Skip to main content

Gwaith cynnal a chadw lleol ar safle hen domen lo yn Nhreherbert

Penyrenglyn tip grid - Copy

Mae'n bosibl y bydd cymuned Treherbert yn sylwi ar waith yn cael ei gynnal dros y bythefnos nesaf yn rhan o waith cynnal a chadw arferol ar safle hen Domen Penyrenglyn.

Mae'r hen domen lo wedi'i lleoli i'r gogledd yn gyffredinol o Stryd Jones, ac i'r dwyrain o Stryd Siarl, Stryd Ynysfeio a Stryd Herbert. Bydd y Cyngor yn defnyddio cyllid pwysig Llywodraeth Cymru i gynnal gwaith clirio llystyfiant, a fydd yn dechrau o ddydd Llun 3 Awst ac yn para pythefnos.

Bydd y gwaith yn cynnwys torri llystyfiant o gwmpas sianeli draenio a chwlferi, gan sicrhau bod asedau draenio'n cael eu cynnal a'u cadw, a bod perygl rhwystrau yn cael ei leihau.

Bydd y cynllun, sy'n cael ei gynnal gan Garfan Gofal y Strydoedd RhCT, hefyd yn cynnwys clirio llystyfiant mewn lleoliadau allweddol er mwyn sicrhau mynediad ar gyfer arolygiadau a gwaith cynnal a chadw yn y dyfodol.

Nodwch fod ecoleg wedi bod yn ystyriaeth bwysig o ran dyluniad y cynllun, gyda mesurau rheoli cynefinoedd yn gwella bioamrywiaeth trwy gynnal coridorau cynefinoedd agored ledled y safle.

Does dim disgwyl i'r gwaith darfu llawer ar y gymuned, gydag ychydig o sŵn. Mae'n bosibl y bydd trigolion yn sylwi ar gynnydd bach yn nifer y cerbydau adeiladu yn ystod oriau'r gwaith, rhwng 8am a 5pm dydd Llun i ddydd Gwener.

Mae'r cynllun wedi derbyn cyllid trwy Grant Diogelwch Tomenni Glo Llywodraeth Cymru yn 2026/27. Mae'r Cyngor wedi sicrhau £13.7 miliwn trwy'r grant yma i barhau ag arolygiadau, mesurau cynnal a chadw a gwaith ledled safleoedd hen domenni glo yn Rhondda Cynon Taf eleni.

Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT

Wedi ei bostio ar 04/08/2026