Skip to main content

Ymgynghoriad cyhoeddus ar lwybrau cerdded a beicio cymunedol

TfW 2

Bydd y Cyngor yn dechrau cyfnod ymgysylltu ,a'r cyhoedd cyn bo hir lle bydd cyfle i drigolion ddweud eu dweud ar ei Fap Rhwydwaith Teithio Llesol presennol. Mae'r map yma'n amlinellu'r llwybrau cerdded a beicio presennol yn Rhondda Cynon Taf, ynghyd â llwybrau newydd arfaethedig sy'n cael eu cynllunio a'u datblygu ar gyfer y dyfodol.

Mae hybu dulliau teithio llesol yn rhan o deithiau beunyddiol pobl yn flaenoriaeth bwysig i'r Cyngor – mae gofyn i bob cyngor yng Nghymru fapio eu llwybrau cerdded a beicio presennol a manylu ar eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Mae angen adolygu a diweddaru'r adnodd yma'n rheolaidd, ac mae mewnbwn trigolion yn rhan bwysig o'r broses yma.

Er mwyn llywio'r adolygiad a'r diweddariad nesaf o'r map, bydd y Cyngor yn cynnal ymarfer ymgynghori cyhoeddus helaeth gyda thrigolion yn fuan – o ddydd Gwener, 29 Mai tan 20 Awst (2026).

Ar-lein, bydd modd i drigolion fynd i wefan Dewch i Siarad RhCT i gael gwybodaeth am yr ymgynghoriad, ynghyd â holiadur lle mae modd cyflwyno adborth yn ffurfiol. Bydd y Cyngor yn hyrwyddo'r dudalen yma ar ei dudalennau Facebook ac Instagram drwy gydol cyfnod yr ymgynghoriad. Sylwch, fydd sylwadau a gaiff eu cyflwyno ar y cyfryngau cymdeithasol ddim yn cael eu cofnodi yn rhan o’r ymgynghoriad.

Bydd cyfleoedd hefyd i drigolion gymryd rhan y tu allan i'r rhyngrwyd, ac mae achlysuron wyneb yn wyneb cyhoeddus yn cael eu trefnu ar hyn o bryd. Bydd y rhain yn digwydd mewn sawl cymuned – byddwn ni'n cadarnhau'r lleoliadau, amseroedd a dyddiadau yn fuan. Cadwch lygaid ar ein gwefan a'n cyfryngau cymdeithasol am fanylion am y rhain.

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Aelod o'r Cabinet â chyfrifoldeb dros faterion  Seilwaith Cyfalaf: “Un o’n blaenoriaethau allweddol parhaus yw hyrwyddo cerdded a beicio yn ein cymunedau, gan ein bod ni'n gobeithio annog rhagor o bobl i deithio'n llesol o ddydd i ddydd. Bydd hyn yn gwella iechyd a lles, yn lleihau tagfeydd traffig ar ein ffyrdd, ac yn helpu i ddiogelu'r amgylchedd. I gyflawni hyn, rydyn ni'n parhau i fuddsoddi'n helaeth mewn teithio llesol – drwy wella ein llwybrau presennol a chreu rhai newydd yn ein cymunedau. 

“Mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ein buddsoddiad mewn teithio llesol dros nifer o flynyddoedd – ac ym mis Mawrth 2026 cawsom ni gadarnhad o’r rownd nesaf o brosiectau lleol sy'n cael eu hariannu drwy Gronfa Drafnidiaeth Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (2026/27). Dyrannodd y Gronfa £390,000 ar gyfer gwaith bach, datblygu cynlluniau, a hyrwyddo ein map rhwydwaith mewn perthynas â theithio llesol, ynghyd â £660,000 i ddatblygu'r dyluniad teithio llesol sy'n gysylltiedig â Choridor Trafnidiaeth Gynaliadwy Llanharan yn y dyfodol. Rydyn ni hefyd wedi derbyn £298,000 i wella'r amgylchedd i gerddwyr ym Mhen-y-waun trwy gynllun Llwybrau Diogel mewn Cymunedau. 

“Yn ogystal, mae ein buddsoddiad blaenllaw o £12 miliwn yn Llwybr Teithio Llesol Cwm Rhondda Fach bron â chael ei gwblhau’n llwyr. Mae llawer o'r prif lwybr cerdded a beicio 10 cilomedr eisoes ar gael ac mae disgwyl i'r rhan olaf rhwng Glynrhedynog a Tylorstown agor yn fuan iawn. Bydd y llwybr yn ased gwych sy'n cwmpasu llawer o gymunedau, ac rydw i'n hyderus y bydd yn parhau i fod yn boblogaidd iawn gyda thrigolion ac ymwelwyr â Chwm Rhondda Fach. 

“Mae diweddaru ein cynlluniau’n barhaus a gofyn i’r cyhoedd gyfrannu eu syniadau a'u barn yn bwysig i siapio'r buddsoddiad yma. Yn fuan, byddwn ni'n dechrau ein hymgynghoriad diweddaraf ar y Rhwydwaith Teithio Llesol. Yn ystod y broses yma byddwn ni'n annog cymaint o drigolion â phosibl i rannu eu gwybodaeth leol gyda ni, ar-lein neu wyneb yn wyneb, hyd at 20 Awst.”

Mae rhagor o wybodaeth am ein buddsoddiad mewn Priffyrdd a Pheirianneg ar dudalennau gwe ein hymgyrch #TrawsnewidRhCT.

Wedi ei bostio ar 28/05/2026