Skip to main content

Buddsoddiad ychwanegol ar gyfer priffyrdd a thrafnidiaeth eleni

Highways Capital Programme - Copy

Mae aelodau'r Cabinet wedi cytuno ar raglen gyfalaf atodol y priffyrdd ar gyfer 2025/26. Mae’r rhaglen yn cynnwys manylion ynghylch sut y bydd y gyllideb gwerth £7.85 miliwn sydd newydd ei dyrannu, yn cael ei defnyddio er mwyn cyflawni cynlluniau gosod wyneb newydd ar y ffordd a chynnal gwaith lliniaru llifogydd – ac i helpu i ddatblygu cynlluniau trafnidiaeth sylweddol ar gyfer Llanharan a gogledd Cwm Cynon.

Ddydd Llun, 22 Medi cytunodd aelodau'r Cabinet ar fuddsoddiad ychwanegol gwerth £11.5 miliwn er mwyn mynd i’r afael â blaenoriaethau'r Cyngor, mae hyn ar ben y rhaglen gyfalaf sydd wedi’i chymeradwyo ar gyfer eleni. Cafodd cyfran sylweddol o'r buddsoddiad yma (£7.85 miliwn) ei dyrannu i Wasanaethau’r Priffyrdd a Thrafnidiaeth er mwyn cyflawni’r gwaith canlynol:

  • Priffyrdd a Ffyrdd – £2.5 miliwn.
  • Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan – £3 miliwn
  • Coridor Trafnidiaeth Porth Gogledd Cwm Cynon – £2 miliwn.
  • Rhaglen Gwneud Defnydd Gwell / Datblygiadau Traffig – £100,000
  • Gwaith Lliniaru Llifogydd – £250,000

Roedd adroddiad arall a gafodd ei gyflwyno i’r Cabinet yn ystod cyfarfod dydd Llun yn cynnig rhaglen gyfalaf atodol y priffyrdd gan ddefnyddio’r buddsoddiad yma. Mae Aelodau’r Cabinet bellach wedi cymeradwyo’r cynnig yma. Bydd rhaglen gyfalaf atodol y priffyrdd yn cael ei chyflawni ochr yn ochr â'r Rhaglen Gyfalaf gwerth £29.647 miliwn ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol ar gyfer 2025/26.

Bydd y cyllid newydd yma ar gyfer Y Priffyrdd a Ffyrdd yn cael ei ddefnyddio er mwyn cwblhau 39 cynllun gosod wyneb newydd ar y ffordd a 10 cynllun  adnewyddu llwybrau troed, ynghyd â gwaith arall megis gwella mynediad, gwaith yn ymwneud â rhwystrau diogelwch, a gwaith atgyweirio brys. Mae lleoliadau'r cynlluniau newydd wedi'u cynnwys mewn Atodiad i'r adroddiad a gafodd ei gyflwyno i'r Cabinet ddydd Llun.

Mae’r cyllid sydd wedi’i ddyrannu i Goridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan a Choridor Trafnidiaeth Porth Gogledd Cwm Cynon yn cynrychioli buddsoddiadau diweddaraf y Cyngor ar gyfer y cynlluniau yma sydd ar y gweill. Rydyn ni'n gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru a Thrafnidiaeth Cymru o hyd mewn perthynas â’r cynlluniau yma, a hynny mewn ymateb i'r Adolygiad Ffyrdd. Bydd y buddsoddiad diweddaraf yn ariannu’r camau dylunio a chynllunio; agwedd allweddol ar hyn fydd cyflwyno mesurau gwell o ran teithio llesol a thrafnidiaeth gyhoeddus.

Yn sgil y Rhaglen Gwneud Defnydd Gwell mae gwelliannau isel eu cost a gwerthfawr yn parhau i gael eu nodi ar gyfer rhannau o'r rhwydwaith ffyrdd lle mae tagfeydd yn cronni – mae hyn at ddibenion gwella llif traffig, lleihau tagfeydd, a gwella diogelwch ar y ffyrdd. Bydd y cyllid newydd yn cael ei ddefnyddio i ymgymryd â mân newidiadau i arwyddion, gosod marciau ychwanegol ar ffyrdd, ac ad-drefnu mesurau rheoli traffig sydd yn bodoli eisoes, lle bo angen.

Yn olaf, bydd y cyllid sydd newydd ei ddyrannu ar gyfer gwaith Lliniaru Llifogydd yn galluogi’r Cyngor i barhau â’i raglen gwaith graddfa fach. Mae cynlluniau draenio tir a lliniaru llifogydd yn rhan o hyn; a hynny ledled y Fwrdeistref Sirol.

Meddai'rCynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Rydw i'n falch bod y Cyngor wedi gallu dwyn y buddsoddiad ychwanegol yma gwerth £7.85 miliwn yn ei flaen ar gyfer gwaith Y Priffyrdd a Thrafnidiaeth, mae hyn ar ben Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol gwerth £29.647 miliwn sydd eisoes yn cael ei chyflawni yn 2025/26. Bydd y cyllid newydd yma yn galluogi swyddogion i ehangu'r rhaglen sy'n bodoli eisoes er mwyn mynd i’r afael â meysydd blaenoriaeth, sy’n cynnwys gosod wyneb newydd ar ffyrdd, adnewyddu llwybrau troed a lliniaru llifogydd.

"Mae ein Rhaglen Gyfalaf sy'n mynd rhagddi eisoes wedi ariannu 78 cynllun gosod wyneb newydd ar y ffordd a 7 cynllun adnewyddu llwybrau troed, eleni, ac mae cynnydd ardderchog wedi cael ei wneud dros y gwanwyn a'r haf. Roedd modd i ni fanteisio ar dywydd braf er mwyn cyflawni rhan fawr o'r rhaglen. Bydd y cyllid newydd gwerth £2.5 miliwn yn ein galluogi ni i ychwanegu 39 cynllun ffordd newydd a 10 cynllun llwybr troed newydd, ar ben yr hyn sydd wedi'i gyflawni eisoes, wrth i ni barhau â'n llwybr buddsoddiad carlam ar gyfer cynnal a chadw'r ffyrdd.

“Mae gwaith lliniaru llifogydd hefyd yn faes arall rydyn ni'n parhau i fuddsoddi'n sylweddol ynddo. Ers 2020, mae'r Cyngor wedi gwario mwy na £100 miliwn ar wella mesurau gwrthsefyll llifogydd, ac ar waith atgyweirio yn dilyn difrod storm. Yn 2025/26, mae mwy na £6 miliwn wedi ei sicrhau yn rhan o dair rhaglen Llywodraeth Cymru, ac mae gwaith wedi’i dargedu wedi’i gynnal yn ein cymunedau ers mis Ebrill 2025. Bydd y cyllid gwerth £250,000 sydd newydd ei ddyrannu yn ychwanegu at y gyllideb ar gyfer ein gwaith graddfa fach ym maes lliniaru llifogydd a draenio.

“Yn olaf, rydyn ni wedi llwyddo i ddyrannu £5 miliwn er mwyn parhau â'r gwaith o ddatblygu Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan a Choridor Trafnidiaeth Porth Cwm Cynon – dyma ddau brosiect mawr ac rydyn ni’n parhau i ymrwymo’n llwyr i’w cyflawni yn y dyfodol. Bwriad y cynlluniau yma yw mynd i'r afael â heriau trafnidiaeth sylweddol sy'n parhau yn y ddau leoliad, a bydd y rhain yn gwaethygu o ganlyniad i’r datblygiadau sydd wedi’u cynllunio o ran isadeiledd ac adeiladu tai. Ar hyn o bryd mae gwaith ailddylunio'n cael ei gynnal mewn perthynas â’r prosiectau er mwyn ymateb i'r Adolygiad Ffyrdd a rhoi sylw manwl i wella trafnidiaeth gyhoeddus – a bydd ymgynghoriad ar gyfer cynllun Llanharan yn dechrau cyn hir.”

Wedi ei bostio ar 26/09/2025