Bydd cynnig y Cyngor o deithiau rhatach ar fysiau dros gyfnodau o wyliau yn ôl unwaith eto ar gyfer Pasg 2026 – bydd teithiau sengl yn Rhondda Cynon Taf yn costio dim mwy na £1.50 ar unrhyw weithredwr am gyfnod o bythefnos.
Bydd teithiau'n rhatach o ddydd Sadwrn 28 Mawrth i ddydd Sul 12 Ebrill. Dyma'r nawfed tro ers haf 2023 i'r Cyngor gynnig tocynnau rhatach ar drafnidiaeth gyhoeddus i drigolion, gan ddefnyddio cyllid o Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth San Steffan.
Mae'r cynnig yma'n parhau i ganolbwyntio ar gyfnodau allweddol o'r flwyddyn, fel gwyliau ysgol a chyfnod y Nadolig, a'i nod yw lleihau rhwystrau economaidd sydd efallai'n atal pobl rhag dal y bws. Bydd y cynllun £1.50 dros y Pasg yn efelychu'r cynnig diweddaraf ym mis Rhagfyr 2025.
Fel yr arfer, bydd y cynnig yn berthnasol i bob taith bws sy'n cychwyn ac yn gorffen o fewn ffin Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae pob gweithredwr bysiau lleol yn rhan o'r cynllun a bydd yn berthnasol o daith gynta'r dydd i'r un olaf. Fydd dim cyfyngiadau amser ar waith.
Bydd angen i ddeiliaid cerdyn teithio rhatach sganio'r pas fel yr arfer yn ystod y cyfnod. Fydd teithiau sy'n dechrau neu'n gorffen y tu allan i Rondda Cynon Taf ddim yn cael eu cynnwys yn y cynnig yma, a bydd raid talu'r ffi lawn arferol.
Cofiwch, mae prisiau tocynnau bws i blant a phobl ifainc 5 i 21 oed wedi'u cyfyngu i uchafswm o £1 am un daith ar hyn o bryd, diolch i Lywodraeth Cymru. Bydd angen i bob person rhwng 16 a 21 oed ddangos ‘Fy Ngherdyn Teithio’ dilys i fanteisio ar y cynllun, tra bydd angen i blant dan 16 oed brynu tocyn bws unffordd i blentyn. Fydd cynllun lleol y Cyngor dros gyfnod Pasg 2026 ddim yn effeithio ar y cynnig yma i bobl ifainc.
Meddai'r Cynghorydd Andrew Morgan OBE, Arweinydd Cyngor Rhondda Cynon Taf ac Aelod o'r Cabinet ar faterion Isadeiledd a Buddsoddi: "Dyma'r nawfed tro i'r Cyngor allu cynnig cyfnod o deithiau rhatach ar fysiau o fewn Rhondda Cynon Taf, wrth i ni ddefnyddio'r cyllid sydd ar gael gan Lywodraeth San Steffan. Bydd gosod cap o £1.50 ar bob taith bws sengl, cyn belled â'i bod yn dechrau ac yn gorffen yn y Fwrdeistref Sirol, yn arbediad sylweddol i drigolion yn ystod pythefnos gwyliau'r Pasg, o 28 Mawrth.
"Mae cyfnodau blaenorol o deithiau rhatach ar fysiau wedi bod yn boblogaidd iawn gyda'r cyhoedd, yn ogystal â'n gweithredwyr bysiau lleol sydd wedi nodi tuedd gyffredinol o weld cynnydd yn nifer y cwsmeriaid. Rydyn ni am annog rhagor o bobl i ddefnyddio'r bws yn rhan o'u teithiau bob dydd, er mwyn lleihau nifer y cerbydau ar ein ffyrdd, lleihau amseroedd teithio a diogelu'r amgylchedd. Rydyn ni hefyd yn gwybod bod costau byw'n parhau i fod yn uchel, ac mae modd i fentrau fel y rhain helpu i dorri rhwystrau economaidd sydd weithiau'n atal pobl rhag defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.
"Rydyn ni'n parhau i groesawu cefnogaeth Llywodraeth San Steffan drwy ei Chronfa Ffyniant Gyffredin, sy'n golygu bod modd i ni gyflawni cynlluniau fel hyn – fel y gwelson ni gyda'r cynllun diweddaraf ym mis Rhagfyr 2025. Yn y flwyddyn ariannol gyfredol (2025/26), rydyn ni wedi elwa o gyllid gwerth £1 filiwn, sy'n dilyn £1.2 miliwn y llwyddon ni sicrhau y llynedd (2024/25)."
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU, gan Lywodraeth San Steffan, wedi'i dyrannu i Awdurdodau Lleol i helpu i gyflwyno mentrau a fydd yn lleihau costau byw i drigolion. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy fesurau sy'n gwella effeithlonrwydd ynni, ac yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd a newid yn yr hinsawdd.
Wedi ei bostio ar 13/03/2026