Skip to main content

Ymgynghoriadau ynglŷn ag ysgolion

Gweld holl ymgyngoriadau sy'n ymwneud â'r ysgol isod:

Rhowch eich barn ar y cynigion i wella darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu yn RhCT

Cynnig i wella darpariaeth Dosbarthiadau Cynnal Dysgu yn RhCT

  • Creu Dosbarth Cynnal Dysgu - Cyfnod Allweddol 3/4 newydd ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol (SEBD) yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog;
  • Creu Dosbarth Cynnal Dysgu - Cyfnod Allweddol 3/4 newydd ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol yn Ysgol Gymuned Glynrhedynog;
  • Creu Dosbarth Cynnal Dysgu - Cyfnod Allweddol 3/4 newydd ar gyfer disgyblion ag Anawsterau Cymdeithasol, Emosiynol ac Ymddygiadol yn Ysgol Gyfun Aberpennar;
  • Creu Dosbarth Cynnal Dysgu - Cyfnod Allweddol 3/4 newydd ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ALN) sylweddol yn Ysgol Garth Olwg.

Mae'r Cyngor wedi dechrau cyfnod ymgynghori ar y cynigion uchod. Lawrlwythwch gopi o'n dogfen ymgynghori sy'n amlinellu'r cynigion yma yn llawn:

Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau ddydd Gwener 10 Ionawr, 2020 ac yn dod i ben am 5pm ddydd Gwener 28 Chwefror, 2020.

Bydd achlysur ymgynghori yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Hamdden y Ddraenen Wen ar 22 Ionawr o 4.30 i 6.00pm.

Mae manylion ynglŷn â lle dylech chi anfon unrhyw ohebiaeth yn y ddogfen ymgynghori.

Mae Asesiadau Effaith ar y Gymraeg, y Gymuned a Chydraddoldeb hefyd wedi'u paratoi.

Proses ymgynghori ar sawl cynnig i ad-drefnu addysg gynradd ac uwchradd yn ardal Pontypridd a'r Ddraenen-wen, Rhondda Cynon Taf

Mae'r Cyngor wedi dechrau proses ymgynghori ar sawl cynnig i ad-drefnu addysg gynradd ac uwchradd yn ardal Pontypridd a'r Ddraenen-wen, Rhondda Cynon Taf. Dyma grynodeb o'r prif gynigion:

  • Cau Ysgol Uwchradd Pontypridd ac Ysgol Gynradd Cilfynydd ac agor ysgol 'Pob Oed' 3-16 oed ar safle presennol Ysgol Uwchradd Pontypridd
  • Cau Ysgol Uwchradd y Ddraenen-wen, Ysgol Gynradd y Ddraenen-wen, ac Ysgol Gynradd Heol y Celyn, ac agor ysgol 'Pob Oed' 3-16 oed ar safleoedd gerllaw Ysgol Uwchradd y Ddraenen-wen ac Ysgol Gynradd y Ddraenen-wen (byddai ffrwd cyfrwng Saesneg Ysgol Heol y Celyn yn dod yn rhan o'r ddarpariaeth yma).
  • Cau Ysgol Gynradd Gymraeg Pont Siôn Norton a symud y ddarpariaeth addysg i ysgol newydd a fydd yn cael ei hadeiladu ar safle hen ysgol Heol y Celyn (byddai ffrwd cyfrwng Cymraeg Ysgol Heol y Celyn yn dod yn rhan o'r ddarpariaeth yma)
  • Cau'r Chweched Dosbarth yn Ysgol Gyfun y Cardinal Newman Eglwys Gatholig Rhufain, ac ehangu darpariaeth y Chweched Dosbarth yn Ysgol Gyfun Bryncelynnog i sefydlu 'canolfan rhagoriaeth' ar gyfer y Chweched Dosbarth.

Mae modd darllen y ddogfen ymgynghori sy'n amlinellu'r cynigion yma i gyd, ac yn eu hesbonio'n fanwl, yma: Ysgolion 21ain Ganrif Ymgynghori Ar Ad-Drefny 2018

Rydyn ni wedi paratoi Asesiadau o'r Effaith ar y Gymuned, Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb ac Asesiad o'r Effaith ar y Gymraeg ar gyfer y cynigion yma. Mae modd gweld y dogfennau a'u lawrlwytho yma:

Gweld copi o'r adroddiad ymgynghorol a'r Atodiad

Gallwch weld copïau o'r hysbysiadau statudol isod:

Gallwch weld copi o'r Adroddiad Gwrthwynebiadau isod:

Gweld copi o'r hysbysiad o benderfyniad

Ymgynhoriad ar y cynigion I ad-drefu darpaariaeth dodbradthiadau cynnal dysgu prif ffrwd anghenion dysgu ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf

Mae'r Cyngor wedi dechrau ymgynghori ar y cynigion uchod. Lawrlwythwch gopi o'n dogfen ymgynghori sy'n amlinellu'r cynigion yma yn llawn.

Mae'r ddogfen ymgynghori yn cynnwys manylion ynglŷn â lle dylech chi anfon unrhyw ohebiaeth.

Gweld copi o'r adroddiad ymgynghorol

Gallwch weld copïau o'r hysbysiadau statudol isod:

Gallwch weld copi o'r Adroddiad Gwrthwynebiadau isod:

Gweld copi o'r hysbysiad o benderfyniad