Skip to main content

Busnesau a Sefydliadau

Mae gan fusnesau yn Rhondda Cynon Taf ran hanfodol i'w chwarae yn ein taith i ddod yn Gyngor carbon niwtral a lleihau Carbon ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae modd i ddod o hyd i ffyrdd mwy cynaliadwy a gwyrdd o weithredu gyfrannu at “gostau busnes llai, hybu'r ysbryd cystadlu a gwella enw da a brand gyda rhanddeiliaid allweddol”Blog Tŷ'r Cwmnïau (cyfieithiad) – gov.uk.

Ar y dudalen hon rydym ni wedi nodi rhai gwefannau defnyddiol a phecynnau cymorth ar-lein sydd wedi'u cynllunio i roi'r wybodaeth, y camau a'r offer i berchnogion busnes i'w helpu i ddeall a chymryd camau i leihau eu hôl troed carbon eu hunain a chyfrannu at wneud RhCT 'gwyrddach'.

Gwybodaeth am Grantiau RhCT

Trwy ein Cynllun Corfforaethol (2024-30) – 'Gweithio gyda'n Cymunedau', mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gefnogi busnesau i ffynnu a bod yn gynaliadwy, cynyddu ein 'gwariant lleol' a helpu canol trefi i ffynnu. Mae ystod o raglenni buddsoddi ariannol ar gael yn rhan o'r ymrwymiad yma trwy gefnogaeth Cronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a Grant Creu Lleoedd Canol Trefi Llywodraeth Cymru.  Dyma'r pedair rhaglen sydd ar gael;

  • Grant Tyfu Busnes: cefnogi busnesau lleol cynaliadwy i gael eu sefydlu, i dyfu neu ddod yn fwy amrywiol gan gyfrannu at economi leol gryfach sy'n ferw o brysurdeb. Gall busnesau wneud cais am wariant cyfalaf gan gynnwys mesurau effeithlonrwydd ynni/lleihau carbon.
  • Grant Mân Welliannau Canol Trefi: darparu cefnogaeth ar gyfer mân welliannau a gwaith cynnal a chadw a fydd yn gwella edrychiad allanol eiddo canol trefi. Caiff busnesau wneud cais am welliannau addurnol ar raddfa lai i ffasâd allanol eu heiddo masnachol gan helpu i insiwleiddio gwres, lleihau costau ynni a lleihau allyriadau carbon.
  • Grant Gwella Eiddo Masnachol :  ar gyfer gwelliannau ar raddfa fawr (allanol yn bennaf) i adeiladau masnachol a sicrhau bod effeithlonrwydd ynni yn ganolog i'r cynllun. Bydd y grant yn gwella effeithlonrwydd ynni busnesau trwy eu cefnogi i leihau costau a gwella cynaliadwyedd.
  • Grant Gwella Eiddo ar Raddfa Fawr (LSPIG): targedu adeiladau ag arwynebedd llawr gwag mewn canol trefi allweddol. Bydd y grant yn gwella effeithlonrwydd ynni busnesau trwy eu cefnogi i leihau costau a gwella cynaliadwyedd.

Cyfrifiannell Ôl Troed Carbon

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddod yn fwy cynaliadwy trwy gaffael y nwyddau a'r gwasanaethau rydyn ni'n eu prynu ar gyfer ac ar ran y Cyngor.  Rydym ni'n deall bod gan ein penderfyniadau caffael oblygiadau cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol, yn lleol ac yn genedlaethol. Y nwyddau a'r gwasanaethau a brynwn yw'r rhan fwyaf o ôl troed carbon y Cyngor. Er mwyn gwneud yn siŵr, wrth gaffael nwyddau a gwasanaethau gan unrhyw fusnes, ein bod yn parhau i chwarae ein rhan, rydym ni wedi datblygu Cyfrifiannell Ôl Troed Carbon fel bod busnesau yn deall sut y maen nhw'n helpu i leihau carbon. Pwrpas yr offeryn hwn yw helpu busnesau i gyfrifo eu hôl troed carbon eu hunain.

Ar ôl llenwi'r manylion, bydd yr offeryn yn dangos ôl troed carbon busnesau ynghyd ag adroddiad y byddai modd ei ddefnyddio wedyn i nodi lle byddai modd lleihau effaith carbon. Am ragor o wybodaeth ac arweiniad i helpu eich busnes ewch i Tendrau a Chaffael.

 

Mae gwefannau a allai fod yn ddefnyddiol i fusnesau yn cynnwys:

 

Busnesau Bach a Chanolig (BBaChau) – Gweithredwch Nawr

Mae busnesau yn ymrwymo i weithredu ar yr hinsawdd. Mae'r Hyb Hinsawdd Busnes y DU yn darparu gwybodaeth am ddeall y pethau sylfaenol pan ddaw i Sero Net a pham mae'n bwysig, cyllid a chymorth, cyfrifo eich ôl troed carbon a sut i weithredu yn y meysydd canlynol: 

Cydymaith Busnes – Deall Cyfraith Safonau Masnach

Ar gyfer y busnesau hynny sydd angen cyngor gan Safonau Masnach mae modd i Gydymaith Busnes fod o gymorth.  Mae'r adnodd hwn yn darparu gwybodaeth am gyfreithiau sy'n ymwneud â'r hyn rydych chi'n ei werthu, ble rydych chi'n gwerthu, neu sut rydych chi'n gwerthu, a phynciau a gweithgareddau allweddol defnyddiol eraill. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau sy’n ymwneud yn benodol ag effeithlonrwydd ynni a hawliadau gwyrdd:

Busnes yn y Gymuned (mudiadau mwy) – Saith Cam ar gyfer Gweithredu Hinsawdd

Mae Busnes yn y Gymuned yn cefnogi sefydliadau i weithredu ar yr hinsawdd. Mae'n nodi saith cam ar gyfer gweithredu hinsawdd a all helpu sefydliadau i sicrhau bod eu model busnes yn gallu gwrthsefyll yr hinsawdd, cyfrannu at ddyfodol lle gall pobl a natur ffynnu a helpu i symud tuag at ddyfodol cydnerth, sero net. Gall cymryd y camau hefyd gefnogi creu gwerth a gwella ffyniant gweithwyr, cwsmeriaid, cyflenwyr a chymunedau.

  1. Gwreiddio risgiau a chyfleoedd hinsawdd yn eich strategaeth. 
  2. Targedu allyriadau sero net mor agos at 2030 â phosibl. 
  3. Buddsoddwch yn ddoeth a meddyliwch i helpu natur i ffynnu. 
  4. Sicrhau bod gan bob gweithiwr y sgiliau sydd eu hangen arnyn nhw. 
  5. Cynnwys rhanddeiliaid amrywiol a chefnogi ein cymuned. 
  6. Cofleidio arferion economi gylchol. 
  7. Mesur ac adrodd ar gynnydd yn drylwyr ac yn dryloyw.

I gael rhagor o wybodaeth am bob un o'r camau lawrlwythwch y pecyn cymorth yma.