Mae pobl ledled Rhondda Cynon Taf yn cael eu hannog i nodi a herio, mewn modd diogel, yr agweddau ac ymddygiadau sy'n caniatáu i drais yn erbyn menywod a merched barhau.
Heddiw (25 Tachwedd) yw Diwrnod Rhuban Gwyn, a dechrau ymgyrch flynyddol '16 Diwrnod o Weithredu' yn erbyn trais ar sail rhywedd. Neges Diwrnod Rhuban Gwyn eleni yw "Mae'n Fater i ni Gyd", sy'n tynnu sylw at y rôl y mae modd i bawb ei chwarae wrth greu newid parhaol.
Os nad ydyn nhw'n cael eu herio, mae modd i sylwadau rhywiaethol, stereoteipiau, cynnwys amhriodol ar-lein ac ymddygiad sy'n cael ei ystyried yn "jôc" neu'n "tynnu coes" helpu i normaleiddio agweddau amharchus.
Mae elusen 'White Ribbon UK' yn annog pobl i ystyried y camau y mae modd iddyn nhw eu cymryd bob dydd. Mae modd i hyn cynnwys gwrthod chwerthin ar jôc rywiaethol, herio sylw amhriodol, rhoi gwybod am gynnwys niweidiol, neu godi'ch llais pan fydd sgwrs yn mynd yn rhy bell.
Dechreuodd yr ymgyrch yn lleol gydag achlysur gwylnos yng ngolau cannwyll blynyddol y Cyngor yn Llyfrgell Pontypridd nos Fawrth. Daeth trigolion, cynrychiolwyr y Cyngor a phartneriaid lleol at ei gilydd i gofio'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan drais yn erbyn menywod a merched a myfyrio ar y cyfrifoldeb sydd gan bob un ohonom i herio agweddau niweidiol, cefnogi pobl sydd wedi'u heffeithio gan gam-drin a helpu i greu cymunedau mwy diogel.
Yn ystod yr 16 diwrnod nesaf, bydd y Cyngor yn rhannu cyngor ymarferol, gwybodaeth am gymorth sydd ar gael yn yr ardal leol, ac adnoddau gan bartneriaid cenedlaethol. Mae'r ymgyrch yn helpu pobl i ddeall sut mae modd iddyn nhw:
- nodi a herio agweddau ac ymddygiadau niweidiol mewn modd diogel;
- nodi gwahanol fathau o gam-drin domestig;
- ymateb mewn modd cefnogol pan fydd rhywun yn rhannu eu bod nhw o bosibl yn profi cam-drin;
- dod o hyd i gymorth arbenigol a lleol; a
- parhau i weithredu drwy ddod yn rhan o'r Gynghrair Dynion yn erbyn Cam-drin Domestig.
Meddai'r Cynghorydd Maureen Webber BEM, Aelod o'r Cabinet ar faterion Busnes y Cyngor a Hyrwyddwr y Rhuban Gwyn: "Mae Diwrnod Rhuban Gwyn yn ein hatgoffa ni nad yw'n gyfrifoldeb ar y menywod a'r merched sy'n wynebu trais i'w atal. Mae gan bob un ohonom ran i'w chware.
"Mae modd i hynny ddechrau gyda'r penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud bob dydd. Mae modd i ni wrthod chwerthin ar jôc rywiaethol, herio sylwadau niweidiol, tynnu sylw at gynnwys amhriodol a helpu i'w gwneud yn glir na ddylid derbyn ymddygiad amharchus.
"Mae'n bosibl bod y camau gweithredu yma'n teimlo fel camau bach, ond gyda'i gilydd mae modd iddyn nhw ein helpu i newid yr agweddau sy'n caniatáu i aflonyddu a cham-drin barhau. Mae'n fater i ni gyd."
Meddai'r Cynghorydd Bob Harris, Aelod o'r Cabinet ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden a Hyrwyddwr y Cyngor ar faterion Cam-drin Domestig: "Rhoddodd yr achlysur gwylnos yng ngolau cannwyll neithiwr gyfle i bawb ddod at ei gilydd i gofio'r rhai sydd wedi'u heffeithio gan drais yn erbyn menywod a merched, a dangos eu cefnogaeth.
Mae neges Diwrnod Rhuban Gwyn eleni yn ein hatgoffa ni bod angen i bawb weithredu i greu newid. Mae dynion a bechgyn yn chwarae rôl bwysig drwy godi'u llais, herio ymddygiad annerbyniol a dangos sut olwg sydd ar berthnasoedd iach a pharchus.
"Rydyn ni'n dymuno troi neges Diwrnod Rhuban Gwyn yn gamau gweithredu parhaus yn yr ardal leol, a hynny trwy ein Cynghrair Dynion yn erbyn Cam-drin Domestig.
"Mae'r Gynghrair yn rhoi cyfle ymarferol i drigolion, gweithwyr proffesiynol, gweithleoedd a sefydliadau cymunedol i herio agweddau niweidiol a hyrwyddo parch a chydraddoldeb."
Diwrnod Rhuban Gwyn
Caiff Diwrnod Rhuban Gwyn ei gynnal bob blwyddyn ar 25 Tachwedd, ac mae'n nodi dechrau'r 16 Diwrnod o Weithredu yn erbyn Trais ar sail Rhywedd. Mae'r ymgyrch yn cael ei harwain gan White Ribbon UK, yr elusen flaenllaw yng Nghymru a Lloegr sy'n gweithio i atal trais gan ddynion yn erbyn menywod a merched. Mae'n gweithio gydag unigolion, gweithleoedd a chymunedau i herio'r agweddau a'r ymddygiadau sy'n ei gwneud hi'n bosibl i gyflawni trais - a chreu cynghreiriaeth sy'n ei atal.
Dysgwch ragor a gwneud Addewid y Rhuban Gwyn.
Mae cymorth ar gael i chi:
Mae modd i unrhyw un sy'n wynebu cam-drin domestig, neu sy'n poeni am rywun arall, gysylltu ag Uned Diogelwch RhCT:
Rhif ffôn: 01443 494 190
Galwch heibio: Stryd yr Eglwys Uchaf, Pontypridd, CF37 2UF
Ewch i dudalen we Uned Diogelwch RhCT.
Cynghrair Dynion yn erbyn Cam-drin Domestig
Cafodd y Gynghrair Dynion yn erbyn Cam-drin Domestig ei lansio yn Rhondda Cynon Taf ym mis Medi 2026, gan annog dynion a bechgyn i ddod yn gynghreiriad gweithredol wrth atal cam-drin domestig. Mae'r gynghrair yn dod â thrigolion, gweithleoedd, sefydliadau a grwpiau cymunedol at ei gilydd i herio agweddau niweidiol, hyrwyddo perthnasoedd parchus a chreu cymunedau mwy diogel.
Mae modd i chi ddysgu rhagor ac ymrwymo i'w chefnogi yma.
Mae modd i weithwyr proffesiynol, gweithleoedd a sefydliadau cymunedol sy'n awyddus i gydweithio â'r Gynghrair e-bostio: DynionynerbynCam-drinDomestig@rctcbc.gov.uk
Wedi ei bostio ar 25/11/2026