Skip to main content

Dau Brosiect YEPS ar y Rhestr Fer ar gyfer Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol 2024

1

Cyrhaeddodd dau o brosiectau Gwasanaeth Ymgysylltu a Chyfranogiad Ieuenctid (YEPS) y Cyngor restr fer rownd derfynol Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol, a gynhaliwyd yn Llandudno ar 22 Chwefror. Mae'r enwebiad yma'n gydnabyddiaeth o waith caled pobl ifainc ein cymuned yn ogystal â staff YEPS sy'n sicrhau bod modd i'r bobl ifainc yma fanteisio ar weithgareddau o ansawdd uchel, sy'n ddefnyddiol ac yn atyniadol. Mae’r ddau brosiect ar y rhestr fer yn cynnwys creu animeiddiadau sy’n hyrwyddo ymwybyddiaeth iechyd meddwl a chodi ymwybyddiaeth o faterion a hanes LHDTC+ trwy gyfres o brosiectau sy’n tynnu sylw at straeon LHDTC+.

Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Cymraeg:“Rwy'n hynod falch o'r unigolion ifainc sy'n rhan o YEPS y Cyngor am eu hymdrechion diflino a'u creadigrwydd wrth hyrwyddo ymwybyddiaeth iechyd meddwl a chynhwysiant LHDTC+ yn rhan o'r prosiectau yma.

“Mae’r bobl ifainc a'r aelodau o staff a fu’n rhan o’r ddwy fenter ragorol wedi gosod y seiliau ar gyfer gwaith ieuenctid yn ein cymuned, ac mae’n wych gweld eu hymdrechion yn cael eu cydnabod trwy gael eu henwebu ar gyfer dwy wobr yn rhan o Wobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol 2024.

“Mae'r ymroddiad a ddangoswyd drwy'r prosiectau gwych yma’n cyd-fynd yn llwyr â nodau a gwerthoedd Cyngor RhCT. Rwy’n gobeithio gweld ein pobl ifainc yn parhau i weithio’n galed i wneud newidiadau cadarnhaol a gweithio tuag at greu cymuned fwy cynhwysol a thosturiol.”

Project 1: Gwobr Arloesedd Digidol – Prosiect Animeiddio Iechyd Meddwl

Cyrhaeddodd y bobl ifainc yn YEPS rownd derfynol y Wobr Arloesedd Digidol yng Ngwobrau Rhagoriaeth Ieuenctid 2024 am eu prosiect Animeiddio Iechyd Meddwl.

Cymerodd pobl ifainc sy’n rhan o fforwm iechyd meddwl YEPS gam beiddgar tuag at ddileu stigma ynghylch materion iechyd meddwl a rhoi gwybod i'w cyfoedion am bwysigrwydd siarad yn agored am iechyd meddwl. Arweiniodd y bobl ifainc brosiect a gynhyrchodd animeiddiad a chynnwys digidol ychwanegol i godi ymwybyddiaeth am bynciau fel hunaniaeth rhywedd, delwedd corff, bwlio, a phryder.

Taith y Prosiect

  • Arloesedd – Aeth y bobl ifainc ati i greu cysyniad am animeiddiad deniadol gyda’r weledigaeth i ddal sylw eu cyfoedion ac ysgogi sgyrsiau agored am iechyd meddwl.
  • Ariannu – Gyda chefnogaeth staff YEPS, cyflwynodd y bobl ifainc eu syniad i gwmni cyfryngau lleol, gan lwyddo i sicrhau’r cyllid angenrheidiol i ddod â’u prosiect yn fyw.
  • Cydweithio – Ynghyd â’r cwmni cyfryngau, bu’r bobl ifainc wrthi'n llunio sgript, creu bwrdd stori, a lleisio’r animeiddiad.
  • Lansio – Cafodd y prosiect ei hyrwyddo pan gafodd yr animeiddiad ei ddangos am y tro cyntaf yn achlysur dathliad blynyddol YEPs, lle cafodd dros 300 o bobl ifainc a’u teuluoedd gyfle i weld y cynnyrch gorffenedig.
  • Addysg – Crëwyd cynlluniau gwersi i gyd-fynd â’r animeiddiad, gan rymuso gweithwyr ieuenctid ac ysgolion i ymgorffori’r fideo mewn sesiynau clwb ieuenctid neu Addysg Bersonol a Chymdeithasol.

Perthnasedd i'r Categori

Mae pandemig Covid-19 a’r argyfwng costau byw wedi effeithio’n sylweddol ar iechyd meddwl pobl ifainc. Roedd y prosiect yma'n gyfle i bobl ifainc ddyfeisio ffordd newydd a chyffrous o ymgysylltu â phobl a rhoi gwybod iddyn nhw am faterion iechyd meddwl pwysig, trwy ddulliau addasol ac arloesol. Trwy fireinio eu sgiliau eu hunain trwy waith ymchwil ar-lein, ac ysgrifennu a chyflwyno gwybodaeth ar gyfer yr animeiddiadau, mae cyfranogwyr ifainc YEPS wedi dod yn hyrwyddwyr iechyd meddwl sy'n parhau i gynnig cefnogaeth i bobl ifainc y gymuned.

Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion ac Amcanion

Mae tystiolaeth glir o ddull gwaith ieuenctid sy'n rhoi pum colofn gwaith ieuenctid fel sydd wedi'u nodi yn y ddogfen Gwaith Ieuenctid yng Nghymru: Egwyddorion ac Amcanion:

  1. Addysgiadol – Roedd y prosiect yn gyfle bobl ifainc feithrin y sgiliau, yr wybodaeth, y ddealltwriaeth, yr agweddau a’r gwerthoedd sydd eu hangen ar gyfer eu datblygiad a’u boddhad personol eu hunain. Roedden nhw hefyd yn cyfrannu at gymdeithas ac yntau'n aelodau o gymuned ar lefelau lleol, rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol. Yn ogystal â hynny, mae'r bobl ifainc wedi meithrin sylfaen wybodaeth gadarn ar faterion iechyd meddwl a dealltwriaeth o bwysigrwydd cymorth iechyd meddwl.
  2. Mynegiannol - Llwyddodd y prosiect i annog a galluogi pobl ifainc i fynegi eu dealltwriaeth, eu gwybodaeth, eu syniadau, barn, emosiynau a dyheadau trwy ystod eang o gyfleoedd creadigol sy'n aml yn heriol. Cynhyrchodd y bobl ifainc animeiddiadau deallus a chreadigol i arddangos anghenion pobl ifainc eraill.
  3. Cyfranogol – Gwahoddodd y prosiect ei gyfranogwyr i rannu’r cyfrifoldeb am y cyfleoedd, y prosesau dysgu, a’r prosesau gwneud penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau a’u hamgylcheddau eu hunain ac unigolion eraill. Roedd pobl ifainc yn cymryd rhan weithredol drwy gydol y prosiect ac yn cael eu hannog i wneud newidiadau i'r 'llenyddiaeth' gyfredol sydd ar gael iddyn nhw a chymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod y deunydd a gynhyrchwyd ganddyn nhw'n ffeithiol, yn gallu gwrthsefyll prosesau craffu, ac yn ymgysylltu â chynulleidfa ifanc.
  4. Cynhwysol – Roedd y prosiect yn cynnwys carfan o bobl ifainc, pob un â’u heriau iechyd meddwl eu hunain a llwyddodd i gynnal eu hymglymiad drwy gydol y prosiect a hwythau'n wirfoddolwyr. Mae'r animeiddiad yn cynnwys lleisiau’r bobl ifainc a'u profiadau nhw. Roedd y gwirionedd a’r dewrder a fynegwyd gan y bobl ifainc a roddodd eu hamser a’u hymdrech i greu’r animeiddiadau yma yn syfrdanol.
  5. Grymuso – Mae'r prosiect wedi rhoi'r wybodaeth a'r sgiliau i bobl ifainc arfer eu hawliau a chydnabod hawliau pob person ifanc a datblygu rhinweddau arweinyddiaeth. Mae hyn yn cynnwys parchu hawliau pobl eraill, cefnogi pobl ifainc i gyflawni eu cyfrifoldebau fel dinasyddion ac aelodau o'u cymunedau, ac annog pobl ifainc i ymgysylltu â'r materion personol, cymdeithasol a gwleidyddol sy'n effeithio ar gymdeithas.

Effaith

Mae'r prosiect wedi cael effaith gadarnhaol ar bobl ifainc YEPS mewn amrywiaeth o ffyrdd. Mae’r rhai a gymerodd ran wedi gwella eu hymwybyddiaeth am iechyd meddwl ac wedi creu rhywbeth i fod yn falch ohono. Yn dilyn dangosiad cyntaf yr animeiddiad, gofynnwyd i'r bobl ifainc drafod eu canfyddiadau gydag Estyn i roi gwybod iddyn nhw am y gwaith gorffenedig a sut maen nhw wedi bod yn ymwneud â dylanwadu a llywio datblygiadau strategol ar draws y Cyngor. Bydd yr animeiddiad yn cyrraedd ysgolion yn fuan, gyda chefnogaeth y cynlluniau gwersi a ddatblygwyd gan y bobl ifainc dawnus yma.

Mae'r animeiddiadau yn llawn gwybodaeth ddefnyddiol. I weld, cliciwch yma: https://protect-eu.mimecast.com/s/3ueuC0V7Gtren84uwuOVD

Dyma sylwadau rai pobl a fynychodd ddangosiad cyntaf yr animeiddiad: “Doeddwn i ddim yn gwybod at bwy y gallwn i droi, ond rwy'n gwybod erbyn hyn.”

“Mae’r prosiect yma wedi rhoi llawer o hyder i mi allu mynegi fy nghredoau.”

Meddai Swyddog YEPs a gefnogodd y prosiect: “Mae’r bobl ifainc wedi bod yn ymgysylltu’n fawr ac wedi ymddiddori yn yr hyn sy’n digwydd mewn perthynas â chymorth iechyd meddwl. Fe wnaethon ni fanteisio ar eu brwdfrydedd a’u harwain i greu’r adnoddau ar-lein ychwanegol hyn i sicrhau eu bod nhw a phobl ifainc ledled RhCT yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl.”

Project 2: Fforwm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth

Cyrhaeddodd Fforwm Ieuenctid Cwm Cynon restr fer rownd derfynol y wobr Cydraddoldeb ac Amrywiaeth mewn Lleoliad Gwaith Ieuenctid yng Ngwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol 2024. 

Mae Fforwm Ieuenctid Cwm Cynon yn grŵp ysbrydoledig, ymroddedig ac angerddol o bobl ifainc sy'n cyfarfod yn wythnosol ac yn fisol, ac sydd wedi bod yn gysylltiedig â nifer o brosiectau ysbrydoledig sydd wedi gwneud cyfraniad pwysig i Gwm Cynon. Mae gan y bobl ifainc hyn syniadau arloesol ac maen nhw wedi creu prosiectau pwerus gyda'r nod o adeiladu cymdeithas well ar gyfer y dyfodol. Mae'r fforwm yn rhagori wrth wrando ar faterion yn y gymuned yn ogystal â'r gymuned ehangach a gweithredu ar y materion hyn.

Mae Fforwm Ieuenctid Cwm Cynon wedi hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth trwy eu cefnogaeth i'r gymuned LHDTC+, trwy weithredoedd gwir arwriaeth! Mae holl aelodau'r fforwm wedi dod yn eiriolwyr grymus sy'n barod i ysbrydoli eu cyfoedion ac oedolion.

Prosiectau

  • Courage in Film: Sharing Real Life Stories – Mae’r bobl ifainc wedi dangos dewrder a hyder drwy ddatblygu ffilm fer wedi’i hysbrydoli gan eu profiadau yn y gymuned LHDTC+. Roedd y ffilm yma'n arddangos dewrder a beiddgarwch y bobl ifainc trwy rannu eu straeon personol gyda'r byd.
  • Digwyddiad Pride i Deuluoedd Cwm Cynon - Gwthiodd y bobl ifainc ffiniau drwy gwblhau menter gwbl newydd a threfnu achlysur lle'r oedd modd i unigolion ifainc LHDTC+ ffynnu, teimlo’n ddiogel, a dathlu eu gwir hunaniaeth. Gweithiodd y bobl ifainc yma'n ddiflino i drefnu'r achlysur ac aros dwy flynedd am yr achlysur olaf. Datblygodd y bobl ifainc ymgynghoriad ar gyfer pobl ifainc LHDTC+ a defnyddio adborth pobl ifainc i drefnu achlysur ysbrydoledig er mwyn i bobl ifainc a'u teuluoedd gael cipolwg ar y gymuned LHDTC+ a dysgu amdani.
  • Prosiect Hanes LHDTC+ – Cynhaliodd y fforwm ymchwil i hanes lleol LHDTC+, gan dreulio wythnosau yn Llyfrgell Aberdâr yn ymchwilio i hanes a gweithio gydag artist LHDTC+ lleol i ddatblygu gwaith celf creadigol a gwreiddiol gan ddod â bywydau ffigurau hanesyddol LHDTC+ yn fyw a dathlu amrywiaeth.
  • Ymgyrch Rhuban Gwyn – Cydweithiodd y fforwm i godi ymwybyddiaeth o Ddiwrnod y Rhuban Gwyn, ymgyrch yr oedd aelodau’r fforwm yn teimlo’n gryf yn ei chylch sy’n edrych ar drais domestig yn erbyn menywod. Lluniodd y bobl ifainc gerdd a'i pherfformio yn achlysur Diwrnod y Rhuban Gwyn ym Mhontypridd. Mae hyn wedi ysbrydoli prosiect newydd sy'n anelu at godi ymwybyddiaeth am aflonyddu o fewn eu hysgolion a'u cymunedau. Teitl y prosiect yma yw It Starts with Us.

Effaith

Mae'r bobl ifainc yn y fforwm wedi ysbrydoli pobl ifainc eraill i deimlo eu bod nhw'n perthyn, ac mae hyn yn arbennig o bwysig i'r gymuned LHDTC+, oherwydd 'gall fod yn eithaf brawychus tyfu i fyny mewn byd lle rydych chi'n teimlo'n wahanol i bobl eraill.'

Bwriwch olwg ar rai o'u prosiectau gorffenedig isod:

Dywedodd Louisa Walters, YEPO: “Roedden nhw'n gyfrifol am ysbrydoli’r gymuned LHDTC+ i ddod at ei gilydd a dathlu amrywiaeth trwy achlysur gwych.

“Fel aelod o’r gymuned LHDT, roeddwn i wedi fy syfrdanu gan ba mor groesawgar a chadarnhaol y gwnaeth y digwyddiad i mi deimlo.”

Mae YEPS y Cyngor yn darparu'r Gwasanaeth Ieuenctid statudol ar gyfer Cyngor RhCT, gan gynnig mynediad i bobl ifainc rhwng 11 a 25 oed i amrywiaeth o weithgareddau AM DDIM ar draws lleoliadau addysgol ac ieuenctid. Yn ogystal, maen nhw'n darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad i bobl ifainc. Mae rhai o'u swyddogaethau yn cynnwys:

  • Gweithgareddau ôl-oriau ysgol
  • Gwaith Ieuenctid mewn Ysgolion
  • Iechyd meddwl a lles
  • Cyngor ar ddigartrefedd
  • Gwaith pontio addysg, cyflogaeth a hyfforddiant
  • Sesiynau sy'n ymwneud â hawliau
  • Gweithgareddau yn y gymuned megis clybiau ieuenctid, fan ieuenctid symudol, sesiynau ar y stryd, teithiau gwyliau ysgol a sesiynau galw heibio yn y gymuned

I gael rhagor o wybodaeth am YEPS, y gwaith maen nhw'n ei wneud, neu i gymryd rhan, ewch i’w gwefan: https://www.yeps.wales/cy/#

Mae Gwobrau Rhagoriaeth Gwaith Ieuenctid yn fenter gan Lywodraeth Cymru sydd â’r nod o gydnabod a dathlu prosiectau gwaith ieuenctid rhagorol, gweithwyr ieuenctid, a’r rhai sy’n ymwneud â gwaith ieuenctid ledled Cymru.

Mae categorïau'r gwobrau yn cyd-fynd â blaenoriaethau strategol Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cymru, a'r nod yw dathlu amrywiaeth gyfoethog Gwaith Ieuenctid yng Nghymru, gan gydnabod bod Gwaith Ieuenctid rhagorol yn cael ei ddarparu drwy'r sectorau gwirfoddol ac awdurdodau lleol a thrwy amrywiaeth o leoliadau a dulliau Gwaith Ieuenctid.

Mae Gwaith Ieuenctid yn darparu ac yn hwyluso amgylchedd lle gall pobl ifainc ymlacio, cael hwyl, a theimlo'n ddiogel, wedi’u cefnogi a'u gwerthfawrogi. Trwy gyfleoedd a phrofiadau addysgol anffurfiol, mae dulliau gwaith ieuenctid yn herio pobl ifainc i wella'r cyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau, ewch i’r wefan: https://www.llyw.cymru/gwobrau-rhagoriaeth-gwaith-ieuenctid

Wedi ei bostio ar 07/03/24