Mae’r Cabinet wedi cytuno ar Raglen Gyfalaf gwerth £29.647 miliwn ar gyfer y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol y flwyddyn nesaf – gan sicrhau bod cyllid sylweddol yn parhau i fod ar gael ar gyfer blaenoriaethau fel lliniaru llifogydd, a gwella ffyrdd lleol. Gallai ceisiadau am grantiau allanol gynyddu cyfanswm y cyllid ar gyfer y gwasanaeth i fwy na £40 miliwn yn 2025/26.
Ddydd Mercher, 19 Mawrth, cymeradwyodd yr Aelodau’r rhaglen, gan gadarnhau dyraniadau cyfalaf ar gyfer Gwasanaethau Technegol y Priffyrdd (£18.41 miliwn) a Chynlluniau Strategol (£11.237 miliwn) ar gyfer y flwyddyn ariannol yn dechrau ym mis Ebrill 2025. Mae'r cyllid yma er mwyn diogelu'r rhwydwaith ffyrdd ar gyfer y dyfodol, addasu i ddulliau teithio sy'n datblygu, ymateb i newid yn yr hinsawdd, a lliniaru perygl llifogydd. Mae manylion prosiectau a enwir wedi'u cynnwys yn adroddiad y Cabinet ddydd Mercher.
Mae’r rhaglen yn mynd law yn llaw â llawer o geisiadau cyllid a wnaed gan y Cyngor i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26 – ar draws cynlluniau lliniaru llifogydd, grantiau Refeniw a Chyfalaf Diogelwch Ffyrdd, Llwybrau Mwy Diogel yn y Gymuned, Cronfa Teithio Llesol, y Gronfa Trafnidiaeth Leol (gan gynnwys Ffyrdd Cydnerth), a gwella’r fenter 20mya. Bydd deilliannau'r cynigion yn cael eu derbyn yn yr wythnosau nesaf.
Daeth cyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith trwsio yn dilyn Storm Dennis i ben yn 2024/25 yn dilyn rhaglenni gwaith blynyddol mawr ers 2020, tra bod effeithiau Storm Bert ym mis Tachwedd 2024 yn dal i gael eu hasesu. Efallai bydd prosiectau yr effeithir arnyn nhw angen cyllid yn y dyfodol. Mae cyllid cyfalaf a refeniw ar gyfer tomenni glo yn parhau yn 2025/26, ac mae hyn wedi’i gadarnhau mewn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar 19 Mawrth, 2025,. Mae hyn yn cynnwys y gwaith adfer mawr parhaus i Dirlithriad Tylorstown.
Mae’r Cyngor hefyd yn parhau i gefnogi Bargen Ddinesig Prifddinas-Ranbarth Caerdydd a Metro De Cymru, a fydd yn trydaneiddio rheilffyrdd Treherbert, Aberdâr a Merthyr Tudful, ac yn cynyddu amlder gwasanaethau rheilffordd.
Gwasanaethau Technegol y Priffyrdd
Mae'r rhaglen yn dyrannu £6.94 miliwn ar gyfer ffyrdd cerbydau – gan gynnwys 78 o gynlluniau ail-wynebu llawn (a enwir yn yr Atodiad i adroddiad Cabinet dydd Mercher),ynghyd â mân atgyweiriadau i wyneb ffyrdd, triniaethau ataliol, trwsio ffensys a rhwystrau, ac atgyweiriadau brys. Yn ogystal, mae cyllid wedi'i glustnodi ar gyfer saith o gynlluniau gwella llwybrau troed (£556,000) a gwelliannau mynediad amrywiol.
Ar gyfer ffyrdd heb eu mabwysiadu, bydd dyraniad o £200,000 yn ymestyn y rhaglen i bedwar cynllun – Y Pandy yn Hirwaun, Stryd Jenkin yn Nhrehopcyn, Maes Siôn yng Nghwm-bach, a Theras Troedpennar yn Abercynon.
Mae cyllideb o £9.95 miliwn ar gyfer Strwythurau Priffyrdd wedi'i gytuno bellach, gyda nifer o gynlluniau o'r llynedd yn digwydd eleni hefyd. Mae’r rhaglen yn cynnwys pont droed Stryd y Nant (Ystrad), pont Afon Cynon (Cwm-bach), pont droed Stryd y Fasnach ar yr A4059 (Aberdâr), Pont Fictoria (Pontypridd), pont reilffordd Heol Llanwynno (Stanleytown), cwlfer Heol y Ffawydd (Ffynnon Taf), Ffordd Rhigos (Treherbert), Pont afon Cross Bychan (Aberdâr), Pont y Royal Oak (Abercynon) a'r Bont Wen (Trallwng). Bydd gwaith paratoi ymlaen llaw yn cael ei gwblhau ar gyfer cynlluniau pellach.
Yn ogystal, roedd cynllun i osod pont droed newydd yn Abercynon yn ei gam adeiladu pan gafodd y safle gwaith ei olchi ymaith yn ystod Storm Bert. Mae opsiynau wrthi'n cael eu hystyried. Fe wnaeth y storm hefyd ddifrodi wal gynnal priffordd yn Rhes yr Afon (Abercynon) a chwlfer yn Heol y Felin (Ynys-y-bwl), ac mae atgyweiriadau ar gyfer y ddau wedi'u cynnwys yn rhaglen 2025/26.
Mewn man arall, bydd £250,000 o gyllid ar gyfer seilwaith parciau'n golygu bydd modd bwrw ymlaen â gwaith i atgyweirio pont droed Heol Castellau (Beddau) a phont droed Llanilltud Faerdref. Mae'r Rhaglen Goleuadau Stryd gwerth £330,000 yn cynnwys gwaith i adnewyddu signalau traffig a gwella goleuadau stryd, tra bod cyllidebau craidd ar raddfa fach yn ymwneud â chynlluniau Rheoli Traffig (£120,000) a Meysydd Parcio (£40,000) yn cael eu hariannu.
Cynlluniau Strategol
Mae'r Cyngor yn elwa'n gyson o gymorth Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau draenio'r tir a pherygl llifogydd, gan roi arian cyfatebol sy'n 15% o'r gwerth. Mae rhaglen gyfalaf dreigl tair blynedd yn nodi prosiectau lleol, a chaiff achosion busnes yna'u cyflwyno gyda'r nod o sicrhau cyllid.
Mae 15 o Gynlluniau Lliniaru Llifogydd Unigol mwy yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ar gyfer 2025/26, sef gwerth £3.6 miliwn. Ymhlith y cynlluniau yma mae dylunio a datblygu Cynlluniau Lliniaru Llifogydd mawr Treorci a Phentre ymhellach. Yn ogystal, mae ceisiadau am gyllid ar gyfer 13 Cynllun ar Raddfa Fach yn cael eu cyflwyno ar gyfanswm gwerth £1.97 miliwn, ynghyd â bidiau ar gyfer 18 o gynlluniau'r Gronfa Ffyrdd Cydnerth, sef cyfanswm gwerth £3.1 miliwn.
Ar hyn o bryd, dyrennir cyfanswm o £2.070 miliwn ar gyfer lliniaru llifogydd – £1,007 miliwn o Raglen Gwella Draenio/Perygl Llifogydd y Cyngor, a'r gweddill o grantiau. Pe bai pob cais yn llwyddiannus, byddai'n cynrychioli cyllid pellach o £6.1 miliwn. Mae cyllid hefyd wedi'i ddyrannu i ddatblygu cynlluniau y tu hwnt i raglen eleni (£25,000), ynghyd â chyllid ar gyfer mân waith wedi'i nodi yn rhan o waith ymchwilio i lifogydd (£75,000).
Mae cyllid Trafnidiaeth Pwysig yn cael ei ddyrannu i ddau gynllun blaenoriaeth – Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan (£5.05 miliwn) a Choridor Tramwy Porth Cynon yr A465 (£1.124 miliwn). Roedd y ddau gynllun yn destun Adolygiad Ffyrdd Llywodraeth Cymru a chawson nhw ddim eu cefnogi i ddechrau. Mae cynllun Llanharan wedi’i wella i ymgorffori trafnidiaeth gynaliadwy, trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol fel themâu craidd. Mae Llywodraeth Cymruwedi rhoi ei chefnogaeth mewn egwyddor ar gyfer y newidiadau, ac mae cynllun a datblygiad y prosiect yn parhau. Mae cynllun Porth Cynon ar gam cynharach ac mae'r Cyngor yn edrych ar opsiynau i fwrw ymlaen.
Cafodd cynllun deuoli'r A4119 Coed-elái ei gwblhau yn sylweddol ddechrau mis Mawrth 2025, a dyrennir £1.2 miliwn i gynnal gwaith ymylol a chostau prosiect hirdymor eraill. Mae £384,000 wedi'i ddyrannu er mwyn parhau i adolygu’r heriau traffig sy’n wynebu Cwm Rhondda Fawr, gan ganolbwyntio ar Stag Square yn Nhreorci. Y nod yw sefydlu datrysiad cynaliadwy.
Yn ogystal, mae £500,000 ar gyfer y Rhaglen Parcio a Theithio, i greu lleoedd parcio ychwanegol mewn gorsafoedd rheilffordd ochr yn ochr â darparu Metro De Cymru. Mae Prosiect Parcio a Theithio Treorci ar fin cael ei gwblhau a disgwylir iddo agor ym mis Mai 2025. Mae'r Cyngor wedi gwneud cais i'r Gronfa Trafnidiaeth Leol er mwyn helpu i ddarparu rhagor o leoedd parcio yn y safle sydd newydd agor, Hwb Trafnidiaeth Porth.
Bydd cyllid o £878,000 ar gyfer Rhaglen Gwneud Defnydd Gwell yn targedu gwelliannau cost-isel, gwerth uchel i ddatrys materion hygyrchedd a chysylltedd. Bydd elfen o'r gwaith yma'n canolbwyntio ar goridor yr A4059 a'r A4119.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Seilwaith a Buddsoddi: “Bydd ein buddsoddiad cyfalaf mawr ar draws gwasanaethau Priffyrdd a Thrafnidiaeth yn parhau yn 2025/26 gyda rhaglen £29.647 miliwn y cytunwyd arni – a allai godi i dros £40 miliwn os bydd ein ceisiadau cyllid allanol amrywiol yn llwyddiannus.
“Mae cwrdd â disgwyliadau newydd ar gyfer digwyddiadau stormydd a llifogydd yn ganolbwynt allweddol ar draws llawer o’r rhaglen waith – boed hynny drwy gynlluniau lliniaru llifogydd pwrpasol, neu wrth ddylunio ein prosiectau eraill. Yn dilyn Storm Dennis yn 2020, rydyn ni wedi cwblhau pedair blynedd o gynlluniau atgyweirio a gwella ac wedi gwario dros £100 miliwn ar waith lliniaru llifogydd wedi’i dargedu – a thra bod Storm Bert ym mis Tachwedd 2024 wedi nodi bod y gwaith yma wedi bod yn effeithiol, rydyn ni'n deall bod angen buddsoddiad pellach i amddiffyn ein cymunedau.
“Felly mae ceisiadau ar gyfer 46 o gynlluniau newydd wedi’u cynnwys yn rhaglen gyfalaf 2025/26, ar draws llwybrau ariannu Llywodraeth Cymru ar gyfer gwaith lliniaru llifogydd mwy, cynlluniau ar raddfa fach, a Ffyrdd Cydnerth. Mae mwy na £2 filiwn eisoes wedi’i ddyrannu i waith lliniaru llifogydd, a gallai’r ceisiadau am arian ychwanegol hyn gynyddu’r cyllid cyffredinol £6.1 miliwn pellach.
“Mae cynnal ffyrdd lleol yn parhau i fod yn flaenoriaeth, gyda 78 o gynlluniau newydd wedi’u clustnodi ar gyfer y flwyddyn nesaf gan ddefnyddio cyllid gwerth £6.94 miliwn. Mae ein dull ariannu carlam yn y maes yma wedi bod yn mynd rhagddo ers blynyddoedd lawer, gan adlewyrchu tuedd gyffredinol o welliant. Mae ein rhaglen i atgyweirio a mabwysiadu ffyrdd preifat heb eu cynnal i safon dderbyniol hefyd yn parhau, gyda phedwar cynllun yn Hirwaun, Trehopcyn, Cwm-bach ac Abercynon bellach wedi’u hychwanegu.
“Mae Strwythurau Priffyrdd yn faes buddsoddi allweddol arall, ac mae angen llawer o brosiectau atgyweirio a chynnal a chadw mawr ar draws cymunedau Rhondda Cynon Taf. Yn aml mae angen gwaith dylunio a pheirianneg cymhleth iawn arnyn nhw, tra bod ystyriaethau eraill megis cyfyngiadau ar weithio yn ystod tymhorau penodol mewn afonydd. Cytunir ar gyllideb o £9.95 miliwn ar gyfer 2025/26, sydd hefyd yn cynnwys tri chynllun atgyweirio hysbys ar draws Ynys-y-bwl ac Abercynon yn dilyn Storm Bert.
“Mae cyllid o fwy na £6 miliwn yn cael ei ddyrannu ar draws Coridor Tramwy Porth Cynon yr A465 a Choridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan. Mae gwaith datblygu’r cynlluniau mawr yma'n parhau, gyda phrif gytundeb wedi’i dderbyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer Llanharan, wrth inni geisio darparu datrysiadau i’r heriau traffig lleol mawr. Yn olaf, bydd ein Rhaglen Parcio a Theithio yn sicrhau bod y ddarpariaeth yng Ngorsaf Reilffordd Treorci yn cael ei chwblhau, wrth i ni edrych ar ffyrdd o ariannu rhagor o lefydd parcio yn Hwb Trafnidiaeth newydd Porth.
“Yn dilyn cytundeb y Cabinet ddydd Mercher, bydd Rhaglen Gyfalaf y Priffyrdd, Trafnidiaeth a Chynlluniau Strategol newydd yn cael ei mabwysiadu gan y Cyngor, ac yn cael ei chyflawni yn y 12 mis i ddod o 1 Ebrill 2025.”
Wedi ei bostio ar 21/03/2025