Mae'r Cyngor wedi cyhoeddi manylion am 16 o sesiynau cyhoeddus wyneb yn wyneb sy'n cael eu cynnal ym mis Gorffennaf. Bydd y rhain yn rhoi cyfle i drigolion ddweud eu dweud ar y llwybrau cerdded a beicio presennol yn Rhondda Cynon Taf, ynghyd â chynigion ar gyfer y dyfodol.
Dechreuodd ymarfer ymgysylltu helaeth ar Fap Rhwydwaith Teithio Llesol y Cyngor ym mis Mai 2026, a bydd yn parhau tan fis Awst. Mae manylion llawn am yr ymgynghoriad i'w gweld yn yr eitem newyddion flaenorol. Mae Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru adolygu a diweddaru eu map yn rheolaidd. Mae ymgysylltu â thrigolion yn rhan bwysig iawn o'r broses yma.
Mae cyfle i drigolion barhau i ddweud eu dweud ar wefan Dewch i Siarad RhCT, lle mae gwybodaeth am lwybrau teithio llesol cyfredol ac arfaethedig, ac arolwg i gyflwyno eu hadborth. Mae'r Cyngor hefyd wedi ymrwymo i gynnal sesiynau cyhoeddus yn lleol, lle bydd cyfle i drigolion gwrdd â'r garfan, darganfod rhagor o wybodaeth, a dweud eu dweud. Mae'r sesiynau canlynol wedi'u cadarnhau ar gyfer Gorffennaf 2026:
- Llyfrgell Hirwaun (10am-1pm – dydd Mercher, 1 Gorffennaf).
- Llyfrgell Aberdâr (2pm-5pm – dydd Mercher, 1 Gorffennaf).
- Llyfrgell Pontypridd (10am-1pm – dydd Iau, 2 Gorffennaf).
- Llyfrgell Treorci (10am-1pm – dydd Llun, 6 Gorffennaf).
- Llyfrgell Tonypandy (2pm-5pm – dydd Llun, 6 Gorffennaf).
- Neuadd Les Llanharan (10am-1pm – dydd Mercher, 8 Gorffennaf).
- Llyfrgell Pont-y-clun (2pm-5pm – dydd Mercher, 8 Gorffennaf).
- Llyfrgell Aberpennar (10am-1pm – dydd Mawrth, 14 Gorffennaf).
- Llyfrgell Abercynon (2pm-5pm – dydd Mawrth, 14 Gorffennaf).
- Hen Lyfrgell Treherbert (10am-1pm – dydd Mercher, 15 Gorffennaf).
- Llyfrgell y Porth (2pm-5pm – dydd Mercher, 15 Gorffennaf).
- Llyfrgell Pentre'r Eglwys (10am-1pm, dydd Mawrth, 21 Gorffennaf).
- Llyfrgell Rhydfelen (2pm-5pm, dydd Mawrth, 21 Gorffennaf).
- Llyfrgell Glynrhedynog (10am-1pm, dydd Iau, 22 Gorffennaf).
- Llyfrgell Llantrisant (10am-1pm, dydd Mawrth, 28 Gorffennaf).
- Canolfan Hamdden Tonyrefail (2pm-5pm, dydd Mawrth, 28 Gorffennaf).
Sylwch, sesiynau ‘galw heibio’ yw’r rhain, mae cyfle i drigolion alw i mewn ar unrhyw adeg rhwng yr amseroedd penodedig, yn hytrach na bod yn bresennol am y cyfnod tair awr cyfan. Yn ogystal, efallai bydd lleoliadau a dyddiadau yn cael eu hychwanegu mewn cymunedau eraill maes o law. Bydd unrhyw sesiynau newydd yn cael eu hychwanegu ar y dudalen yma.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod o'r Cabinet â chyfrifoldeb dros faterion Seilwaith Cyfalaf: “Rydw i’n falch bod y Cyngor wedi cyhoeddi manylion 16 o sesiynau cymunedol a fydd yn cael eu cynnal ym mis Gorffennaf i hyrwyddo ein hymgynghoriad ar Map Rhwydwaith Teithio Llesol. Rydyn ni'n annog trigolion i rannu eu gwybodaeth leol am lwybrau cerdded a beicio presennol a chynigion ar gyfer llwybrau newydd, yn ogystal ag unrhyw syniadau newydd i'w hystyried. Mae llawer o fanteision i annog rhagor o bobl i gerdded a beicio ar siwrneiau bob dydd, o leihau tagfeydd traffig, helpu'r amgylchedd, a gwella iechyd a lles – ac elfen allweddol o hyn yw adolygu a buddsoddi mewn llwybrau lleol.
“Ar gyfer 2026/27, rydyn ni wedi derbyn cyllid allweddol gan Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Drafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae'r cyllid yma'n cynnwys £390,000 ar gyfer gwaith bach teithio llesol a datblygu cynlluniau, £660,000 i ddatblygu agwedd teithio llesol Coridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan yn y dyfodol, a £298,000 ar gyfer cynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau ym Mhen-y-waun. Rydyn ni hefyd wedi dathlu agor y cyfan o brif lwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach, sy'n 10 cilmoedr o hyd, o Faerdy i Tylorstown, yn ddiweddar. Byddwn ni hefyd yn ymgynghori â thrigolion yn fuan ar ddarpariaeth newydd o Dreorci i Dreherbert yng Nghwm Rhondda Fawr.
“Rydw i’n annog trigolion sydd â diddordeb i ymweld ag un o’n sesiynau cymunedol i siarad â’r garfan, cael rhagor o wybodaeth, a chael cymorth i gwblhau’r arolwg wyneb yn wyneb. Mae'r ymgynghoriad ehangach yn parhau tan 20 Awst, ac mae adnodd gwybodaeth a'r arolwg ar gael i bawb ar-lein.”
Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.
Wedi ei bostio ar 26/06/2026