Mae trefniadau munud olaf wrthi'n cael eu gwneud ar gyfer un o nosweithau mwyaf cyffrous y flwyddyn, wrth i Rasys Ffordd Nos Galan 2019 agosáu.
Mae'r trefnwyr wedi trefnu'r llwybr (dim newid ers y llynedd!) ac fe gafodd rhifau rasio'r cystadleuwyr – hen ac ifanc – eu hanfon trwy'r post ar 5 Rhagfyr.
Mae'r Rhedwr/Rhedwyr Dirgel wedi cadarnhau y byddan nhw'n bresennol, mae cynlluniau ar gyfer y ffair a'r tân gwyllt yn eu lle ac mae croeso i bawb ymweld â chanol tref Aberpennar ar gyfer Nos Galan unigryw iawn!
Dewch i gwrdd â'r Rhedwr/Rhedwyr Dirgel enwog wrth iddyn nhw gyrraedd y dref gyda ffagl eiconig Nos Galan, bloeddiwch i gefnogi'r rhedwyr ifanc a'r sawl sy'n rhedeg am hwyl, dewiswch eich hoff wisg ffansi a gwyliwch rai o redwyr gorau'r ardal yn cystadlu yn y rasys arbennigol.
Diolch i ysbryd cymunedol unigryw Aberpennar, mae'n siwr y bydd Nos Galan 2019 yr un mor boblogaidd a chofiadwy â phob un o'r 60 o achlysuron Rasys Ffordd sydd wedi'i rhagflaenu!
Meddai'r Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan ac Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion yr Amgylchedd, Hamdden a Threftadaeth: "Mae Nos Galan yn hoelio sylw ac edmygedd y byd chwaraeon ledled y DU, a thu hwnt, oherwydd ei fod yn achlysur mor unigryw.
"Rydyn ni'n gweithio'n galed bob blwyddyn i gynnal achlysur chwaraeon sy'n apelio cymaint i blant, teuluoedd a rhedwyr hwyl ag y mae ar gyfer athletwyr o'r radd flaenaf, sy'n cystadlu yn Nos Galan yn rhan o'u hyfforddiant proffesiynol.
"Gydag awyrgylch bendigedig, tân gwyllt a ffair a'r cyfle i weld y Rhedwr neu'r Rhedwyr Dirgel enwog yn lansio'r ras, mae'n noson allan wych.
"Mae'r achlysur bellach yn dathlu 61 o flynyddoedd, ac mae'r rheiny ohonon ni sy'n falch o fod yn rhan o drefnu Rasys Ffordd Nos Galan yn parhau i fod wedi ymrwymo i nod gwreiddiol yr achlysur – cadw chwedl Guto Nyth Brân yn fyw.
"Wrth i ni barhau â Rasys Ffordd Nos Galan er cof am ei sylfaenydd, y diweddar Bernard Baldwin MBE, rydyn ni'n gwahodd pobl o bob oed i ymuno â ni yn Aberpennar ar Nos Galan am noson fythgofiadwy."
Nodiadau:
- Dydy llwybrau Nos Galan 2019 ddim wedi newid i oedolion nac i bobl ifainc.
- Mae rhifau rasio wedi cael eu hanfon. Os dydych chi ddim wedi derbyn eich un chi, neu os oes gyda chi gwestiwn, e-bostiwch nosgalan@rctcbc.gov.uk
- Bydd y tân gwyllt yn cychwyn am 6.30pm. Rydyn ni'n annog perchnogion anifeiliaid anwes i gadw eu hanifeiliaid y tu mewn yn ystod y cyfnod yma.
- Unwaith eto, bydd cyfleuster Parcio a Theithio yn cael ei drefnu ar gyfer y rhedwyr a'r gwylwyr – mae rhagor o wybodaeth yma
- Y man canolog ar gyfer Rasys Ffordd Nos Galan 2019 fydd y Ganolfan Pennar newydd.
Anfonwch unrhyw ymholiadau am Nos Galan drwy e-bost i nosgalan@rctcbc.gov.uk. Bydd gan y Garfan Rheoli Achlysuron fynediad cyfyngedig i'r swyddfa dros y Nadolig, ond byddan nhw'n dychwelyd i'r gwaith ar 30 Rhagfyr i fynd i'r afael ag unrhyw ymholiadau.
Wedi ei bostio ar 20/12/2019