Skip to main content

Mae Gŵyl Aberdâr yn dychwelyd ddydd Sadwrn 25 Mai!

Aberdare-Festival-SM-465x465px-2024

Dewch i Ŵyl Aberdâr dros Ŵyl Banc y Gwanwyn ac ymuno â ni am lawer o adloniant ym Mharc godidog Aberdâr!
Bydd yno rywbeth i'r teulu cyfan, gan gynnwys llawer o adloniant am ddim!

Bydd yr achlysur poblogaidd yma'n cael ei gynnal rhwng 11am a 5pm. Bydd mynediad AM DDIM a bydd yr adloniant eleni yn cynnwys:

Sinema awyr agored am ddim – dewch â blanced picnic a mwynhau'r ffilm newydd, Wonka! 
Llwyfan Cerddoriaeth Fyw – Bydd rhagor o wybodaeth am ein perfformwyr gwych ar gael yn fuan ar: www.gwylaberdar.co.uk a @whatsonrct ar Facebook, Twitter ac Instagram.
Fferm Anwesu Anifeiliaid am ddim – Mae'r atyniad bob amser yn boblogaidd iawn gyda phlant bach!
Stondinau bwyd, crefft a gwybodaeth – Bydd llawer o hwyl a bwyd ar gael. Ewch i'n gwefan i weld pwy fydd yno: www.gwylaberdar.co.uk

Trên Bach – Ewch i'r babell Beth sy' 'mlaen i brynu band llawes am £1 er mwyn teithio ar y trên drwy'r dydd o amgylch y parc!
Mynd ar Gefn Asyn – Gweithgaredd poblogaidd arall ar gyfer plant bach. Bydd reidiau'n costio £1 a bydd modd prynu tocynnau o'r babell Beth sy' 'mlaen.
Bar a gardd gwrw – Bragdy Grey Trees, o'r ardal leol, fydd yn rhedeg y bar a bydd modd mwynhau diodydd yn yr ardd gwrw.
Ffair hwyl – Bydd reidiau a stondinau ar gyfer plant bach yn ogystal â reidiau mwy ar gyfer y rheiny sy'n mwynhau'r cyffro.

Yn ogystal â’r holl adloniant gwych yma, am y tro cyntaf erioed, bydd Gŵyl Aberdâr hefyd yn cynnal Picnic y Tedis. Bydd yr achlysur poblogaidd ar gyfer plant dan 5 oed yn cael ei gynnal ger ardal y safle seindorf. Bydd yn cynnwys gwybodaeth am wasanaethau sydd ar gael i rieni a gwarcheidwaid plant cyn oed ysgol.

Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei chadarnhau yn ystod yr wythnosau nesaf felly dilynwch @whatsonrct ar Facebook, Twitter ac Instagram am y newyddion diweddaraf. Bydd gwybodaeth hefyd ar gael ar wefan yr ŵyl: www.gwylaberdar.co.uk

Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor: "Mae Gŵyl Aberdâr bob amser yn ffordd wych o dreulio Gŵyl Banc y Gwanwyn. Mae miloedd o drigolion ac ymwelwyr yn mwynhau’r holl adloniant sydd ar gael yn ogystal â’r holl weithgareddau ym Mharc Aberdâr, fel y llyn a’r cychod a phad sblasio Aquadare. Parc Aberdâr yw un o’r parciau hardd rydyn ni'n hynod lwcus o'u cael yn Rhondda Cynon Taf, ac mae’n lle gwych i gynnal Gŵyl Aberdâr. Dewch i fwynhau diwrnod allan gwych i'r teulu cyfan." 

Bydd manylion terfynol Gŵyl Aberdâr, gan gynnwys amserlen lawn o achlysuron ac atyniadau'r penwythnos, yn cael eu cyhoeddi ar dudalen Facebook, Twitter ac Instagram Beth sy' 'mlaen RhCT. Ewch i www.gwylaberdar.co.uk am ragor o wybodaeth. 

Wedi ei bostio ar 24/04/24