynny'n bosibl.

Yn y cyfamser, bydd y rhaglen gyfalaf tair blynedd o £173 miliwn yn ein galluogi ni i adeiladu ar y rhaglen fuddsoddi sylweddol sy'n cael ei chyflawni mewn cymunedau ar draws Rhondda Cynon Taf yn rhan o'n rhaglen #buddsoddiadRhCT.  Erbyn diwedd y flwyddyn ariannol bresennol, byddwn ni wedi buddsoddi bron i £365 miliwn o gyfalaf ar draws ystod o'n meysydd blaenoriaeth craidd. Mae hyn yn cynnwys dros £170 miliwn i greu ysgolion newydd a gwella ysgolion sy'n bodoli'n barod; £85 miliwn yn ein priffyrdd, trafnidiaeth a chynlluniau strategol; a £15 miliwn ar barciau, meysydd chwarae, canolfannau hamdden a chyfleusterau hamdden awyr agored, er enghraifft caeau chwarae 3G, dros y pedair blynedd diwethaf.

Bydd hyn nawr yn golygu mai dyma'r cyfnod hiraf o fuddsoddiad parhaus yn hanes y Sir. Rydw i'n credu bydd ein holl drigolion yn sylwi ar y gwelliannau sydd wedi cael eu cyflawni yn rhan o #buddsoddiadRhCT, p'un ai yw'n arwyneb gwell ar ffordd, yn faes chwarae wedi'i uwchraddio, neu hyd yn oed y datblygiad ym Mhontypridd sydd newydd gael ei enwi'n 'Llys Cadwyn'.

Ymwelodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford AC, â Llys Cadwyn, sydd ar safle hen Ganolfan Siopa Dyffryn Taf ym Mhontypridd, ddydd Iau, 7 Mawrth ar gyfer seremoni i enwi'r safle yn swyddogol. Pan fydd gwaith adeiladu ar y safle wedi cael ei gwblhau yn 2020, bydd tua 1,000 o swyddi wedi'u lleoli ym Mhontypridd. Bydd Trafnidiaeth Cymru a Keolis Amey ymhlith y nifer o gyflogwyr i sefydlu eu prif swyddfa ar y datblygiad.  Bydd y safle hefyd yn gartref i nifer o gyfleusterau defnydd cymunedol gan y bydd 3 Llys Cadwyn (sef "Adeilad C" gynt) yn cynnwys ystod o wasanaethau gan gynnwys llyfrgell a chyfleuster hamdden newydd.

Roeddwn i hefyd yn falch o groesawu'r Prif Weinidog i Ysgol Gynradd Cwmaman, a gostiodd £7.2 miliwn i'w hadeiladu, yn gynharach yn y dydd ar gyfer y seremoni agoriadol swyddogol.  Roedd yn wych gweld y plant yn elwa o ysgol newydd, gyda'r cyfleusterau diweddaraf, fydd yn sicr yn destun balchder i'r gymuned am flynyddoedd i ddod - yn dilyn ailddatblygu safle hen Lofa Fforchaman yn gyfleuster ar gyfer y 21ain Ganrif y bydd o ddefnydd i genedlaethau i ddod.

Wedi ei bostio ar 12/03/2019