Skip to main content

Helpu ein trigolion ni i barhau i fod yn annibynnol

Mae ein trigolion ni sy'n byw gydag anabledd neu ganlyniadau mynd yn hŷn yn dweud wrthon ni eu bod nhw am barhau i fod yn annibynnol, ac mae Vision Mobility wrth law i ddarparu'r offer sydd ei angen ar bobl! Does dim rhaid delio ag atgyfeiriadau, proses ymgeisio hir, na rhestrau aros – mae modd cael mynediad at yr offer sydd ei angen arnoch chi pan fyddwch chi ei angen.

Sut mae'n gweithio?

  1. Darllenwch ein ffeithlen sy'n cynnwys yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch chi i wneud penderfyniad ar yr offer sy'n iawn i chi.
  2. Ystyriwch eich opsiynau! Cysylltwch â gwahanol ddarparwyr offer ac ymchwiliwch i wahanol fathau o offer.
  3. Gwnewch benderfyniad ar sail yr wybodaeth sydd ar gael.
  4. Prynwch yn uniongyrchol – does dim angen mynd drwy'r Cyngor na gofyn am atgyfeiriad. Mae modd i chi brynu'r offer sydd ei angen arnoch chi oddi wrth detholiad o gyflenwyr.

Beth sydd ar gael?

Mae cymhorthion symudedd, dyfeisiau cynorthwyol, a hanfodion eraill ar ein ffeithlen. Mae dewis eang o opsiynau fforddiadwy, gyda'r rhan fwyaf yn costio llai na £40. Dyma restr:

Symudedd a chysur yn y cartref

  • Liferi gwely a chodwyr dodrefn a all helpu pobl i godi o'r gwely ac i fyny o ddodrefn.
  • Trolis sydd wedi'u cynllunio i gynorthwyo gyda symud eitemau o gwmpas y tŷ.
  • Gall stolion fod o gymorth i bobl sy'n cael trafferth sefyll am gyfnodau hir.

Cymorth wrth ddefnyddio'r ystafell ymolchi

  • Mae modd i fyrddau bath, stolion cawod a grisiau bath fod yn gymhorthion sy'n caniatáu i rywun ymdrochi yn ddiogel ac yn gyfforddus, ac mae modd eu haddasu nhw.
  • Mae seddi a fframiau toiledau yn eu gwneud hi'n haws defnyddio'r toiled ac mae modd addasu rhai ohonyn nhw.
  • Mae comôd/cadair gwely yn ddefnyddiol i'r rheiny sy'n ei chael hi'n anodd cyrraedd y toiled mewn pryd.

Cyfathrebu'n haws

  • Gall ffonau hygyrch a ffonau symudol helpu unigolion i gadw mewn cysylltiad ag anwyliaid heb rwystrau. Mae ganddyn nhw ystod o nodweddion megis botymau mawr, botymau cymorth/cwympo, y modd i newid lefelau sain, a llawer mwy.

Beth yw'r manteision?

Mae llawer o fanteision i brynu eich offer eich hun, gan gynnwys:

  1. Llai o aros: mae prynu offer yn uniongyrchol yn golygu hepgor rhestrau aros a phrosesau atgyfeirio.
  2. Dewis personol: mae modd i chi ddewis yr offer sydd fwyaf addas ar gyfer eich anghenion a'ch dewisiadau chi.
  3. Datrysiadau ffordiadwy: rydyn ni'n cynnig opsiynau fforddiadwy i drigolion trwy gwmni Vision Mobility i sicrhau eich bod chi'n cael gwerth eich arian.
  4. Proses syml: dim rhagor o waith papur! Ewch at y cwmnïau'n uniongyrchol i gymryd rheolaeth o'ch lles.

I gael rhagor o wybodaeth am y mathau o offer a allai fod o fudd i chi, ewch i'n gwefan lle bydd modd i chi ddarllen ein ffeithlen. Mae hefyd gyda ni fersiwn hawdd ei darllen yma.

Ble oes modd i chi brynu offer?

MaeVision Mobility yn fusnes mae'r Cyngor yn ei gefnogi sy'n ceisio rhoi mynediad at offer rhatach i bobl. Mae'n cynnig ystod amrywiol o gynnyrch a gwasanaethau i'r sector cyhoeddus a'r sector preifat, ac yn cefnogi unigolion ag anableddau yn y gymuned ac yn y gweithlu.

Mae'r cynnyrch yn amrywio o sgwteri symudedd, cadeiriau codi a gwelyau proffil i gymhorthion syml i helpu pobl o gwmpas y cartref. Yn y siop mae staff sydd wedi'u hyfforddi i gynnig cyngor a gwybodaeth ar y cynnyrch sydd ar gael i helpu gyda bywyd bob dydd. 

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://www.rctcbc.gov.uk/CY/GetInvolved/VisionProducts/VisionMobility/VisionMobility.aspx

Am gymorth ac i archebu, ewch i Vision Mobility, Ystad Ddiwydiannol Lôn Coedcae, Pont-y-clun, CF72 9GP. Mae hefyd modd i chi archebu dros y ffôn: 01443 220 811.

Dyma'r oriau agor: dydd Llun i ddydd Iau, 10am–4pm; dydd Gwener, 10am‒12.30pm.

Meddai'r Cynghorydd Gareth Caple, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Menter ragorol yw hon sy'n caniatáu i'n trigolion ni gymryd rheolaeth dros eu lles trwy brynu offer hanfodol yn uniongyrchol sy'n sicrhau eu bod nhw'n ddiogel ac yn gyfforddus.

"Trwy roi'r modd i'n trigolion i wneud dewisiadau ar sail gwybodaeth a chael gafael ar offer fforddiadwy addas, rydyn ni'n hybu eu hannibyniaeth a'u hurddas.

"Mae'n bwysig ein bod ni'n grymuso'r bobl yn ein cymuned i ddefnyddio datrysiadau hunangyfeiriedig sy'n caniatáu iddyn nhw fyw bywyd i'r eithaf."

Wedi ei bostio ar 25/04/2024