Mae'r Eisteddfod yn agosáu - dim ond 100 diwrnod i fynd nes bydd yr Eisteddfod Genedlaethol yn dychwelyd i Rondda Cynon Taf am y tro cyntaf ers dros 60 mlynedd!
Mae partneriaeth enfawr ar waith er mwyn sicrhau bod pawb yn cael amser wrth eu boddau yng ngŵyl ddiwylliannol fwyaf Ewrop, a fydd yn cael ei chynnal ym Mharc Coffa Ynysangharad, Pontypridd rhwng 3 a 10 Awst.
Mae'r Maen Chwyf ar Gomin Pontypridd, lle cynhaliodd Iolo Morgannwg Seremoni’r Orsaf gyntaf, yn edrych dros y parc, a fydd yn llawn o bobl o bob oed yn mwynhau dathlu'r Gymraeg, y celfyddydau, diwylliant a hanes Cymru.
O blant ysgol ac artistiaid i wirfoddolwyr a chorau byd-enwog, bydd yr achlysur yn llawn doniau lleol a chenedlaethol a bydd rhaglen ddiddorol o gelfyddydau, canu, cerddoriaeth, comedi, gwyddoniaeth a llawer yn rhagor.
Gyda gweithgareddau pwrpasol i blant, ystod o stondinau ac amrywiaeth gwych o fwyd a diod o Gymru ar werth, mae'r Eisteddfod wir at ddant pawb.
Yn ogystal â'r prif achlysur ym Mharc Coffa Ynysangharad, mae disgwyl i leoedd ledled Rhondda Cynon Taf gymryd rhan, gydag achlysuron yn y gymuned, sioeau lleol a llawer o bethau eraill i gymryd rhan ynddyn nhw.
Mae cynnal achlysur mor fawr a mawreddog â'r Eisteddfod, sy'n brofiad unwaith mewn oes i lawer, hefyd yn gadael gwaddol, ac rydyn ni'n awyddus i bobl ddathlu'r Eisteddfod, yn ogystal â'r Gymraeg a'i diwylliant.
Amcangyfrifir bod tua 100,000 o bobl o bob cwr o Gymru yn teithio i'r Eisteddfod bob blwyddyn. Mae croesawu cymaint o ymwelwyr i'r Fwrdeistref Sirol hefyd yn darparu cyfleoedd enfawr i fusnesau ac atyniadau lleol.
Mae Cyngor Rhondda Cynon Taf a'i bartneriaid wedi llunio taflen 'Rho Gynnig ar y Gymraeg', sy'n nodi ymadroddion a geiriau Cymraeg allweddol y mae modd i reolwyr a’u staff ddefnyddio yn ystod wythnos yr Eisteddfod a thu hwnt.
Mae Marco Orsi o Café Royale yn un o blith nifer o fusnesau sy'n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr yr Eisteddfod i'w gaffi hanesyddol, a derbyniodd gopi o'r canllaw gan y Cynghorydd Rhys Lewis yr wythnos yma. Mae gyda fe aelod o staff sy'n siarad Cymraeg yn rhugl, a bydd yn gweithio gyda nhw i addasu'r fwydlen ar gyfer wythnos yr Eisteddfod.
Meddai'r Cynghorydd Rhys Lewis, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg, Cyfranogiad Pobl Ifainc a'r Gymraeg: "Rydyn ni wedi dechrau cyfri'r dyddiau, a chyn hir bydd Rhondda Cynon Taf yn cynnal yr ŵyl ddiwylliannol fwyaf yn Ewrop, ac rydyn ni wir yn teimlo'n gyffrous.
"Rydyn ni'n edrych ymlaen at groesawu ymwelwyr o bob cwr o Gymru i Barc Coffa Ynysangharad fel bod modd iddyn nhw fwynhau'r Eisteddfod ond hefyd y diwylliant lleol, yr atyniadau a'r lleoedd i fwyta ac ymweld â nhw.
"Rydyn ni'n falch o gynnig y cyfle i drigolion fwynhau'r Eisteddfod ar garreg eu drws, lle mae modd i bobl o bob oed gymryd rhan mewn profiad unigryw, a dod o hyd i rywbeth sy’n ennyn eu diddordeb.
"Rydyn ni hefyd yn manteisio ar y cyfle i ddathlu bywyd yn Rhondda Cynon Taf, gan sicrhau bod gwaddol yr Eisteddfod yn un o falchder yn ein diwylliant, ein hiaith a'n treftadaeth."
Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dilyn cyfrifon cyfryngau cymdeithasol Rhondda Cynon Taf i gael y newyddion diweddaraf a gwybodaeth am sut y mae modd i chi gymryd rhan yn y dathliadau.
Yn y cyfamser, wrth i ni gyfri'r 144,000 o funudau tan i Eisteddfod 2024 ddechrau, dyma 10 peth y bydd modd i chi eu mwynhau:
- Mae'r Pafiliwn yn anrhydeddu beirdd, llenorion a cherddorion mwyaf blaenllaw Cymru, gyda chystadlaethau'n amrywio o actio a dawnsio i fandiau pres a chorau. Bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael i'r rheiny nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg yn rhugl.
- Caiff seremoni Gorsedd y Beirdd ei chynnal yn y pafiliwn, gyda'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi gan dderwyddon mewn gynau. Y ddwy brif wobr yw'r Gadair a'r Goron. Caiff enillwyr eu hanrhydeddu gydag amrywiaeth o berfformiadau, gan gynnwys dawns flodau gan blant lleol. Cafodd fersiynau cynnar o’r seremoni yma eu cynnal gan Iolo Morgannwg ar Gomin Pontypridd, sy'n edrych dros Barc Coffa Ynysangharad.
- Maes B yw'r achlysur gyda'r nos sydd wedi'i anelu at gynulleidfa iau, gyda'r actau pop, roc, indie a hip hop Cymraeg gorau. Dyma ffordd wych i bobl ifainc fwynhau eu gŵyl fyw gyntaf.
- Does dim rhaid i chi fod yn siaradwr Cymraeg rhugl i fwynhau'r Eisteddfod. Os ydych chi am ddysgu mwy o'r Gymraeg, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n galw heibio ym Maes D a chael sgwrs gyda'r arbenigwyr. Cofiwch fod cyfieithu ar y pryd ar gael ym mhrif achlysuron y Maes.
- Mae dros 20 o lwyfannau yn rhan o'r achlysur ac mae pob un wedi'u neilltuo i bynciau megis barddoniaeth, theatr, cerddoriaeth werin a llawer yn rhagor.
- Mas ar y Maes. Dyma lle mae gliter yn cwrdd â'r Orsedd wrth i'r Eisteddfod weithio gyda'r gymuned LHDTC+ i gynnal rhaglen o achlysuron, gan gynnwys sesiynau Holi ac Ateb, perfformiadau, darlleniadau, adloniant ysgafn a llawer yn rhagor.
- Mae gan bob Eisteddfod farchnad bwyd a diod sydd â chynnyrch o Gymru, lle mae modd i chi gael blas ar rai o'r byrgyrs, caws, pitsa a bwyd fegan gorau. Mae yna hefyd ardal bar lle mae modd i chi fwynhau seidr Gwynt y Ddraig o bentref Llanilltud Faerdref a llawer yn rhagor.
- Y Pentre Plant yw'r ardal i blant sydd eisiau dysgu a chael hwyl. Mae'n llawn pethau i'w gwneud a'u gweld, gan gynnwys adeiladu cuddfannau, tynnu rhaff, perfformiadau theatr a llawer yn rhagor.
- Y Lle Celf yw'r arddangosfa gelf gyfoes fwyaf yng Nghymru a chaiff ei gynnal ym mhob Eisteddfod. Mae celf a chrefft i'w gweld, eu mwynhau a'u prynu.
- Yr awyrgylch! Bydd ardal Pontypridd a thu hwnt yn barod i ddathlu'r Eisteddfod gyda siopau, busnesau ac atyniadau i gyd yn cymryd rhan yn yr hwyl.
Wedi ei bostio ar 25/04/24