Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn wedi ennill Cydnabyddiaeth am Ddylunio a Diogelwch Rhagorol.
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yng Nglynrhedynog wedi ennill Gwobr Datblygiad Addysgol ATLAS, sef Gwobrau Diogelu drwy Ddylunio, sy'n cydnabod rhagoriaeth Dylunio er mwyn Atal Troseddau.
Cyflwynodd yr Arolygydd Andrew Gibbons y wobr i Ms Petra Davies, Pennaeth Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn a Dr Marium Haque, Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Cynhwysiant Cyngor Rhondda Cynon Taf, mewn seremoni yn yr ysgol ar 17 Mehefin. Hefyd yn bresennol oedd Andrew Llewellyn, Pennaeth Gwella Ysgolion Cyngor Rhondda Cynon Taf, Laura Thomas o Garfan Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor, Joy Nicholls a Julie Odgers, Swyddogion Arbenigol yr Heddlu - Dylunio er mwyn Atal Troseddau.
Mae'r ysgol newydd wedi'i hariannu gan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Llywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac wedi'i hadeiladu ar hen safle ystad ddiwydiannol ffatri Chubb. Mae'r ysgol Gymraeg newydd yn cymryd lle ysgol gynradd hŷn yn yr ardal sydd wedi tyfu'n rhy fawr i'w safle. Mae lle i 240 o ddisgyblion yn yr ysgol newydd, sydd o'r radd flaenaf. Bydd hi’n cynnwys Cylch Meithrin, lleoliad gofal plant Cymraeg ar gyfer 30 o blant, sy'n hyrwyddo addysg a datblygiad plant meithrin o pan fyddan nhw'n ddwy oed, gan eu helpu i symud ymlaen i addysg Cymraeg yn ddidrafferth.
Mae'r ysgol yn cynnwys ystafelloedd dosbarth a chyfleusterau modern, ardal gemau aml-ddefnydd, maes chwaraeon, ac ystod o ardaloedd chwarae awyr agored. Mae mannau storio beiciau a mannau mynediad clir wedi'u dylunio er mwyn hyrwyddo Teithio Llesol, sy'n annog cerdded a beicio diogel i'r ysgol, yn ogystal â maes parcio gollwng a chasglu penodol ar gyfer rhieni sy'n gyrru.
O'r cychwyn cyntaf, roedd y Swyddogion Dylunio er mwyn Atal Troseddau - Julie Odgers o Heddlu De Cymru, a Joy Nicholls, a wnaeth ymuno yn ddiweddarach, wedi cyflawni swyddogaeth allweddol o ran sicrhau bod yr ysgol yn cael ei dylunio yn unol â mesurau atal troseddau.
Gan roi egwyddorion Diogelu drwy Ddylunion ac Atal Troseddau Drwy Ddylunio Amgylcheddol ar waith, megis rheoli mynediad, goruchwyliaeth naturiol, atgyfnerthu ffiniau, cynnal a chadw a rheoli, a chreu ymdeimlad o le, roedd y Swyddogion Dylunio er mwyn Atal Troseddau wedi cydweithio'n agos â'r holl randdeiliaid drwy gydol y prosiect. Roedd cyfathrebu a chydweithio effeithiol yn elfen hollbwysig o’r broses yma, gyda phartneriaid yn cynnwys Carfan Ysgolion yr 21ain Ganrif y Cyngor, Wynne Construction, Arcadis Architects, Gwrthderfysgaeth Cymru, a Charfan Rheolaeth Traffig Heddlu De Cymru.
Roedd dyluniad yr ysgol a'r dirwedd allanol yn cyflwyno heriau cymhleth, a oedd yn gofyn am gyfres o gyfarfodydd ac ymweliadau safle er mwyn sicrhau bod safonau Diogelu drwy Ddylunio yn cael eu bodloni. Er enghraifft, roedd yr ysgol eisiau i'r neuadd fod ar gael i'r gymuned ei defnyddio, er mwyn cyflawni hyn heb beryglu diogelwch y brif ysgol, roedd y Swyddogion Dylunio er mwyn Atal Troseddau wedi argymell creu llwybr mynediad ar wahân.
Un o'r prif heriau oedd topograffeg y safle, am fod yr ysgol wedi'i lleoli mewn cwm â llethrau serth. O ganlyniad y pwyslais ar gerdded a beicio, cafodd dyluniad llwybrau diogel i gerddwyr a llif symudiad eu hystyried yn ofalus, gan sicrhau mynediad clir i gerbydau er mwyn helpu i reoli traffig yn yr ardal gyfagos.
Cafodd dyluniad y goleuadau hefyd ei adolygu yn rhan o'r datblygiad. Cafodd cynigion ar gyfer goleuadau bolard ar lwybr igam ogam i gerddwyr at yr ysgol eu hadolygu yn dilyn trafodaethau mewn perthynas â gwelededd a diogelwch, gan arwain at osod goleuadau stryd yn unol â Safonau Prydain.
Cafodd yr ymweliad ysgol olaf ei gynnal gan Joy Nicholls ym mis Mawrth 2025 er mwyn cadarnhau bod yr ysgol yn bodloni safonau Diogelu drwy Ddylunio ac meddai:
Dyma enghraifft dda iawn o sut mae modd i egwyddorion Ddiogelu drwy Ddylunio gael eu hymgorffori yn rhan o ddatblygiad, gan wneud yr ysgol yn le diogel i ddisgyblion, staff, ac ymwelwyr.
Meddai Julie Odgers, sydd wedi gweithio ar y prosiect o'r cychwyn cyntaf:
Roedd hi’n bleser gweithio gydag ein partneriaid ar y prosiect cyffrous yma, ac yn dilyn llawer o gyfarfodydd, mae'n wych gweld bod Ysgol Llyn y Forwyn yn bodloni safonau Diogelu drwy Ddylunio.
Meddai'r Cynghorydd Sharon Rees, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Addysg a Phobl Ifainc:
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Llyn y Forwyn yn parhau i fod yn adnodd gwerthfawr i gymuned Gynrhedynog a'r ardaloedd cyfagos, gan ddarparu cyfleusterau Cymraeg o'r radd flaenaf mewn amgylchedd diogel. Roedd sicrhau bod y safle’n ddiogel i ddisgyblion a staff yn flaenoriaeth allweddol yn nyluniad y datblygiad - gan gadw hyn mewn cof wrth i ni hefyd ddarparu cyfleusterau ar y safle ar gyfer y gymuned ehangach. Hoffwn i ddiolch i Heddlu De Cymru a'r contractwr, Wynne Construction, am eu hymroddiad yn y maes yma, yn rhan o ddyluniad yr ysgol, ac rwy'n falch bod yr agwedd yma ar y prosiect wedi'i chydnabod am ei rhagoriaeth.
Symudodd y disgyblion a’r staff i'r ysgol newydd ym mis Ionawr 2025. Ers ei hagor, nid oes unrhyw droseddau wedi'u hadrodd ar safle'r ysgol, gan amlygu sut mae modd i ddylunio effeithiol a gweithio mewn partneriaeth gyfrannu at greu amgylcheddau addysgol mwy diogel. Mae'r ysgol hefyd wedi cael effaith gadarnhaol ar y gymuned ehangach, ac mae hi'n cyflawni swyddogaeth bwysig o ran hyrwyddo dysgu dwyieithog a chefnogi treftadaeth Cymru.
Meddai Richard Wynne, Cyfarwyddwr Wynne Construction:
Roedd Wynne Construction wedi mabwysiadu dull rhagweithiol a chwbl gydweithredol gyda Heddlu De Cymru er mwyn sicrhau bod Ysgol Llyn y Forwyn yn cael ei dylunio yn unol â'r safonau diogelwch uchaf, gan gyflawni achrediad Diogelu drwy Ddylunio yn y pen draw. O'r cychwyn cyntaf, roedden ni wedi cydnabod bod creu amgylchedd dysgu diogel yn hanfodol er mwyn sicrhau llwyddiant hirdymor yr ysgol, yn enwedig o ystyried ei swyddogaeth yn ased cymunedol allweddol.
Gan weithio mewn partneriaeth agos â'r Swyddog Dylunio er mwyn Atal Troseddau o Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, pensaer y prosiect, a phensaer y dirwedd, hwyluson ni gyfres o weithdai dylunio strwythurol, rheolaidd. Roedd y sesiynau yma wedi galluogi pawb i adolygu’r cynigion a oedd yn cael eu datblygu yn fanwl, gan sicrhau bod ystyriaethau diogelwch yn cael eu hymgorffori yn rhan o'r dyluniad yn hytrach na'u rhoi ar waith wedi i'r cynllun gael ei gwblhau. Trwy gydol y broses, buon ni’n cydbwyso mesurau diogelwch trylwyr gyda'r angen i sicrhau amgylchedd agored, croesawgar a chynhwysol ar gyfer disgyblion, staff, ac ymwelwyr.
Cafodd agweddau allweddol y dyluniad eu profi'n drylwyr, gan gynnwys goruchwyliaeth naturiol, rheoli mynediad, triniaethau ffiniau, strategaethau goleuo, a thirlunio allanol. Yn bwysig, cafodd pob elfen ei hasesu, nid yn unig ar gyfer ei heffeithiolrwydd o ran lleihau cyfleoedd i droseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, ond hefyd am ei hymarferoldeb, ei hadeiladwyedd, a'i goblygiadau cynnal a chadw hirdymor. Roedd hyn wedi sicrhau bod y datrysiadau terfynol yn effeithiol ac yn gyflawnadwy yn unol â chyfyngiadau'r prosiect.
Roedd ein dull cydweithredol "un tîm", wedi ein galluogi ni i lunio penderfyniadau gwybodus a datrys heriau posibl yn gynnar. Trwy integreiddio arbenigedd diogelu at y cyd a mewnbwn pensaernïol ac adeiladu, roedd carfan y prosiect wedi gallu dylunio er mwyn gwared â pheryglon o’r cychwyn cyntaf, gan wella ansawdd a chydnerthedd cyffredinol amgylchedd yr ysgol.
Roedd y fethodoleg integredig yma yn allweddol wrth gyflawni achrediad Diogelu drwy Ddylunio yn llwyddiannus, a hefyd yn cynorthwyo amcanion cynaliadwyedd ehangach y prosiect, gan gynnwys cyflawni safon 'Rhagorol' BREEAM. Y canlyniad yw cyfleuster addysgol sy'n cyflawni’n dda ac sydd nid yn unig yn bodloni safonau amgylcheddol llym, ond hefyd yn darparu lleoliad diogel a chefnogol i'w defnyddwyr ac i'r gymuned ehangach.
Dysgwch ragor am Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Cyngor Rhondda Cynon Taf ar wefan Trawsnewid RhCT yma.
Wedi ei bostio ar 23/06/2026