Skip to main content

Mae gwaith atgyweirio pont ac ailbroffilio argloddiau yn Ystrad bellach wedi'u cwblhau

Bodringallt Bridge grid - Copy

Mae gwaith sylweddol i atgyweirio a diogelu Pont Bodringallt, Ystrad, ar gyfer y dyfodol wedi'i gwblhau'n ddiweddar, gan hefyd sicrhau dyfodol rhan o'r A4058.

Mae'r cynllun wedi cynnwys llenwi'r gwagle o dan y bont, gan sicrhau na fydd dec y bont yn gweithredu fel elfen strwythurol mwyach.

Mae'r llethr wedi cael ei hailbroffilio hefyd – gweler y llun ar y chwith. Mae hadau glaswellt wedi'u hau ar yr arglawdd felly bydd yn ardal werdd pan fydd y glaswellt yn tyfu. 

Yn ogystal â hyn, mae system ddraenio wedi cael ei gosod, mae'r canllaw metel wedi cael ei ailbaentio, mae nifer o waliau wedi cael eu hailbwyntio ac mae'r wal orllewinol wedi cael ei hailadeiladu.

Dechreuwyd gwaith ar y cynllun ym mis Ionawr 2024 ac mae wedi cael ei ariannu trwy Raglen Gyfalaf Priffyrdd a Thrafnidiaeth barhaus y Cyngor.

Cafodd y gwaith ei gynnal gyda chyn lleied o darfu â phosibl ar y gymuned. Diolch i breswylwyr am eich cydweithrediad.

Wedi ei bostio ar 26/04/2024