Mae'r Pwyllgor Cynllunio a Datblygu wedi rhoi caniatâd i adeiladu pumed cam Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach. Dyma fydd rhan olaf y prif lwybr, a bydd yn uwchraddio rhan llwybr a rennir, 2.8 cilometr o hyd rhwng Glynrhedynog a Tylorstown.
Mae'r Cyngor wrthi’n darparu'r llwybr yn ei gyfanrwydd, fydd yn creu llwybr cerdded a beicio 10 cilometr o hyd ar hyd Cwm Rhondda Fach - gan gysylltu sawl cymuned rhwng Maerdy a Tylorstown. Mae'r cynllun yn cael ei roi ar waith mewn pum cam, ac mae diweddariad cynnydd wedi'i gynnwys ar ddiwedd yr erthygl yma.
Mae Cam Un, Dau, Pedwar a Phump yn mynd i'r afael â'r prif lwybr, gyda Cham Tri yn darparu llwybr allweddol oddi ar y prif lwybr. O ganlyniad i hyn, pan fydd gwaith Cam Pump yn dechrau yn y dyfodol, yn dilyn penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ddydd Iau, bydd yn sicrhau bod y prif lwybr cyfan naill ai wedi'i gwblhau neu wrthi’n cael ei adeiladu.
Cynigir bod Cam Pump yn parhau â'r llwybr o bwynt mwyaf deheuol Cam Pedwar, gan ymestyn rhwng Canolfan Chwaraeon Cwm Rhondda Fach (Glynrhedynog) a throsbont Stanleytown, a chysylltu â llwybr cymunedol Ffordd Liniaru Porth wrth ei ben deheuol. Bydd cam olaf y gwaith yma yn dilyn llwybr yr hen linell rheilffordd, ac yn creu cysylltiadau â'r ganolfan chwaraeon a Meddygfa Tylorstown.
Bu'r Cyngor yn ymgynghori â thrigolion mewn perthynas â'r cynigion ar gyfer Cam Pump dros sawl wythnos rhwng mis Awst a mis Medi 2024. Roedd y broses yma wedi darparu adborth lleol mewn perthynas â'r cynlluniau i swyddogion, a chafodd hyn ei ddefnyddio er mwyn llywio'r cais cynllunio terfynol.
Yn ei gyfarfod ddydd Iau, 16 Ionawr, cytunodd y Pwyllgor Cynllunio a Datblygu ag argymhellion swyddog i gymeradwyo'r cais.
Mae llwybr presennol Cam Pump yn gymharol wastad, gyda'r rhan fwyaf o arwynebau yn cynnwys cerrig mân, cerrig a/neu bridd. Bydd y llwybr yn cael ei uwchraddio gyda gwaith ailwynebu. Mae gwaith mân gan gynnwys torri, llenwi a gwastadau yn angenrheidiol er mwyn sicrhau llwybr â lled dderbyniol sy'n cael ei rannu, ac er mwyn atgyweirio arwynebau sydd wedi'u treulio.
Bydd y llwybr cyswllt newydd â'r ganolfan chwaraeon yn cynnwys rhan sydd angen ei ailraddio, amnewid pont droed fach gyda chwlfer ac amnewid pont bresennol dros afon gyda phont letach. Bydd yr ail lwybr cyswllt newydd yn uwchraddio llwybr anffurfiol i'r gogledd o Faes Parcio Meddygfa Tylorstown er mwyn ymuno â llwybr y rheilffordd ger Archfarchnad Lidl – a fydd yn cynnwys ychydig o waith ailraddio.
Bydd Cam Pump hefyd yn cynnwys gwaith hanfodol ar ddwy hen bont reilffordd - gan gynnal ategweithiau a phileri'r strwythur, ac amnewid deciau'r pontydd. Dyw manylion mewn perthynas â dyluniad y pontydd ddim wedi'u cadarnhau hyd yn hyn.
Wrth argymell cymeradwyo'r cais, roedd swyddogion wedi nodi y byddai'r datblygiad arfaethedig yn gwella'r llwybr gan ganiatáu mynediad diogel ac addas ar gyfer trigolion drwy gydol y flwyddyn. Byddai hefyd yn cynorthwyo deilliannau creu lleoedd cadarnhaol, ynghyd â chyflawni nodau iechyd a lles y gymuned.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rwy'n falch bod Cam Pump Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach bellach wedi cael ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio, gan olygu bod y pum rhan bellach wedi derbyn caniatâd i'w cwblhau. Mae Camau Un a Dau wedi'u cwblhau ym Maerdy, gyda gwaith ar Gam Pedwar yn mynd rhagddo yn ardal Glynrhedynog. Ynghyd â Cham Pump, mae'r rhain yn cynrychioli prif lwybr y prosiect yn ei gyfanrwydd.
"Mae'r Cyngor wedi ymrwymo yn flaenorol i ffurfioli'r llwybr 10 cilometr o hyd rhwng Maerdy a Tylorstown, er mwyn darparu cyfleusterau gwell ar gyfer cerddwyr a beicwyr, ac i greu cysylltiadau ychwanegol er mwyn gwella'r mynediad at safleoedd pwysig mewn cymunedau lleol. Trwy uwchraddio ein cyfleusterau Teithio Llesol yn y modd yma, rydyn ni'n ceisio annog rhagor o bobl i gerdded neu feicio rhagor o'u teithiau bob dydd. Bydd hyn yn cynnwys buddion o ran iechyd a lles i drigolion - a hefyd yn mynd ati i ddiogelu ein hamgylchedd a lleihau tagfeydd traffig ar ein ffyrdd.
"Bydd Swyddogion nawr yn bwrw ymlaen â Cham Pump er mwyn i'r cam gwaith ddechrau ar y safle yn y dyfodol - bydd hyn yn cwblhau rhan olaf y llwybr rhwng Glynrhedynog a Tylorstown. Rydyn ni wedi derbyn cymorth pwysig gan Lywodraeth Cymru drwy gydol y cynllun cyfan, sy'n cydymffurfio â'i blaenoriaeth genedlaethol o fuddsoddi mewn darpariaethau cerdded a beicio. Cafodd cyllid gwerth mwy na £4.2 miliwn ei sicrhau yn rhan o Gronfa Teithio Llesol 2024/25, er mwyn darparu Cam Pedwar a dylunio Cam Pump yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol.
"Hoffwn i ddiolch i'r holl drigolion lleol wnaeth gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar gyfer Cam Pump ddiwedd yr haf, sydd wedi bod mor bwysig er mwyn helpu swyddogion i lywio'r cynllun a chwblhau cais cynllunio'r Cyngor. Byddwn ni'n cyhoeddi camau pwysig nesaf y cynllun i drigolion eu gweld mewn da bryd."
Mae manylion pedwar cam cyntaf Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach, gan gynnwys y diweddaraf am gynnydd pob un, wedi’u crynhoi isod:
- Cafodd Cam Un ei gwblhau ddiwedd 2023. Creodd y gwaith yma ran fwyaf gogleddol y llwybr teithio llesol cyffredinol, o leoliad i’r gogledd o ystad ddiwydiannol Maerdy i bwynt ger Cofeb Porth Maerdy.
- Cafodd Cam Dau ei gwblhau yn 2024, gan ailafael yn y llwybr i'r de o Gam Un. Mae'n ymestyn trwy ardal Maerdy am 1.5km o Gofeb Porth Maerdy, gan ddilyn yr hen reilffordd.
- Bydd Cam Tri'n gwella'r llwybr beicio presennol yn ardal Maerdy ac yn creu llwybr 1.5km newydd sy'n arwain i Stryd Richard a Phwll Nofio Glynrhedynog. Derbyniodd y cam yma ganiatâd cynllunio ym mis Mehefin 2024 ac mae’n parhau i gael ei ddatblygu, gyda gwaith ceisio cyllid yn parhau ar gyfer ei gyflawni.
- ByddCam Pedwar yn parhau â'r llwybr o Gam Dau, gan wella'r hen lwybr rheilffordd ar draws Glynrhedynog, o bwynt i'r gogledd o Deras Ffaldau (ger Maerdy) i bwynt ger Cartref Angladdau Dolycoed (Tylorstown). Bydd cyswllt newydd yn cael ei greu i Stryd yr Afon ym mhen gogleddol Glynrhedynog, ynghyd â gwaith i ddwy bont ym Mlaenllechau. Dechreuodd y gwaith ar y safle ym mis Gorffennaf 2024.
Wedi ei bostio ar 23/01/25