Skip to main content

Plac Glas i Anrhydeddu'r Arwr Gwrth-Ffasgaidd Harry Dobson yn Nhonypandy

1. Harry_Dobson_swcc_pho_scw_014_001

Bydd Plac Glas yn coffáu bywyd a gwaddol yr ymgyrchydd gwrth-ffasgaidd Harry Dobson yn cael ei ddadorchuddio ar 10 Awst am 11am yn 121 Stryd Dunraven, Tonypandy (Clwb Coffi) - y tŷ lle cafodd ei eni.

Ganwyd Harry Dobson ar 9 Awst 1907, a chafodd ei fagu yng nghalon Cwm Rhondda. Daeth yn undebwr llafur angerddol ac yn wrthwynebydd ymroddedig yn erbyn ffasgiaeth mewn cyfnod o aflonyddwch gwleidyddol cynyddol ledled Ewrop. Fe wnaeth ei weithgarwch ymgyrchu yn Ne Cymru ei osod ar flaen y gad yn un o'r achosion o wrthdaro gwrth-ffasgaidd mwyaf arwyddocaol ym Mhrydain cyn y rhyfel.

Ar 11 Mehefin 1936, chwaraeodd Dobson ran ganolog ym Mrwydr Maes De Winton yn Nhonypandy. Pan geisiodd Undeb Ffasgwyr Prydain gynnal rali, ymunodd miloedd o bobl leol - amcangyfrifir rhwng 5,000 a 6,000 - i wrthwynebu. Y gwrthdaro a ddilynodd oedd yr ymgais olaf gan Undeb Ffasgwyr Prydain i gynnal rali yng Nghymru, ac fe ddigwyddodd hyn fisoedd cyn Brwydr Cable Street yn Llundain, sy'n fwy adnabyddus.

Roedd Dobson ymhlith 37 o unigolion a gafodd eu harestio yn dilyn hynny, gan wynebu nifer o gyhuddiadau gan gynnwys terfysg a chynulliad anghyfreithlon. Cafodd ei ddedfrydu wedi hynny i chwe mis o garchar yn Abertawe. Ar ôl ei ryddhau, gan adlewyrchu ei benderfyniad i barhau â'r frwydr yn erbyn ffasgiaeth, gofynnodd: “Sut ydw i’n cyrraedd Sbaen?”

Roedd ei ymrwymiad yn ymestyn y tu hwnt i Brydain. Ym mis Mai 1937, teithiodd Dobson i Sbaen i ymuno â'r Brigadau Rhyngwladol i gefnogi Gweriniaeth Sbaen yn ystod y Rhyfel Cartref. Roedd ei daith yn llawn perygl; goroesodd yr ymosodiad â thorpido ar long filwyr Ciudad de Barcelona oddi ar arfordir Catalwnia - ymosodiad a hawliodd dwsinau o fywydau.

Heb ei ddigalonni, cyrhaeddodd Dobson Sbaen ac ymunodd â Bataliwn Prydain, gan fynd i frwydro yn fuan ar ôl iddo gyrraedd. Cafodd ei anafu ym Mrwydr Brunete, ac yn ddiweddarach fe ddaeth yn gomisar gwleidyddol, gan ennill enw da am ei ddewrder ac arweinyddiaeth. Disgrifiodd yr hanesydd milwrol Hywel Francis ef fel person a oedd yn cyfuno dewrder dan bwysau, pwyll a chraffter wrth arwain a dealltwriaeth wleidyddol gref.

Bu Dobson yn brwydro mewn nifer o frwydrau allweddol, gan gynnwys Quinto, Belchite, Teruel, a Gandesa, gan ddangos ymrwymiad diysgog i'r frwydr ryngwladol yn erbyn ffasgiaeth. Cafodd ei anafu yn ystod Brwydr yr Ebro ar 28 Gorffennaf 1938 - y frwydr hiraf a mwyaf gwaedlyd yn Rhyfel Cartref Sbaen - a bu farw’r diwrnod canlynol.

Mae dadorchuddio'r Plac Glas hwn yn cydnabod bywyd rhyfeddol Dobson, ei wreiddiau lleol, ac arwyddocâd parhaol ei safiad yn erbyn ffasgiaeth.

Dywedodd y Cynghorydd Scott Emanuel, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Cymunedau, Diwylliant a Hamdden:

Mae stori Harry Dobson yn un o ddewrder, argyhoeddiad ac aberth aruthrol. O'i ddechreuad yma yn Nhonypandy i feysydd brwydr Sbaen, safodd yn gadarn yn erbyn anghyfiawnder a gormes. Mae'r Plac Glas hwn yn sicrhau y bydd ei waddol yn cael ei gofio, nid yn unig fel ffigur o bwys lleol, ond yn rhan o frwydr ryngwladol ehangach dros ryddid a democratiaeth. Rydyn ni'n falch o'i gofio a'i anrhydeddu yn y gymuned a'i lluniodd. Bydd y seremoni ar safle Clwb Coffi yn dod â thrigolion lleol, haneswyr ac arweinwyr cymunedol ynghyd i ddathlu bywyd Dobson ac i fyfyrio ar berthnasedd parhaus ei werthoedd heddiw.

Manylion yr Achlysur:

  • Dyddiad: 10 Awst
  • Amser: 11am
  • Lleoliad: 121 Stryd Dunraven (Clwb Coffi), Tonypandy

Croeso i bawb ddod a thalu teyrnged i un o ffigurau hanesyddol mwyaf nodedig y Rhondda.

Wedi ei bostio ar 13/07/2026