Fe wnaeth Pwyllgor Rasys Nos Galan gwrdd ar-lein yr wythnos yma i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch Iechyd Cyhoeddus mewn perthynas â Covid-19 gan swyddogion.
Does dim modd i fwy na 30 person ymgynnull ar yr un pryd, a chyda chynnydd bychan o'r feirws mewn nifer o glystyrau sydd wedi'u nodi'n ddiweddar, mae'n annhebygol y bydd y rheolau yn cael eu llacio ymhellach ar hyn o bryd.
Fel arfer, rydyn ni'n agor y broses gofrestru ar gyfer y rasys yn gynnar ym mis Medi ac mae trefniadau'r achlysur wedi'u cwblhau. Gan fod ansicrwydd ynghylch pa reolau fydd yn eu lle erbyn mis Rhagfyr, rydyn ni wedi dod i'r penderfyniad bod angen canslo'r achlysur ar gyfer 31 Rhagfyr.
Gyda dros 10,000 o wylwyr a bron i 2,000 o redwyr, byddai cynnal pellter cymdeithasol yn amhosibl ac fel Pwyllgor, rhaid i ni gofio bod modd i ddenu pobl o Dde Cymru a thu hwnt ynghyd, hyd yn oed petai'r rheolau yn caniatáu hynny, achosi cynnydd sylweddol mewn achosion o Covid.
Er ein bod wedi gobeithio na fyddai raid i ni ddod i'r penderfyniad yma, ar ôl gweithio mor galed i aildrefnu'r achlysur dros y 15 mlynedd ddiwethaf, canslo'r achlysur ar y 31ain yw'r peth iawn i wneud, heb os.
Am y rheswm hwnnw, rydyn ni'n cynnal achlysur rhithiol yn 2020. Bydd modd i bobl gofrestru a rhedeg ar eu pennau eu hunain neu gyda grŵp o ffrindiau gan gadw pellter cymdeithasol, gan lwytho'r wybodaeth a'r dystiolaeth er mwyn derbyn medal a chrys-T. Bydd rhagor o fanylion am hyn yn cael ei gyhoeddi'n fuan."
Cynghorydd Andrew Morgan, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf
Cynghorydd Ann Crimmings, Cadeirydd Pwyllgor Nos Galan.
Wedi ei bostio ar 02/09/20