Skip to main content

Cyllid ychwanegol ar gyfer rhyddhad ardrethi ysgolion a busnesau yn y gyllideb ddrafft

Mae swyddogion wedi cyflwyno Strategaeth Gyllideb ddrafft 2026/27 i'r Cabinet ei thrafod, yn dilyn setliad Llywodraeth Leol terfynol mwy ffafriol ym mis Ionawr gan Lywodraeth Cymru. Byddai modd i'r Aelodau gytuno iddo fod yn destun ymgynghoriad cyllideb Cam Dau yn yr wythnosau nesaf.

Byddai'r cynigion yn gosod cyllideb gytbwys ar gyfer y flwyddyn nesaf ac yn cynnwys ariannu'r holl bwysau o ran cyflogau a phwysau eraill ar gyfer ysgolion, darparu £1 miliwn ychwanegol ar gyfer ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol a chynyddu lefel rhyddhad Ardrethi Annomestig lleol y Cyngor i fusnesau.

Bydd adroddiad i'r Cabinet ddydd Llun, 2 Chwefror yn nodi sefyllfa ariannol wedi'i diweddaru i'r Aelodau gan ystyried setliad Llywodraeth Cymru. Roedd swyddogion wedi rhagweld yn flaenorol y byddai'r Cyngor yn wynebu bwlch cyllidebol gwerth £22.5 miliwn y flwyddyn nesaf, yn seiliedig ar fwriad Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros Gyllid a'r Gymraeg y byddai cyllideb un flwyddyn yn cael ei chyflwyno ar gyfer 2026/27, sy'n cynyddu gwariant yn ôl chwyddiant yn unig (2%). Mae bwlch cyllidebol y Cyngor yn codi wrth i gostau cyflog a chostau eraill godi ymhell uwchlaw'r lefel yma, ochr yn ochr â galw cynyddol am lawer o wasanaethau.

Ar 24 Tachwedd, nododd y setliad dros dro gynnydd o 2.9% mewn cyllid ar gyfer Rhondda Cynon Taf a chafodd hynny ei ddilyn gan gyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru ar 9 Rhagfyr fod cytundeb Cyllideb wedi'i gyrraedd a fyddai'n caniatáu i Gyllideb 2026/27 Llywodraeth Cymru gael ei phasio. Roedd y cytundeb yma'n cynnwys cyllid ychwanegol i gynghorau Cymru a chynnydd o 4.5% mewn cyllid i Rondda Cynon Taf.

Mae adroddiad y Cabinet ddydd Llun yn nodi bod hyn yn cyfateb i werth £17.2 miliwn mewn adnoddau ychwanegol, ochr yn ochr â gofynion cyllideb sylfaenol wedi'u diweddaru sy'n cynnwys pwysau ar wasanaethau cymdeithasol a chostau ychwanegol mewn perthynas â chludiant Anghenion Dysgu Ychwanegol, draenio priffyrdd a chostau Cyflog Byw Gwirioneddol ac Yswiriant Gwladol. Gan ystyried y diweddariadau yma, y bwlch cyllidebol sy'n weddill yn dilyn y setliad terfynol yw £6.46 miliwn.

Elfennau allweddol o'r Strategaeth Gyllideb ddrafft ar gyfer 2026/27

Mae'r Strategaeth yn cynnig cynyddu ymhellach lefel ardrethi lleol y Cyngor ei hun y mae busnesau'n ei dderbyn ar hyn o bryd. Darparodd y Cynllun Lleihau Ardrethi Busnes Lleol £300 i fusnesau cymwys pan gafodd ei gyflwyno yn 2020/21 ac mae lefel y gefnogaeth wedi cynyddu i £500 ar gyfer 2025/26. Mae’r cynnig presennol yn bwriadu cynyddu'r lefel i £625 ar gyfer y flwyddyn nesaf, gyda chynnydd pellach i £750 ar gyfer 2027/28. Amcangyfrifir y byddai tua 1,400 o fusnesau yn Rhondda Cynon Taf yn elwa.

Hyd yn oed pan mae'r Cyngor wedi wynebu heriau ariannol mawr mewn blynyddoedd blaenorol, mae cyllid ar gyfer ein hysgolion wedi cael blaenoriaeth bob amser. Yn yr un modd, mae strategaeth 2026/27 yn cynnig ymdrin â phob pwysau cyflog a phwysau eraill ar gyfer ein hysgolion ar gyfer y flwyddyn nesaf. Yn ogystal â hyn, mae £1 miliwn pellach wedi'i nodi ar gyfer pwysau parhaus ledled ein hysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol. At ei gilydd, bydd cyllideb yr ysgolion yn cynyddu £10.4 miliwn (4.8% ar sail gyfatebol) yn ystod y flwyddyn nesaf, a bydd yn cael ei hariannu'n llawn.

Dros nifer o flynyddoedd, mae'r Cyngor wedi nodi a chyflawni arbedion effeithlonrwydd sylweddol nad ydyn nhw'n effeithio'n fawr ar ddarparu gwasanaethau. Mae hon wedi bod yn rhaglen waith ledled y Cyngor sydd wedi cynnwys £13 miliwn a arbedwyd yng nghyllideb y flwyddyn gyfredol (2025/26) a £40 miliwn dros y tair blynedd diwethaf. Mae cynigion pellach bellach wedi'u cyflwyno, sy'n cyfateb i £6.335 miliwn.

Mae cynigion ar gyfer ffioedd a thaliadau’r Cyngor yn cynnwys cynnydd safonol o 5%, gan gydnabod y cynnydd sylweddol yn ein sylfaen costau a’r lefel ddilynol o gymhorthdal y mae’r Cyngor yn ei darparu. Cynigir nifer o eithriadau penodol i'r cynnydd safonol yma, gyda manylion pellach wedi'u hamlinellu mewn adroddiad ar wahân i'w ystyried gan y Cabinet.

Yn debyg i flynyddoedd blaenorol, byddai'r cynigion yn sicrhau bod y Cyngor yn parhau i weithredu'n rhesymol mewn perthynas â lefelau Treth y Cyngor, gan gydbwyso'r effaith ar wasanaethau a gallu'r cyhoedd i dalu. Cyfrifwyd modelu ariannol blaenorol ar gyfer 2026/27 yn seiliedig ar gynnydd o 4% yn Nhreth y Cyngor, sydd unwaith eto’n debygol o fod yn un o’r codiadau arfaethedig isaf yng Nghymru. Mae'r strategaeth ddrafft yn cadw cynnydd o 4%.

Gan ystyried popeth, byddai'r bwlch cyllideb sy'n weddill yn £911,000, a chynigir bod hyn yn cael ei reoli trwy ddefnyddio cronfa wrth gefn Cyllid Pontio'r Cyngor.

Mae manylion llawn am elfennau allweddol y strategaeth arfaethedig wedi'u cynnwys yn adroddiad y Cabinet ddydd Llun. Unwaith y bydd y Cabinet wedi trafod yr adroddiad, gallai'r Aelodau gytuno i'r strategaeth gyllideb ddrafft fod yn destun ymgynghoriad cyhoeddus Cam Dau'r Cyngor.

Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf: “Ar ôl paratoi ar gyfer cyflwyno cyllideb chwyddiant yn unig ar gyfer 2026/27, fel y caiff ei adlewyrchu yn ein Cynllun Ariannol Tymor Canolig, roedd yn bleser derbyn setliad gwell na’r disgwyl. Fe wnaethon ni lobïo am gynnydd mewn cyllid sy'n adlewyrchu ein costau cyflog a chostau eraill yn codi ymhell uwchlaw lefel chwyddiant – ac mae cadarnhad Llywodraeth Cymru o gynnydd o 4.5% ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn well na'r 2% a gafodd ei fodelu gennyn ni'n wreiddiol. Serch hynny, mae hyd yn oed y lefel ariannu well yma yn dal i fod yn brin i gwmpasu’r holl bwysau, ar adeg pan fo trigolion, cymunedau a busnesau yn parhau i wynebu costau byw uchel.

"Bydd swyddogion yn cyflwyno strategaeth gyllideb ddrafft i'r Cabinet ei thrafod yr wythnos nesaf sydd â sawl agwedd gadarnhaol. Rydyn ni wedi amddiffyn ein hysgolion drwy bob her ariannol yn ystod y blynyddoedd diwethaf – mewn gwirionedd, gan gynyddu cyllideb gyffredinol yr ysgolion 45% dros y degawd diwethaf. Mae hyn yn cyfateb i £18.6 miliwn o'i gymharu â gwasanaethau eraill y Cyngor. Mae strategaeth ddrafft 2026/27 yn cynnig ariannu'n llawn yr holl bwysau cyflog a phwysau eraill yn ein hysgolion ac, yn ogystal â hyn, darparu £1 miliwn ychwanegol wedi'i glustnodi ar gyfer ysgolion Anghenion Dysgu Ychwanegol.

"Mae Swyddogion hefyd wedi gallu nodi cyllid ychwanegol i gynyddu lefel ein rhyddhad ardrethi ein hunain y mae busnesau lleol cymwys yn ei dderbyn – o £500 i £625 y flwyddyn nesaf, ac yna £750 yn y flwyddyn ganlynol. Rydyn ni'n credu mai ni yw'r unig Gyngor yng Nghymru sy'n cynnig hyn, gan helpu i roi mwy o arian ym mhocedi masnachwyr i gydnabod yr heriau parhaus y maen nhw'n eu hwynebu. Os cytunir arno, byddai'r lefel uwch o ryddhad ardrethi o fudd i 1,400 o fusnesau ledled Rhondda Cynon Taf.

“Unwaith eto, rydyn ni wedi gallu nodi arbedion effeithlonrwydd sylweddol y mae modd eu gwneud heb effeithio’n fawr ar wasanaethau. Mae hwn yn waith sylweddol gan uwch swyddogion, gyda'r fath arbedion yn anoddach i'w nodi flwyddyn ar ôl blwyddyn gan ein bod wedi profi'r bylchau cyllidebol mwyaf arwyddocaol y mae'r Cyngor yma erioed wedi'u hwynebu yn ddiweddar – £38 miliwn yn 2023/24, £36 miliwn yn 2024/25, a £36 miliwn yn y flwyddyn gyfredol. Yr arbedion ychwanegol gwerth £6.335 miliwn a nodwyd bellach yn strategaeth y Gyllideb ddrafft ar gyfer 2026/27 yw'r enghraifft ddiweddaraf o'n gwaith amhrisiadwy yn y maes yma. Heb yr arbedion yma, y dewis arall fyddai ystyried toriadau sylweddol a chodiadau llawer mwy yn Nhreth y Cyngor er mwyn gosod cyllideb gytbwys bob blwyddyn.

“Bydd y Cabinet yn ystyried y strategaeth ddrafft yn ei gyfarfod ddydd Llun, a byddai modd iddo gytuno i hyn fod yn destun ein hymgynghoriad Cam Dau. Rydyn ni'n parhau i wrando ar bobl yn ystod yr ymarferion yma, ac mae'r 350 o bobl a gymerodd ran yng Ngham Un yn ystod yr hydref wedi helpu i lywio ein blaenoriaethau drwy gydol y broses o bennu'r gyllideb. Os cytunir arno, bydd y Cyngor yn hyrwyddo Cam Dau yn yr wythnosau nesaf, a byddwn ni'n annog pob preswylydd sydd â diddordeb i ddweud eu dweud, a hynny wrth i ni weithio tuag at osod ein cyllideb sy'n gytbwys yn gyfreithiol ar 4 Mawrth 2026.”

Wedi ei bostio ar 30/01/2026